Neidio i'r prif gynnwy

Diben

Mae'r ddogfen hon yn nodi'r dyddiadau ar gyfer cyflwyno gwybodaeth angenrheidiol yn ystod blwyddyn ariannol 2025/26 ac mae’n rhoi arweiniad ar y cyflwyniadau hynny yn ôl y gofyn. Bydd templedi ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru (Ffurflenni rheoleiddio ar gyfer cymdeithasau tai) lle bo angen cyflwyno mewn fformat penodol.

Dyddiad dod i rym: 31 Mawrth 2026

Dogfennau cysylltiedig: Y Fframwaith Rheoleiddiol ar gyfer Cymdeithasau Tai sydd wedi’u cofrestru yng Nghymru (Awst 2025)

Dosberthir i: LCC Cymru

Gwybodaeth ofynnol

Er mwyn cyflawni ein rôl reoleiddio, mae arnom angen y wybodaeth sydd wedi’i nodi erbyn y dyddiadau a ddangosir yn Atodiad A:

Sylwer mai'r dyddiadau olaf ar gyfer cyflwyno’r wybodaeth yw’r rhain. Rydym yn croesawu gwybodaeth yn gynharach, unwaith y bydd y dogfennau wedi cael y gymeradwyaeth briodol.

Bydd cyflwyno gwybodaeth angenrheidiol yn hwyr yn aml yn ystyriaeth wrth fynd ati i lunio Dyfarniadau Rheoleiddio.

Os bydd unrhyw un o'r dyddiadau cyflwyno yn peri anhawster ichi neu os oes gennych gwestiwn ynglŷn â'r gofynion o ran cyflwyno, cysylltwch â'r Tîm Rheoleiddio Tai i drafod.

Cyfrifon Statudol

Dylid anfon copïau wedi eu llofnodi a’u cymeradwyo gan y Bwrdd a’r Archwilwyr Allanol.

Dylid cyhoeddi Cyfrifon Statudol ar wefan y Landlord Cymdeithasol Cofrestredig erbyn y dyddiad cyflwyno.

Cyfrifon Rheoli

Fel y'u cymeradwyir gan y Bwrdd â'r gofynion sylfaenol canlynol:

  1. Cyfrifon incwm a gwariant manwl, ynghyd â mantolen
  2. Incwm a gwariant fesul ffrwd fusnes (lle bo’n berthnasol)
  3. Naratif yn esbonio unrhyw amrywiant mawr (gan gynnwys yr achosion sy’n ymwneud ag incwm a gwariant cyfalaf)
  4. Monitro cyfamodau benthyciadau, gan gynnwys rhagolygon o’r hyn a ddisgwylir ar gyfer diwedd y flwyddyn
  5. Rhagolwg llif arian, gan gynnwys manylion yr arian parod presennol a’r cyllid sydd ar gael ar gyfer o leiaf y 18 mis nesaf.

Gellir darparu rhai o’r gofynion hyn mewn Adroddiad Trysorlys – gweler isod.

Os nad yw cylch cyfarfodydd y Bwrdd yn caniatáu cymeradwyo’r cyfrifon o fewn y terfyn amser 42 dydd, cyflwynwch gopi ddrafft o’r cyfrifon erbyn y dyddiad a bennwyd ac anfonwch gadarnhad eu bod wedi cael eu cymeradwyo yn ddiweddarach.

Adroddiad Trysorlys

Mae nifer cynyddol o LCC yn llunio adroddiad ar eu swyddogaeth trysorlys, ar wahân i’w Cyfrifon Rheoli. Pan fo LCC yn llunio un o’r rhain, dylid darparu copi ar ôl iddo gael ei gymeradwyo gan y Bwrdd neu’r Pwyllgor perthnasol.

Rhagolygon Ariannol 30 Mlynedd

Bydd y gofynion cyflwyno manwl ar gyfer y rhagolygon ariannol 30 mlynedd yn cael eu darparu ar wahân.

Y dyddiad cau ar 31 Awst yw'r dyddiad olaf ar gyfer cyflwyno. Dylid cyflwyno’r Rhagolwg ar ôl i'r Bwrdd ei gymeradwyo.

Cynllun Busnes Strategol

Mae rhai LCC yn llunio Cynllun Busnes Strategol, dros bum mlynedd fel arfer, yn ogystal â Rhagolwg Ariannol 30 Mlynedd.

Pan fo hyn yn digwydd, dylid cyflwyno hwnnw hefyd, wedi iddo gael ei gymeradwyo gan y Bwrdd.

Canlyniadau’r Arolwg Boddhad Tenantiaid

Bydd canllawiau ar wahân yn cael eu cyhoeddi. Cysylltwch â'r Tîm Rheoleiddio Tai os nad ydych yn siŵr o'r gofynion hyn.

Hysbysiadau Gwaredu

Mae Hysbysiadau Gwaredu heb Flaenoriaeth yn ofynnol bob chwarter, yn ogystal â hysbysiadau â blaenoriaeth, sy’n ofynnol o fewn 10 diwrnod i gwblhau gwerthiant.

Ewch i: ffurflenni hysbysu am waredu ynghyd â chanllawiau cyfarwyddyd ynghylch hysbysu am waredu.

Arolwg Rheoleiddio Chwarterol

Mae arolwg yn cael ei anfon yn uniongyrchol at LCCau bob chwarter. Dilynwch y cyfarwyddiadau yn yr e-bost a'r arolwg yn ofalus.

Dull Cyflwyno

Dylid cyflwyno’r holl wybodaeth y gofynnir amdani yn electronig i 
housingregulation@llyw.cymru

Sylwer na chaiff copïau caled eu derbyn.

Manylion cyswllt

Gellir cysylltu â’r Tîm Rheoleiddio Tai drwy:

E-bost: housingregulation@llyw.cymru

Atodiad A: Amserlen ar gyfer 1 Ebrill 2026 i 31 Mawrth 2027

Atodiad A: Amserlen ar gyfer 1 Ebrill 2026 i 31 Mawrth 2027
Cyflwyno gwybodaethManylionDyddiad cyflwynoFformat y cyflwyniad
  1. Datganiadau ariannol wedi’u harchwilio
Ar gyfer LCC sy'n gweithredu mewn strwythur Grŵp – mae datganiadau ariannol cyfunol a datganiadau ariannol ar gyfer is-gwmnïau unigol yn ofynnol. 6 mis ar ôl diwedd y flwyddyn 
  1. Llythyr yr Archwilydd ac ymateb y Bwrdd
Fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Archwilio neu’r Bwrdd6 mis ar ôl diwedd y flwyddyn  
  1. Cysoni cyfrifon rheoli â datganiadau ariannol
Cysoni'r ffigurau yn y datganiadau ariannol â'r rhai a gyflwynwyd i'r Bwrdd yn y cyfrifon rheoli.6 mis ar ôl diwedd y flwyddyn  
  1. Cyfrifon rheoli chwarterol
Fel y’u cymeradwywyd gan y Bwrdd 42 diwrnod ar ôl diwedd y chwarter   
  1. Adroddiad trysorlys
    (lle y’i lluniwyd)
Fel y’i cymeradwywyd gan y Bwrdd / Pwyllgor42 diwrnod ar ôl diwedd y chwarter  
  1. Datganiad cyllid preifat (PFR)
Lle daw’r flwyddyn ariannol i ben ym mis Rhagfyr, mae datganiad ar gyfer 31 Rhagfyr 2025 yn ofynnol hefyd.   31 Mai 2026Defnyddiwch demplad Excel 2026 
  1. Rhagolygon ariannol 30 mlynedd
Yn unol â’r canllawiau manwl31 Awst 2026

Canllawiau/templad  

ar wahan i ddilyn

 
  1. Cynllun busnes strategol/corfforaethol
Fel y’i cymeradwywyd gan y BwrddPan fo ar gael  
  1. Crynodeb o’r Archwiliad Mewnol
Fel y’i cyflwynwyd i’r Bwrdd a / neu’r Pwyllgor Archwilio

31 Gorffennaf 2026

neu 30 Ebrill 2026 (lle daw’r flwyddyn ariannol i ben ym mis Rhagfyr)

  
  1. Datganiad blynyddol o esemptiadau atodlen 1
Yn unol â Chylchlythyr Cymdeithasau Tai 005/10. Mae datganiad yn ofynnol hyd yn oed os na wnaed unrhyw esemptiadau yn ystod y cyfnod

31 Mai 2026

neu 28 Chwefror 2026 (lle daw’r flwyddyn ariannol i ben ym mis Rhagfyr)

  
  1. Canlyniadau’r arolwg boddhad tenantiaid
Gan ddefnyddio’r templed a ddarperir28 Chwefror 2027

Canllawiau/templad  

ar wahan i ddilyn

 
  1. Datganiad amrywiaeth y Bwrdd
Gan ddefnyddio’r templed a ddarperir, asesu cyfansoddiad y Bwrdd ar 30 Medi 202631 Hydref 2026

Canllawiau/templad  

ar wahan i ddilyn

 
  1. Hunan-werthusiad gyda chynllun gwella cydymffurfiaeth
Dim fformat benodol – gweler y Fframwaith Rheoleiddiol ar gyfer Cymdeithasau Tai wedi’u Cofrestru yng Nghymru.

Bob blwyddyn

 

 

 

 

 

 
14.  Hysbysiadau gwaredu

Gweler y ddolen uchod

 

Heb Flaenoriaeth - 21 diwrnod ar ôl diwedd

y chwarter

Blaenoriaeth – o fewn 10 diwrnod i gwblhau gwerthiant

Defnyddio y ffurflen Hysbysiadau Gwaredu Excel safonol 
  1. Arolwg Rheoleiddio Chwarterol

Gweler yr ebost a ddaw gyda bob arolwg

 

Gweler yr ebost a ddaw gyda bob arolwgDefnyddio’r templad a ddarparwyd cyn cyflwyno bob chwarter