Neidio i'r prif gynnwy

Yn ddiweddar bu’r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, yr Arglwydd
Elis-Thomas, yn ymweld â Chaffi’r Sea Shanty yn Nhrearddur, Ynys Môn i weld sut mae’r busnes yn dod yn ei flaen.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Agorodd y Sea Shanty ei ddrysau ym mis Gorffennaf 2016 ar ôl i’r sylfaenydd, Philip Brown, a Chyngor Sir Ynys Môn gydweithio ac ar ôl iddo gael cyllid oddi wrth Croeso Cymru. Saif yr adeilad newydd sbon hwn y tu ôl i brif draeth Trearddur a’r twyni tywod ac mae ganddo le i 160 y tu mewn a 55 y tu allan.

Mae’r lleoliad ar yr arfordir a threftadaeth forol yn ardal wedi dylanwadu ar y tu mewn ac mae’n rhoi ymdeimlad cryf o le i’r pentref. Mae cychod hwylio pren a hen beiriannau cychod i’w gweld ar y nenfwd ac mae gwaith hynod gan grefftwyr lleol i’w weld ymhobman. Mae plac sy’n rhoi cydnabyddiaeth i’r crefftwr ar bob un o’r darnau hynny. Mae’r Caffi/Bwyty yn dathlu glan y môr mewn ffordd anarferol iawn − mae poteli llawn tywod o draethau ym mhedwar ban byd i’w gweld ar hyd un wal gyfan ac mae cregyn, copr o longddrylliadau, broc môr a phethau eraill y daethpwyd o hyd iddynt ar y traeth yn addurno’r muriau.

Cyfarfu’r Gweinidog â Phil Brown, a ddywedodd fod y busnes, ar y dechrau, wedi disgwyl creu deuddeg ar hugain o swyddi, ond ei fod bellach yn cyflogi dros drigain o bobl leol ac yn cynnal busnes â dwsinau o fusnesau lleol eraill. Dywedodd Phil Brown:

“Mae’r Sea Shanty yn enghraifft glasurol o sut mae’r sector cyhoeddus a’r sector preifat yn gallu cydweithio er budd i’r naill a’r llall. Yn bersonol, mae’r ochr greadigol wedi bod yn gryn hwyl ac mae wedi rhoi cyfle inni i gyd fynegi’n barn ar faterion fel ailgylchu, clirio sbwriel a gwella’r amgylchedd pensaernïol.

Rydyn ni’n defnyddio bwyd sy’n cael ei gyflenwi gan dyfwyr, pysgotwyr a chynhyrchwyr lleol pryd bynnag y bo modd a dwi’n falch o fedru dweud bod gennym nifer mawr o staff Cymraeg eu hiaith yn cyfarch cwsmeriaid ac yn gweini arnynt.”  

Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas:

“Wrth inni ddathlu Blwyddyn y Môr eleni, roedd yn gyfle gwych i weld sut mae’r Sea Shanty’n gwneud yn fawr o’n harfordir godidog ac yn gwneud yn siŵr bod pob agwedd ar y busnes, o’r addurnwaith i’r bwydlenni, yn creu ymdeimlad o le.

Mae’r Sea Shanty yn un o nifer cynyddol o fwytai uchel eu hansawdd ar arfordir Cymru sy’n rhoi croeso cynnes Cymreig i bobl a phrofiad gwych o fwyd Cymru. Dw i’n hynod falch ein bod wedi gallu cefnogi’r datblygiad hwn a dwi’n dymuno pob llwyddiant i’r tîm yn y dyfodol.”

Ymwelwch â chyllid Twristiaeth Llywodraeth Cymru am fanylion y cyllid sydd ar gael ar hyn o bryd.