Neidio i'r prif gynnwy
Yr Arglwydd Terry Burns

Yr Arglwydd Burns yw Cadeirydd Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru.

Mae Terence Burns, y Barwn Burns GCB, yn economegydd Prydeinig, a wnaed yn Arglwydd am Oes ym 1998 am ei wasanaethau fel cyn-Brif Gynghorydd Economaidd ac Ysgrifennydd Parhaol Trysorlys Ei Mawrhydi. Ar hyn o bryd mae'n Uwch-gynghorydd i Santander UK, yn Gadeirydd Anweithredol Glas Cymru, ac yn Gyfarwyddwr Anweithredol Pearson Group plc.

Mae'r Arglwydd Burns hefyd yn Llywydd y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, Llywydd y Gymdeithas Economegwyr Busnes, Cyn-Gadeirydd Corff Llywodraethu'r Academi Gerdd Frenhinol, a Chyn-Gadeirydd Côr a Cherddorfa Monteverdi, ac mae bellach yn Gadeirydd yr Ymddiriedolaeth Artistiaid Clasurol Ifanc (YCAT). Ar 5 Tachwedd 2009 cyhoeddwyd ei fod yn Ddarpar Gadeirydd Corfforaeth Deledu Channel Four, gan olynu Luke Johnson, a ymddeolodd ar 27 Ionawr 2010 yn dilyn chwe blynedd yn y swydd.