Neidio i'r prif gynnwy

Y cyd-destun

Cyhoeddwyd Strategaeth Ddigidol Cymru a'r Cynllun Cyflawni cysylltiedig ym mis Mawrth 2021. Maent yn nodi sut rydym am ddefnyddio digidol a data i wella bywydau pobl a helpu busnesau a chymunedau i ffynnu. Mae'r Strategaeth yn nodi cyfres o feysydd blaenoriaeth o dan chwe chenhadaeth, sef Gwasanaethau Digidol, Cynhwysiant Digidol, Sgiliau Digidol, Economi Ddigidol, Cysylltedd Digidol, a Data a Chydweithredu.

Mae'r canlyniadau yn y strategaeth a'r camau gweithredu yn y Cynllun Cyflawni yn cael eu llywio gan weledigaeth glir o'r hyn yr ydym am ei gyflawni yng Nghymru. Y weledigaeth hon yw: Digidol yng Nghymru - gwella bywydau pawb trwy gydweithio, arloesi a gwasanaethau cyhoeddus gwell.

Mae Llywodraeth Cymru’n cydnabod bod yr argyfwng costau byw yn cael effeithiau niferus a phellgyrhaeddol ar unigolion, teuluoedd, cymunedau a busnesau. Mae hefyd yn cydnabod bod yr argyfwng yn effeithio ar amrywiaeth o feysydd polisi ac y bydd effeithiau anochel ar gyflwyno Strategaeth Ddigidol Cymru.

Cytunodd Is-Bwyllgor y Cabinet ar Gostau Byw ar set o egwyddorion cyffredinol i helpu Llywodraeth Cymru i lywio'i hymateb i'r argyfwng costau byw. Mae'r meysydd lle’r oedd y risgiau mwyaf i unigolion, plant a chymunedau yn cynnwys:

  • Gwresogi: lleihau costau ynni a helpu pobl i gadw'n gynnes y gaeaf hwn
  • Bwyta: sicrhau bod pawb yn gallu cael bwyd iach yn rheolaidd
  • Llety: helpu i gadw pobl yn eu cartrefi, gan sicrhau eu bod yn gallu ymdopi yn ariannol ac yn gallu talu costau’r aelwyd
  • Byw: helpu pobl i barhau i gynnal cysylltiadau ac i wneud mwy na dim ond goroesi
  • Teithio: helpu pobl i fynd i’r gwaith, cael n3wyddau a gwasanaethau ac ymweld ag eraill.

Mewn ymateb i adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith y Senedd ‘Cysylltedd Digidol - Band Eang’, cytunodd Gweinidog yr Economi i Argymhelliad 6 yn yr adroddiad sef “Dylai Llywodraeth Cymru gynnal gwaith i ystyried effaith yr argyfwng costau byw ar ei Strategaeth Ddigidol. Dylai adrodd yn ôl ar y casgliadau o fewn y 6 mis nesaf”.

Mae'r adroddiad hwn yn rhoi trosolwg lefel uchel o effeithiau'r argyfwng costau byw ar feysydd allweddol yn y Strategaeth Ddigidol.

Effaith yr argyfwng costau byw

Gwasanaethau cyhoeddus

Mae'r Grŵp Polisi a Chyflawni Digidol Gweinidogol, sy’n cael ei gadeirio gan Weinidog yr Economi, yn rhan allweddol o'r strwythur llywodraethu’n ymwneud â chyflawni Strategaeth Ddigidol Cymru. Mae ei aelodaeth yn cynnwys swyddogion o dimau polisi a chyflawni ar draws Llywodraeth Cymru. Ar ddiwedd y llynedd, fe wnaeth y Grŵp ystyried effeithiau'r argyfwng costau byw ar bob cenhadaeth yn Strategaeth Ddigidol Cymru.

Er i'r pandemig ddangos pa mor hanfodol oedd hi i wasanaethau fod ar gael ar-lein, mae'r argyfwng wedi atgyfnerthu gweledigaeth Strategaeth Ddigidol Cymru a'r angen brys i wasanaethau ar-lein fod yn hawdd eu deall a'u cyrraedd gan y bobl sy'n eu defnyddio. Mae wedi tanlinellu y dylid cyflawni’r camau gweithredu yn y Cynllun Cyflawni yn gyflym, fel yr ymrwymiad i “ddatblygu a hyrwyddo canllawiau i gefnogi’r gwaith o fabwysiadu a gweithredu’r safonau gwasanaeth digidol". Mae’r safonau gwasanaeth digidol yn nodi y dylai gwasanaethau ganolbwyntio ar y defnyddiwr a bod yn ddwyieithog, yn hygyrch ac yn hawdd eu defnyddio. Yn ddiweddar, cynhaliodd y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol gyfres o sioeau teithiol ar draws Cymru i gwrdd â gweithwyr o’r sector cyhoeddus i gael adborth a deall yr heriau o ran mabwysiadu'r safonau.

Fodd bynnag, canlyniad arall yr argyfwng costau byw, o ran yr effaith ariannol ar gyrff cyhoeddus a'u hangen i flaenoriaethau cymorth brys, yw’r risg y gallai cyrff cyhoeddus ddewis peidio â buddsoddi mewn trawsnewid digidol neu mewn data a allai gefnogi'r gwaith o gyflawni'r Strategaeth Ddigidol Cymru. Nawr, yn fwy nag erioed, mae'n hanfodol bod gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn cydweithio i leihau costau, rhannu gwybodaeth, cefnogi pobl Cymru a sicrhau bod gan ddinasyddion ffordd hygyrch o dderbyn yr ymyriadau sy'n cael eu cynnig.

Mae ymgyrch "Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi” Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth posibl i roi arian yn ôl ym mhocedi pobl ac mae’n dwyn ynghyd yr amrywiaeth o gefnogaeth sydd ar gael i helpu pobl gyda rhai o'u costau byw. Mae hefyd yn cyfeirio at AdviceLink Cymru, sy’n llinell gymorth y gall pobl ei ddefnyddio i gael cyngor cyfrinachol am ddim.

I ategu’r ymgyrch "Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi”, mae'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol yn cefnogi Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yng Nghymru drwy wella ymwybyddiaeth pobl o wasanaethau cyhoeddus ac, yn benodol, y gwasanaethau hynny y maent yn gymwys i’w cael. Mae'n arwain gwaith cydweithredol i lunio dull cyffredin o ymdrin â chynnwys gwefannau, gan gynnwys ar gyfer strwythurau iaith a geirfa, fel ei bod hi'n hawdd i bobl gael gafael ar yr wybodaeth sydd ei hangen arnynt a'i deall. Mae dylunio cynnwys dwyieithog yn agwedd sylfaenol ar y gwaith hwn, gan sicrhau ei fod yn hygyrch ac yn gynhwysol yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Mae'n bwysig hefyd sicrhau bod awdurdodau lleol yn defnyddio cyfleoedd digidol yn llawn i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus effeithiol. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi arian i Brif Swyddog Digidol Llywodraeth Leol, sydd o fewn Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, i roi arweinyddiaeth strategol mewn llywodraeth leol ac i sbarduno gwelliant digidol. Mae’r Prif Swyddog Digidol wedi cefnogi prosiect Data Tlodi Bwyd Merthyr sy’n ceisio deall a fyddai modd cyfuno data dinasyddion a gedwir ar draws sawl system cyngor i helpu swyddogion i nodi, mor gynnar â phosibl, y dinasyddion sydd mewn perygl o syrthio i dlodi.

Mae gan y Prif Swyddog Digidol ddull "anghenion cymharol" o ddefnyddio'r Gronfa Ddigidol gwerth £1 miliwn yn effeithiol, fel bod prosiectau trawsnewid digidol sy'n datrys problemau cyffredin ar y cyd yn cael eu blaenoriaethu. Mae hyn wedi arwain at weithredu pum prosiect allweddol ar draws Cymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae'r prosiectau'n cynnwys gwella gwasanaethau, lleihau costau drwy gefnogi dinasyddion i ymgysylltu'n well â gwasanaethau digidol a meithrin sgiliau digidol.

Yn ystod yr hydref, nododd y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol mai un rhwystr i gyrff cyhoeddus wrth ymateb i'r argyfwng costau byw oedd rhwystrau canfyddedig i rannu data. Ar 28 Tachwedd, cynhaliodd Llywodraeth Cymru Fforwm Gwasanaeth Cyhoeddus ar Rannu Data a’r Argyfwng Costau Byw er mwyn codi proffil rhannu data, amlinellu sut y gall helpu sefydliadau i ymateb i'r argyfwng costau byw a chwalu'r mythau ynghylch y camsyniad na ellir rhannu data.

Roedd cynrychiolwyr o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru yn bresennol yn y fforwm a chafwyd sgyrsiau gan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yng Nghymru, Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru a Llywodraeth Cymru ynghylch sut y gall deddfwriaeth alluogi rhannu gwybodaeth er budd pobl Cymru yn ystod y cyfnod heriol hwn.

Rydym i gyd yn ymwybodol bod y risg fyd-eang o ymosodiadau seiber yn codi ochr yn ochr â chyflymder datblygiadau technolegol, ac nid yw Cymru’n gallu osgoi hynny. Mae troseddwyr seiber yn aml yn ceisio manteisio ar ddigwyddiadau amserol i wneud eu hymdrechion i we-rwydo yn fwy argyhoeddiadol. Yn 2022, fe wnaeth y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol weld seiberdroseddwyr yn manteisio ar gostau byw cynyddol gyda sgamiau’n ymwneud â chymorth biliau ynni gan Ofgem a sgamiau ynghylch ad-daliadau treth gan CThEM, ac roeddent hefyd ar yr un pryd yn parhau i fanteisio ar bandemig y coronafeirws gyda sgamiau’n ymwneud â phrofion Covid.   

Mae'r risg, sy'n esblygu'n gyflym, yn golygu’r posibilrwydd o amharu ar unigolion, busnesau neu sefydliadau. Er na ellir gwneud unrhyw system na gwasanaeth yn gwbl ddiogel rhag y bygythiad o ymosodiad seiber, sy’n newid yn gyflym, mae'n hanfodol bod sefydliadau'n parhau i fuddsoddi i wella eu cadernid yn erbyn ymosodiadau seiber ac yn cymryd camau i leihau'r risgiau ac i baratoi ar gyfer delio ag unrhyw ddigwyddiad ac adfer ohono.

Rhaid i seiberddiogelwch a seibergadernid fod wrth wraidd y broses o ddylunio gwasanaethau digidol a dylid eu hystyried o’r cychwyn cyntaf.

Yn fwy cyffredinol, rydym yn datblygu Cynllun Gweithredu Seiber i Gymru a fydd yn dwyn ynghyd ddatganiad cydlynol o uchelgais a gweithgarwch seiber yng Nghymru. Bydd y cynllun hwn ar gyfer sefydliadau yn bennaf, ond wrth iddo gael ei weithredu bydd unigolion a dinasyddion yn elwa arno hefyd gan y byddant wedi’u diogelu fwy ac yn fwy gwybodus am sut i fod yn ddiogel ar-lein.

Cynhwysiant a thegwch

Mae telathrebu yn fater sydd heb ei ddatganoli a Llywodraeth y DU sy’n llwyr gyfrifol amdano. Mae Strategaeth Ddigidol Cymru, fodd bynnag, yn cydnabod bod cysylltedd digidol yn agwedd sylfaenol ar fywyd bob dydd sy’n galluogi pobl i gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus pwysig ac ymgysylltu â nhw, i gadw cysylltiad â ffrindiau a theuluoedd neu i barhau i weithio a chael mynediad at gyfleoedd dysgu. Mae ein pwerau trafnidiaeth datganoledig yn ein galluogi i ystyried sut y gellid defnyddio cysylltedd ffibr llawn sy'n rhedeg ochr yn ochr â llinellau rheilffordd i ddarparu cysylltedd â sefydliadau eraill a darparu gwasanaethau teithio mwy hygyrch a chynhwysol trwy ddulliau digidol.

Fe wnaeth anghydraddoldebau digidol ddod i’r amlwg yn ystod y pandemig, gyda'r rhaniad digidol rhwng y rhai a oedd â dyfais, data a'r sgiliau a'r hyder digidol o'u cymharu â'r rhai nad oedd yn meddu ar y pethau hyn, yn dod yn fwyfwy clir. Mae'r argyfwng costau byw bellach wedi ychwanegu at y rhwystr o ran fforddiadwyedd, gyda risg uwch y bydd mwy o bobl yn cael eu heithrio’n ddigidol oherwydd cost biliau dyfeisiau symudol a band eang.

Mae erthyglau newyddion diweddar wedi nodi tuedd o ran pobl yn gwerthu dyfeisiau digidol oherwydd pwysau'r argyfwng costau byw. Mae risg y bydd hyn yn parhau wrth i filiau ynni aelwydydd aros yn uchel ac wrth i gostau eraill aelwydydd gynyddu, megis morgeisi a thaliadau rhent. Mae ein dibyniaeth ar gysylltedd digidol i gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus digidol yn golygu bod cysylltedd bellach yn gyfleustod hanfodol i aelwydydd. Felly, mae'r costau uwch i gynnal cysylltedd, ynghyd ag anghenion yr aelwyd ar gyfer data neu gyflymder gwasanaeth, wedi datblygu’n wariant hanfodol gan aelwydydd. Yn ôl Uswitch (Chwefror 2023) mae dinasyddion yn debygol o weld cynnydd o hyd at 17.3% mewn prisiau contract ar gyfer contractau band eang a symudol oherwydd chwyddiant.

Mae data presennol Ofcom yn dangos bod dau ar bymtheg o ddarparwyr telathrebu yn cynnig tariff cymdeithasol, sy'n becyn band eang cost is i'r rhai sy'n hawlio budd-daliadau sy'n seiliedig ar brawf modd. Yn ogystal, mae darparwyr telaathrebu wedi cadarnhau na fydd y rhai sy'n derbyn tariff cymdeithasol yn cael eu heffeithio gan y cynnydd mewn prisiau oherwydd chwyddiant ar gyfer 2023. Ar hyn o bryd mae dau ddarparwr yn cynnig tariff cymdeithasol cyfatebol ar gyfer contractau symudol. Awgrymodd data Ofcom ym mis Medi 2022 mai dim ond 3.1% o aelwydydd yn y DU oedd wedi manteisio ar dariff gymdeithasol o blith tua 4 miliwn o aelwydydd cymwys yn y DU. O ganlyniad, mae her sylweddol i gynyddu ymwybyddiaeth o dariffau cymdeithasol a’r niferoedd sy’n manteisio arnynt fel ffordd arall o leihau'r baich ariannol ar aelwydydd drwy ddarparu cysylltedd digidol fforddiadwy. Mae swyddogion wedi cadarnhau gydag Ofcom bod disgwyl i'r data nesaf ar y niferoedd sy’n manteisio ar dariff cymdeithasol gael ei gyhoeddi ym mis Ebrill/Mai 2023.

I deuluoedd â phlant oed ysgol, mae'n bosibl y bydd yr argyfwng costau byw yn cynyddu'r perygl o eithrio digidol, yn enwedig i'r dysgwyr mwyaf difreintiedig neu agored i niwed. Bydd llai o deuluoedd yn gallu fforddio prynu offer digidol ar gyfer y cartref ac felly gallai hyn effeithio ar hyder unigolion o’r genhedlaeth iau i’r genhedlaeth hŷn i ddefnyddio'r offer a datblygu sgiliau digidol Mae angen i ni hefyd ystyried effaith costau byw ar dlodi mewn gwaith, gan gynnwys ar y rhai nad ydynt yn gymwys i gael budd-daliadau ond y mae cysylltedd yn debygol o fod yn gyfleustod hanfodol i gynnal eu cyflogaeth.

Dangosodd dadansoddiad gan Which? (Ebrill 2022) mai'r addasiad mwyaf cyffredin a wnaed gan aelwydydd oedd lleihau gwariant ar hanfodion eraill er mwyn fforddio gwasanaethau telathrebu - amcangyfrifir bod 3.5 miliwn o aelwydydd yn y DU wedi lleihau gwariant ar fwyd a dillad yn y mis blaenorol i fforddio gwasanaethau cysylltedd (cynnydd o 59% o dua 2.2 miliwn ym mis Chwefror 2022). Dywedodd Cyngor ar Bopeth Cymru fod 17% o'r holl hawlwyr wedi nodi problem gyda 'dyledion telathrebu eraill (gan gynnwys band eang)’ rhwng Hydref 2021 a Medi 2022. Yn ogystal, ym Mehefin 2022 roedd 8% o gartrefi Cymru ar ei hôl hi o ran biliau dyfeisiau symudol (10% yn y DU) a 7% ar ei hôl hi o ran biliau band eang (9% yn y DU).

Mae Llywodraeth Cymru’n gweithio'n agos â chydweithwyr yn Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth y DU ar dariffau cymdeithasol ar gyfer band eang. Mae Llywodraeth y DU wedi cynnal cyfarfod bwrdd crwn gyda'r holl ddarparwyr a rheoleiddwyr telathrebu i drafod ac annog mwy o waith i hyrwyddo tariffau cymdeithasol yn y sector. Mae’r Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon, ar y cyd â’r Adran Gwaith a Phensiynau, wedi lansio gwiriwr cymhwystra digidol sy'n caniatáu i ddarparwyr telathrebu wirio'n syth a yw unigolion yn gymwys i gael tariff cymdeithasol, gan helpu i gyflymu'r broses ar gyfer dinasyddion.

Mae'r Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon hefyd wedi creu ymgyrch genedlaethol yn y DU ar dariffau cymdeithasol. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhannu adnoddau ymgyrchu yng Nghymru gydag aelodau'r Bwrdd Rhaglen Cynnwys Digidol i’w rhaeadru drwy eu rhwydweithiau gyda'r nod o gynyddu’r gwaith hyrwyddo ar lefel gymunedol. Ond, y sefyllfa ym mis Chwefror 2023 yw bod swyddogion yn dal i aros am gadarnhad gan yr Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon ynghylch darparu’r holl adnoddau marchnata yn ddwyieithog.

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru’n cynnal arolwg o'r cysylltedd digidol ar gyfer y Canolfannau Clyd ledled Cymru, gyda chefnogaeth Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Mae'r arolwg yn asesu’r cysylltiad band eang i’r Canolfannau ac a oes cysylltiad WiFi ar gael yn gyhoeddus ar y safle. Rydym yn dal i aros am ymatebion gan rai awdurdodau lleol ond mae'r adborth hyd yma yn dangos bod y Canolfannau Clyd mewn amrywiaeth o leoliadau, gan gynnwys eiddo awdurdodau lleol ond hefyd mewn neuaddau pentref, eglwysi ac adeiladau eraill. Mae gan safleoedd awdurdodau lleol gysylltedd da ar y cyfan, a gall cynlluniau talebau band eang gynnig opsiynau i sicrhau cysylltedd yn gyflym mewn safleoedd nad ydynt yn rhai awdurdod lleol. Yn dibynnu ar ganfyddiadau'r arolwg, efallai y bydd cyfle i archwilio gyda Cymunedau Digidol Cymru a Good Things Foundation a allai'r Banc Data Cenedlaethol gefnogi’r Canolfannau Clyd mewn neuaddau pentref ac eglwysi i gofrestru (heb unrhyw gost) fel canolfannau ar-lein drwy'r Good Things Foundation. Byddent wedyn yn dod yn Fanc Data ac yn gallu rhoi simiau data am ddim i bobl mewn angen. Byddai Cymunedau Digidol Cymru'n gallu darparu cymorth a chanllawiau’n uniongyrchol i'r holl sefydliadau sydd eisiau dod yn ganolfannau ar-lein.

Rydym hefyd yn archwilio sut y gellid defnyddio DataMapCymru, sy’n lwyfan data geo-ofodol a rennir sydd yn gwasanaethu fel ffynhonnell ar gyfer data sector cyhoeddus yng Nghymru, i fapio'r Canolfannau Clyd ledled Cymru a dangos pa mor hygyrch ydynt i breswylwyr.  

Yr economi a sgiliau

Gan ei bod yn ymddangos bod y DU yn mynd i ddirwasgiad, gallai'r argyfwng costau byw gael effaith enfawr ar fusnesau a'r economi. Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn gweld nifer uwch o fusnesau mewn trafferthion, ac rydym wrthi'n monitro ein cadwyni cyflenwi i asesu'r effeithiau hyn. O safbwynt masnachol, rydym yn cydnabod bod nwyddau a gwasanaethau’n cynyddu yn unol â'r Mynegai Prisiau Defnyddwyr / Mynegai Prisiau Manwerthu sy'n cael sgil-effaith ar gyrff cyhoeddus sy’n defnyddio gwasanaethau o'r fath i ddarparu trawsnewidiad.

Mae prinder byd-eang eisoes o sgiliau technoleg, digidol a data a gall cyflwr economi'r DU effeithio ar ein gallu i ddenu neu gadw'r dalent digidol ar draws y sectorau cyhoeddus, preifat a'r trydydd sector yng Nghymru. Ar ben hynny, efallai nad oes gan gyflogwyr ddigon o gyllideb i fuddsoddi yn yr awtomeiddio, y sgiliau digidol esblygol ac arloesi digidol sydd ei angen i gadw i fyny â'r newidiadau digidol cyflym ym myd sgiliau a thechnolegau digidol.

Yn ystod yr argyfwng presennol, mae’n bwysig bod darpariaeth cyflogadwyedd a sgiliau Llywodraeth Cymru wedi'i dargedu i'r rhai sydd ei angen fwyaf. Gallai’r pwysau ar gyllidebau a diwedd arian Ewropeaidd i gefnogi'r rhaglenni Cymunedau am Waith olygu bod y ddarpariaeth sgiliau i bobl ddi-waith yng Nghymru mewn perygl. 

I’r rhai sydd mewn cyflogaeth, mae Llywodraeth Cymru’n cynnig hyfforddiant mewn sgiliau digidol trwy nifer o'i rhaglenni cyflogadwyedd a sgiliau, gan gynnwys y Rhaglen Sgiliau Hyblyg. Cynigir darpariaeth bellach trwy ein prentisiaethau TG a digidol helaeth gyda naw rhaglen is-radd a thair prentisiaeth lefel gradd ar gael yng Nghymru. Cyflwynir y Prentisiaethau Gradd digidol mewn Peirianneg Meddalwedd, Gwyddor Data a Seiberddiogelwch. Rydym hefyd wedi ehangu'r rhaglen Cyfrif Dysgu Personol yn ddiweddar i gynnwys cyllid wedi'i dargedu at sgiliau yn y sector ddigidol, sy'n cwmpasu cyllid ar gyfer amrywiaeth o gyrsiau digidol i bobl.

Casgliad

I gloi, mae'n anochel y bydd yr argyfwng costau byw yn cael effaith ar gyflawni Strategaeth Ddigidol Cymru a'r camau gweithredu yn y Cynllun Cyflawni. Mae rhai o'r effeithiau'n gadarnhaol ac yn annog sefydliadau i weld pa mor hanfodol yw hi i ddefnyddwyr fod wrth wraidd y gwasanaethau y maent yn eu darparu.

Ceir effeithiau negyddol hefyd, yn enwedig o ran cynhwysiant a chysylltedd digidol. Mae Llywodraeth Cymru’n cymryd mesurau i liniaru'r effeithiau hynny drwy ymgyrch “Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi” a thrwy waith hanfodol gydag awdurdodau lleol i gynyddu hygyrchedd a chysondeb cynnwys gwefannau fel y gall pobl gael gafael ar wybodaeth a gwasanaethau allweddol. Gallai effaith ariannol yr argyfwng ar wasanaethau cyhoeddus hefyd oedi buddsoddi mewn trawsnewid digidol.

Fodd bynnag, o ran y mater allweddol o gysylltedd, rhaid cydnabod hefyd nad oes gan Lywodraeth Cymru’r holl ysgogiadau i liniaru effeithiau'r argyfwng, yn enwedig o ran gweithio gyda'r diwydiant i ddarparu a hyrwyddo tariffau cymdeithasol mwy fforddiadwy i'r bobl sydd eu hangen.