Yr Athro David Sweeney Dirprwy Gadeirydd
Dirprwy Gadeirydd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil.
Roedd yr Athro David Sweeney yn Gadeirydd Gweithredol Research England am bum mlynedd tan 2023. Roedd hyn yn dilyn cyfnod o ddeng mlynedd fel Cyfarwyddwr Ymchwil, Arloesi a Sgiliau yng Nghyngor Cyllido Addysg Uwch Lloegr (HEFCE), yn cydweithio â chyrff cyllido Addysg Uwch eraill y Deyrnas Unedig i oruchwylio'r ymarfer Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil cyntaf. Mae e bellach yn Athro Polisi Ymchwil ym Mhrifysgol Birmingham.