Yr Athro Fonesig Julie Lydon Cadeirydd
Cadeirydd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil.
Roedd yr Athro Fonesig Julie Lydon yn Is-Ganghellor un o brifysgolion mwyaf Cymru, Prifysgol De Cymru, rhwng 2013 a 2021. Goruchwyliodd y broses o uno Prifysgol Morgannwg a Phrifysgol Cymru, Casnewydd i greu’r Brifysgol a'i grŵp ehangach, oedd yn cynnwys y Coleg, Merthyr Tudful a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae'n dod â phrofiad llywodraethu ac arweinyddiaeth drwy ei swyddi cyfredol anweithredol, ac o’i phrofiad blaenorol fel Cadeirydd Prifysgolion Cymru, Dirprwy Gadeirydd University Alliance a Dirprwy Gadeirydd Cymdeithas Cyflogwyr Prifysgolion a Cholegau.