Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Canolfan Ragoriaeth newydd mewn TB Gwartheg yn agor ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ddiweddarach eleni, gan ddod ag arbenigwyr y byd ynghyd i drechu'r clefyd gwartheg.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yr Athro Glyn Hewinson, arbenigwr bydenwog mewn TB Gwartheg, fydd yn arwain gwaith y ganolfan. Yr Athro Hewinson yw'r Prif Wyddonydd TB Gwartheg yn yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, gan arwain yr ymchwil i'r clefyd yno am ragor nag 20 mlynedd. 

Bydd y ganolfan yn costio £3.6m gyda chefnogaeth Sêr Cymru II, rhaglen a noddir gan Lywodraeth Cymru, yr UE a'r Brifysgol i ehangu a datblygu arbenigeddau ymchwil academaidd yng Nghymru. 

Bydd y Ganolfan Ragoriaeth yn ganolbwynt i'r ymchwil genedlaethol a rhyngwladol i TB Gwartheg gan obeithio troi'r cynnyrch y mae'n eu datblygu'n syniadau busnes, gan gydweithio â diwydiant ar brofion a brechlynnau newydd. 

Mae TB Gwartheg yn cael effaith ariannol a chymdeithasol fawr ar fusnesau fferm a'r gymuned wledig ehangach. Amcangyfrifir bod ymladd y clefyd yn costio rhyw £26m y flwyddyn yng Nghymru yn unig, trwy'r rhaglen rheoli TB a'r iawndal a delir i ffermwyr am ddifa eu gwartheg. 

Mae Sêr Cymru II am gryfhau'n rhagoriaethau ymchwil a denu arbenigwyr ymchwil newydd i Gymru. Noddir y rhaglen gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, y Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru sy'n cymryd rhan a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop. 

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths: 

"TB Gwartheg yw'r broblem fwyaf sydd gennym ym maes iechyd anifeiliaid yng Nghymru heddiw. Mae'n cael effaith ofnadwy ar y fuches genedlaethol a'r gymuned ffermio, ac mae'n faich ar y pwrs cyhoeddus. 

"Gallai'r Ganolfan Ragoriaeth droi'r rhod yn y frwydr yn erbyn TB Gwartheg ac mae'n rhan o'n hamcan tymor hir o ddileu'r clefyd am byth." 

Dywedodd y Dr Christianne Glossop, Prif Swyddog Milfeddygol Cymru: 

"Mae'r Athro Hewinson yn arloesydd yn y byd ymchwil i TB Gwartheg ac mae'n arbenigwr ac yn arweinydd o fri rhyngwladol. Mae'n uchel iawn ei barch ymhlith ei gyd-arbenigwyr ac mae ei benodi'n dangos yn glir i bawb pa mor benderfynol ydyn ni o drechu'r clefyd." 

Wrth ymateb i'w benodiad, meddai'r Athro Hewinson: 

"Testun balchder ac anrhydedd aruthrol imi yw cael fy mhenodi i Gadair Ymchwil Sêr Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth, i arwain y Ganolfan Ragoriaeth newydd mewn TB Gwartheg. Bydd y ganolfan yn ymchwilio i agweddau sylfaenol ar wyddor TB Gwartheg, gan gefnogi'r ymdrechion i drechu'r clefyd difaol hwn, ar y cyd â'r Llywodraeth a diwydiant. 

Dywedodd yr Athro Peter Halligan, Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru: 

"Mae'n hanfodol i ffyniant economaidd Cymru a'n gallu i gystadlu ym marchnadoedd y byd yn y dyfodol ein bod yn denu'r talentau rhyngwladol newydd i Gymru i gryfhau ein galluoedd ymchwil a datblygu gwyddonol sydd eisoes yn destun clod. Rwy'n falch iawn o gael croesawu'r Athro Hewinson fel y 12fed Cadair ymchwil sydd wedi'i ddenu i Gymru fel rhan o raglen Sêr Cymru." 

Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: 

"Rydyn ni'n falch iawn ein bod yn cael sefydlu Canolfan Ragoriaeth mewn TB Gwartheg ym Mhrifysgol Aberystwyth gyda chymorth Llywodraeth Cymru. Mae cost economaidd ac emosiynol TB Gwartheg mewn cymunedau gwledig yn gallu bod yn dorcalonnus ac mae penodi'r Athro Hewinson, gyda'i gyfoeth o brofiad yn gweithio i daclo'r clefyd, yn fuddsoddiad arwyddocaol iawn o'n  rhan ni wrth inni chwilio am ffyrdd newydd i daclo'r hen broblem hon."