Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant heddiw y bydd yr Hawl i Brynu yn cael ei hatal dros dro yng Nghaerdydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Gorffennaf 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Daw’r penderfyniad hwn wrth i ddeddfwriaeth arfaethedig gan Lywodraeth Cymru i ddiddymu'r Hawl i Brynu yn llwyr ledled Cymru fynd yn ei blaen drwy’r Cynulliad.

Mae'r Hawl i Brynu yn caniatáu i denantiaid tai cymdeithasol cymwys brynu eu tai oddi ar gyngor neu gymdeithas dai, gyda disgownt. Bydd y ddeddfwriaeth arfaethedig yn rhoi terfyn ar yr hawliau hyn, gan ddiogelu stoc y tai cymdeithasol rhag cael ei lleihau ymhellach. 

Dros y 30 mlynedd ddiwethaf, mae'r Hawl i Brynu wedi arwain at leihad sylweddol yn stoc y tai cymdeithasol. Rhwng 1981 a 2014, cafodd 138,709 o dai cyngor eu gwerthu – mae hyn yn cyfateb i leihad o 45% yn nifer y tai cymdeithasol sydd ar gael ers i'r polisi gael ei gyflwyno am y tro cyntaf. 

Mae ymchwil yn awgrymu hefyd fod llawer o'r tai hyn yn mynd i'r sector rhentu preifat yn y diwedd ac, o ganlyniad, maent yn ddrutach i bobl eu rhentu, sy'n golygu, mewn rhai achosion, fod mwy o arian cyhoeddus yn cael ei wario ar fudd-dal tai.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet: 

“Rwyf wedi cytuno â chais Cyngor Caerdydd i atal yr Hawl i Brynu dros dro er mwyn eu helpu nhw i ddelio â'r pwysau sydd ar eu tai cymdeithasol ac i sicrhau bod tai ar gael ar gyfer y rheini sydd eu hangen.

“Bydd hyn yn helpu un ardal am gyfnod byr o amser, ond mae angen i ni fynd i'r afael â'r mater hwn at y tymor hir hefyd. Dyna pam rydym yn deddfu i ddiddymu'r Hawl i Brynu yng Nghymru.

“Mae'r Hawl i Brynu yn erydu ein stoc tai cymdeithasol. Mae'r polisi niweidiol hwn yn rhoi mwy fyth o bwysau ar ein cyflenwad tai cymdeithasol ac yn gorfodi llawer o bobl sy'n agored i niwed i aros yn hirach cyn cael cartref.

“Cyflwyno deddfwriaeth i ddod â'r Hawl i Brynu i ben yw'r unig ffordd sicr o atal hyn ac o roi'r hyder i landlordiaid cymdeithasol i fuddsoddi mewn adeiladu mwy o'r tai fforddiadwy y mae eu hangen yng Nghymru.”

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: 

“Rwy’n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi caniatâd i’r Cyngor roi terfyn ar y cynllun Hawl i Brynu yng Nghaerdydd am gyfnod o bum mlynedd. Mae’n dda bod awdurdodau lleol yn gallu gwneud hyn mewn ardaloedd lle mae cryn bwysau o ran tai – ac mae hynny’n sicr yn wir am Gaerdydd.

“Mae Caerdydd yn un o’r dinasoedd sy’n tyfu gyflymaf yn y Deyrnas Unedig. Mae dros 8,000 o bobl ar y rhestr aros am dai cymdeithasol ar hyn o bryd. Rhaid inni wneud popeth yn ein gallu i sicrhau ein bod yn darparu tai o safon i’r bobl sydd eu hangen fwyaf, nawr ac yn y dyfodol.

“Yn 1985, roedd gan y Cyngor 23,000 o gartrefi ond mae’r nifer wedi cwympo i 13,400 erbyn hyn; a hynny yn sgil Hawl i Brynu, yn bennaf. Mae’r penderfyniad hwn yn ein galluogi ni i ddiogelu ein darpariaeth ar gyfer y bobl sydd ei hangen, nawr ac at y dyfodol.”