Gwybodaeth am fyfyrwyr a gafodd eu haddysgu i ryw raddau drwy gyfrwng y Gymraeg a'r staff academaidd sy'n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer Medi 2021 i Awst 2022.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Yr iaith Gymraeg mewn addysg uwch
Prif bwyntiau
- Arhosodd nifer cyffredinol y myfyrwyr sy'n astudio rhai credydau yn Gymraeg yn 2021/22 ar lefel debyg i 2020/21 (7,215 o gofrestriadau yn 2021/22). Arhosodd nifer y cofrestriadau ar gyfer myfyrwyr a oedd yn cael rhywfaint o'u haddysg drwy'r Gymraeg fel cyfran o'r holl gofrestriadau hefyd ar lefel debyg i'r llynedd (5% o'r holl gofrestriadau).
- Y modiwlau Addysg ac addysgu oedd â'r nifer uchaf o fyfyrwyr yn astudio rhai credydau yn Gymraeg (1,440), gan gyfrif am 21% o'r myfyrwyr a oedd yn astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.
- Llai na thraean o'r myfyrwyr y gwyddys eu bod yn rhugl yn y Gymraeg wedi astudio drwy gyfrwng y Gymraeg. O'r rhai a astudiodd drwy gyfrwng y Gymraeg, astudiodd 69% o leiaf 40 credyd yn y Gymraeg.
- Gwelwyd gostyngiad o 7% yn nifer y staff academaidd mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru (ac eithrio’r Brifysgol Agored) y gwyddys eu bod yn addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, o 575 yn 2020/21 i 535 in 2021/22.
- Roedd llai na hanner y staff academaidd mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru (ac eithrio’r Brifysgol Agored) y gwyddys eu bod yn gallu addysgu yn y Gymraeg yn addysgu rhywfaint yn y Gymraeg yn 2021/22.
(r) Adolygwyd ar 22 Ionawr 2024. Nodwyd gwall yn nhabl E.2 ‘Yr iaith Gymraeg mewn addysg uwch: Medi 2021 i Awst 2022’. Roedd ffigurau yng ngholofn ‘Addysgu yn y Gymraeg’ Tabl E.2 yn anghywir, ac roedd cyfrifiadau dilynol yn y sylwadau cysylltiedig ar gyfer Tabl E.2 yn anghywir. Ni chafodd unrhyw rannau eraill o’r bwletin nac unrhyw giwbiau StatsCymru eu heffeithio gan y gwall hwn.
Adroddiadau
Yr iaith Gymraeg mewn addysg uwch: Medi 2021 i Awst 2022 (diwygiedig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 767 KB
Cyswllt
Sedeek Ameer
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.