Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth am fyfyrwyr a gafodd eu haddysgu i ryw raddau drwy gyfrwng y Gymraeg a'r staff academaidd sy'n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer Medi 2018 i Awst 2019.

Pwyntiau allweddol

Mae nifer y myfyrwyr sy'n astudio rhywfaint o'u gradd drwy gyfrwng y Gymraeg wedi gostwng yn 2018/19 o 6,205 i 5,940. Fodd bynnag, mae nifer y rhai sy’n astudio o leiaf 5, 40 neu 80 credyd wedi cynyddu. Daw’r gostyngiad cyffredinol yn bennaf o blith myfyrwyr sy’n astudio llai na 5 credyd yn Gymraeg.

Addysg oedd y pwnc mwyaf poblogaidd a addysgwyd drwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd 1 ym mhob 6 o fyfyrwyr yr oedd rhywfaint o'u haddysgu yn Gymraeg yn astudio Addysg. 

Roedd traean o'r myfyrwyr yng Nghymru sy'n ystyried eu bod yn rhugl yn y Gymraeg yn astudio rhan o'u gradd drwy gyfrwng y Gymraeg. Roedd 1 ym mhob 15 o siaradwyr Cymraeg rhugl yn astudio drwy gyfrwng y Gymraeg yn bennaf (120 credyd yn Gymraeg).

Mae nifer y staff academaidd sy'n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg wedi cynyddu 21% dros y 7 blynedd diwethaf.

Ni welwyd llawer o newid yn y nifer sy’n addysgu mewn gwirionedd. Mae nifer y staff Cymraeg wedi aros yr un peth.

Adroddiadau

Y iaith Gymraeg mewn sefydliadau addysg uwch, Medi 2018 i Awst 2019 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 791 KB

PDF
791 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Y gymraeg mewn addysg uwch, Medi 2018 i Awst 2019: ffeithlun , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 256 KB

PDF
256 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.