Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r Rhaglen Cartrefi Clyd, sy'n cynnwys Cynlluniau Nyth ac Arbed Llywodraeth Cymru wedi bod yn gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi ers 2009, gan eu gwneud yn lleoedd cynhesach a mwy cyfforddus i fyw ynddynt. Mae'r cynlluniau wedi cefnogi rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas drwy wella eu llesiant a'u gallu i wrthsefyll salwch y gellir ei osgoi, gan wneud cyfraniad uniongyrchol, parhaus a chadarnhaol at ddatgarboneiddio cartrefi yng Nghymru ar yr un pryd hefyd.

Ar 8 Tachwedd, nododd y Gweinidog Newid Hinsawdd gynigion ar gyfer gwella effeithlonrwydd ynni pob cartref yng Nghymru. Y bwriad a nodwyd yw parhau i ddilyn dull gweithredu ffabrig yn gyntaf, y gwaethaf yn gyntaf a charbon isel, gan roi mesurau ar waith i wella effeithlonrwydd ynni'r cartrefi incwm isel lleiaf thermol effeithlon yng Nghymru. 

Cyflawnir hyn mewn dwy ran:

  • Rhan 1 – Drwy gaffael gwasanaeth newydd a gaiff ei arwain gan y galw, byddwn yn sicrhau parhad i helpu'r rhai â'r lleiaf o allu i dalu ac ymateb i'r argyfwng costau byw. Bydd hyn hefyd yn sicrhau proses gyfiawn a fforddiadwy o newid i gartrefi carbon isel. 
  • Rhan 2 – Datblygu dull datgarboneiddio sy'n ymdrin â'r stoc dai gyfan er mwyn darparu strategaeth hirdymor ar gyfer effeithlonrwydd ynni, tlodi tanwydd a datgarboneiddio ar gyfer y sector. 

Mae'n iawn ein bod yn myfyrio ar y gwersi a ddysgwyd gennym. Er y bydd rhai gwersi eisoes wedi cael eu rhoi ar waith, er enghraifft drwy'r Peilot Cyflyrau Iechyd ac, yn fwy diweddar, drwy gyflwyno atebion solar ffotofoltaig a storio mewn batris fel mesurau carbon isel posibl, mae mwy o waith i'w wneud. Mae cyflawni rhaglen Cartrefi Clyd yn ein galluogi i gasglu gwybodaeth a thystiolaeth werthfawr, ochr yn ochr â'r ymatebion i'r ymgynghoriad cyhoeddus, er mwyn helpu i ddylunio a datblygu Rhan 1, sef iteriad nesaf Rhaglen Cartrefi Clyd. 

Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi'r canfyddiadau o'r adolygiadau ffurfiol ac anffurfiol canlynol o'r Rhaglen Cartrefi Clyd:

  • Archwilio Cymru – Adolygiad Tirwedd o Dlodi Tanwydd, Hydref 2019 ac Adroddiad ar y Rhaglen Cartrefi Clyd, Tachwedd 2021.
  • Adroddiad Pwyllgor Ynni, yr Amgylchedd a Materion Gwledig y Senedd, 2020. 
  • Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd, Ebrill 2022. 
  • Gwerthusiad Miller Research Consulting o Arbed 3: Adroddiad Gwerthuso Terfynol, Chwefror 2022. 
  • Gwersi a ddysgwyd o drefniadau rheoli contractau Nyth 2 ac Arbed 3. 

Mae'r adroddiadau hyn wedi cael eu cydgrynhoi er mwyn darparu un corff o dystiolaeth i gefnogi'r gwaith o ddatblygu'r cynllun(iau) newydd.  Er bod llawer o'r canfyddiadau'n ymwneud yn benodol â chynlluniau Arbed a Nyth, mae'r profiad yn amhrisiadwy er mwyn cefnogi'r gwaith o ddylunio'r cynlluniau newydd ochr yn ochr â thystiolaeth arall megis allbynnau'r ymgynghoriad cyhoeddus, yn ogystal â'r hyn a ddysgwyd o'r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio.

Negeseuon a themâu allweddol

Daw llond llaw o negeseuon a themâu allweddol i'r amlwg ym mhob un o'r adroddiadau ac adolygiadau. Caiff y rhain eu crynhoi isod, a bydd y datganiad polisi cysylltiedig yn nodi ein hymateb iddynt. Y themâu yw:

  • Dysgu o'r gorffennol, yr hyn sydd wedi gweithio a'r hyn nad yw wedi gweithio er mwyn osgoi ailadrodd unrhyw gamgymeriadau. Mae'r ddogfen hon yn rhan o'n hymateb i'r argymhelliad hwnnw.
  • Eglurder ynghylch diben. Mae'r adolygiadau'n cytuno bod angen i Lywodraeth Cymru fod yn eglur ynghylch ei hamcan (e.e. trechu tlodi tanwydd yn hytrach na dim ond gosod boeleri newydd ar gyfer pobl ar fudd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd. Mae angen adlewyrchu'r eglurder hwn ynghylch diben drwy dargedu aelwydydd sydd mewn tlodi tanwydd yn well a diwygio'r meini prawf cymhwysedd er mwyn sicrhau bod y cymorth yn canolbwyntio ar y rhai â'r angen mwyaf. 
  • Anelu at gyflawni dau nod, sef trechu tlodi tanwydd a datgarboneiddio. Un thema glir yn yr adroddiadau oedd bod angen taro cydbwysedd rhwng y ddau amcan a sicrhau y gwneir cynnydd tuag at gyflawni'r naill a'r llall. Rhaid i'r gwaith ar drechu tlodi tanwydd fod yn ystyriol ac yn gyson â gwaith ar yr agenda dlodi ehangach, yn ogystal â strategaeth ddatgarboneiddio tymor hwy ar gyfer gwres mewn adeiladau. Mae'r adolygiadau'n nodi'n glir ei bod yn rhaid i'r cynllun gefnogi mwy nag un canlyniad polisi lluosog, gan gynnwys sgiliau, er enghraifft.
  • Beth a gaiff ei fesur a sut. Daeth mwy nag un adolygiad i'r casgliad y bydd angen i unrhyw gynllun yn y dyfodol gael gweithdrefnau monitro a gwerthuso cadarn ar waith, ac y dylai unrhyw fetrigau fod yn ystyrlon yn erbyn amcan penodedig y cynllun.
  • Cydweithio a gweithio mewn partneriaeth ag eraill, yn enwedig cymunedau a llywodraeth leol, a fydd yn hybu ymgysylltiad a chefnogaeth i amcanion y cynllun newydd a'r gwaith o'u cyflawni. 
  • Gwell trefniadau rheoli contractau gyda'r adolygiadau a'r adroddiadau yn argymell trefniadau rheoli tynnach ac, er enghraifft, meincnodi costau, safonau gosod gwell a chliriach a phrosesau sicrhau ansawdd sy'n addas at y diben er mwyn sicrhau y caiff ansawdd cyflawni ei gynnal.
  • Cyfeiriwyd at nodweddion y cynlluniau mewn mwy nag un adolygiad, gydag argymhellion yn ymwneud ag amrywiaeth eang o feysydd, gan gynnwys:
    • Datblygu ffyrdd mwy deallus o gyfyngu ar gostau nag un cap.
    • Sicrhau y caiff goblygiadau o ran costau eu deall yn llawn.
    • Egluro a yw dull seiliedig ar ardaloedd yn ddichonadwy o hyd.
    • Datblygu cynnig ar gyfer y rhai nad ydynt yn gymwys ar gyfer y cynllun newydd.
    • Yr angen i ystyried cyllid ar gyfer gwaith galluogi. 
    • Yr angen i ystyried y gwahanol ffactorau sy'n effeithio ar gartrefi gwledig.
    • Yr angen i ystyried aelwydydd domestig sydd hefyd yn fusnesau.
    • Yr angen i fynd ar drywydd atgyweirio boeleri yn hytrach na gosod rhai newydd.

Adolygiadau Archwilio Cymru

Adolygiad tirwedd o dlodi tanwydd, Hydref 2019

  1. Ym mis Hydref 2019, cyhoeddodd Swyddfa Archwilio Cymru (SAC) ei Hadolygiad Tirwedd o Dlodi Tanwydd yng Nghymru.  Nod yr adroddiad oedd cyflwyno gwybodaeth ers i Strategaeth Tlodi Tanwydd  Llywodraeth Cymru gael ei chyhoeddi yn 2010 a nodi materion allweddol i Lywodraeth Cymru eu hystyried wrth ddatblygu'r cynllun newydd ar gyfer trechu Tlodi Tanwydd. Gwnaeth SAC 10 argymhelliad, gan gydnabod bod rhai o'r penderfynyddion sy'n cyfrannu at Dlodi Tanwydd y tu hwnt i reolaeth Llywodraeth Cymru.
  2. Cydnabu Archwilio Cymru fod Llywodraeth Cymru wedi ceisio gweithio gyda chyrff eraill a chydgysylltu ei hadrannau ei hun er mwyn mynd i'r afael â'r ffactorau ehangach sy'n achosi tlodi tanwydd, gan gynnwys buddsoddiad ehangach mewn rhaglenni ategol, megis gwaith i gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru ym mhob rhan o'r sector tai cyhoeddus. Nododd yr heriau sy'n gysylltiedig â dileu allyriadau carbon o dai domestig a chefnogi aelwydydd sydd mewn tlodi tanwydd ar yr un pryd.
  3. Noda'r adroddiad ei bod yn ymddangos bod y buddsoddiad mewn effeithlonrwydd ynni wedi helpu i leihau'r lefelau Tlodi Tanwydd amcangyfrifedig. Mae'r data ar y rhaglen Cartrefi Clyd yn dangos gwelliannau sylweddol yn effeithlonrwydd ynni'r cartrefi sydd wedi cael budd o'r rhaglen. Nid yw'r dystiolaeth yn dangos a yw'r bobl yn y cartrefi hynny wedi cael eu codi allan o Dlodi Tanwydd. 

Argymhellion o Adolygiad Tirwedd Swyddfa Archwilio Cymru o Dlodi Tanwydd yng Nghymru 

Cyfeiriad strategol
Argymhelliad 1

Dylai Llywodraeth Cymru fyfyrio ynghylch diben y targed sy’n gysylltiedig â dileu tlodi tanwydd a pha un a ellid ateb y diben hwnnw’n well trwy bennu uchelgais neu nod sy’n fwy cyson â chylch rheolaeth a dylanwad Llywodraeth Cymru. 

Argymhelliad 2

Dylai Llywodraeth Cymru roi disgrifiad eglur o’r gwersi a ddysgwyd o’r methiant i gyrraedd y targedau a bennwyd yn 2010 a nodi sut y mae’r gwersi hynny wedi cael eu rhoi ar waith wrth bennu unrhyw uchelgeisiau newydd a’r mecanweithiau ar gyfer eu gwireddu.

Argymhelliad 3

Dylai Llywodraeth Cymru ystyried datblygu casgliad mwy amlweddog o fesurau ar gyfer effaith ei rhaglenni a’i hymdrechion i drechu tlodi tanwydd, yn enwedig:

  • Datblygu ei mesurau ar gyfer ei rhaglen Cartrefi Cynnes sy’n seiliedig ar ganfod sut y mae sefyllfa buddiolwyr yn well mewn ffyrdd sydd o bwys iddynt ochr yn ochr â gwelliannau i effeithlonrwydd ynni’r cartref. 
  • Gweithio gyda’i bartneriaid i ddatblygu mesurau sy’n ei gwneud yn bosibl deall ar y cyd a yw ymdrechion i gydgysylltu gweithgarwch ar draws ffiniau sefydliadol a sectoraidd yn cael yr effaith a fwriadwyd. 
Cydgysylltu ac integreiddio
Argymhelliad 4

Dylai Llywodraeth Cymru archwilio a disgrifio dadansoddiad ariannol a charbon hirdymor o gostau, manteision a chyfnewidiadau blaenoriaethu aelwydydd sydd mewn tlodi tanwydd fel rhan o’i chynlluniau ehangach ar gyfer datgarboneiddio cartrefi. 

Argymhelliad 5

Gan weithio gyda phartneriaid, dylai Llywodraeth Cymru ddisgrifio’n fwy eglur sut y dylai cynlluniau tlodi tanwydd gysylltu’n lleol â gwaith arall i fynd i’r afael â’r achosion sylfaenol a achosodd i unigolion a chymunedau fod dan fygythiad o dlodi tanwydd. 

Argymhelliad 6

Dylai Llywodraeth Cymru fyfyrio, yng ngoleuni’r farn a fynegwyd wrthym ni, ynghylch ei dull o gynnwys rhanddeiliaid ac ymgysylltu â hwy, gan gynnwys archwilio pa un a oes angen rhoi unrhyw fecanweithiau ffurfiol ar waith ar gyfer mynd ati’n rheolaidd i gynnwys rhanddeiliaid ac ymgysylltu â hwy.

Cyllid ar gyfer cynlluniau effeithlonrwydd ynni
Argymhelliad 7

Wrth bennu cyllidebau ar gyfer y rhaglen Cartrefi Cynnes yn y dyfodol, dylai Llywodraeth Cymru fabwysiadu golwg eang, yn unol â’r ffyrdd o weithio dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, o ran sut y gallai cynlluniau tlodi tanwydd: atal costau mewn meysydd gwasanaeth eraill yn y dyfodol; a chyfrannu at nodau polisi ehangach, gan gynnwys y gostyngiad o 80% mewn carbon o dai erbyn 2050.

Argymhelliad 8

Dylai Llywodraeth Cymru nodi’n glir a fydd, ac os felly sut y bydd, yn cynorthwyo’r aelwydydd hynny mewn tlodi tanwydd nad ydynt yn gymwys i gael cymorth gan y cynllun Nyth ac nad ydynt yn byw mewn ardal sydd wedi’i chynnwys yn y cynllun Arbed.

Argymhelliad 9

Dylai Llywodraeth Cymru nodi’n glir sut y bydd yn cefnogi’r rhai mewn tlodi tanwydd difrifol, gan y gallant fod yn llai tebygol o ymgysylltu â gwasanaethau. 

Argymhelliad 10

Dylai Llywodraeth Cymru archwilio’n llawn beth yw’r rhesymau dros y tanwariant yn y rhaglen Arbed ac os oes problemau sylfaenol gyda’r dull seiliedig ar ardaloedd sy’n golygu bod y sefyllfa’n debygol o barhau, dylai Llywodraeth Cymru ymchwilio i opsiynau ar gyfer newid cydbwysedd y cyllid rhwng Nyth ac Arbed. 

Adolygiad Rhaglen Cartrefi Clyd Tachwedd 2021

  1. Cyhoeddodd Archwilio Cymru yr adroddiad hwn yn dilyn yr Adolygiad Tirwedd cynharach o Dlodi Tanwydd a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2019. Dechreuodd y gwaith ar yr adroddiad hwn ym mis Chwefror 2020. 
  2. Gwnaeth Archwilio Cymru ystyried sylwadau a wnaed gan swyddogion Llywodraeth Cymru, Rheolwyr Cynlluniau Nyth ac Arbed a swyddogion sicrhau ansawdd annibynnol Llywodraeth Cymru, Pennington Choices, wrth baratoi'r adroddiad.
  3. Cafodd y canfyddiadau a'r argymhellion eu croesawu gan Lywodraeth Cymru, ar y cyfan. 
  4. Cydnabu Archwilio Cymru fod y Rhaglen Cartrefi Clyd wedi helpu llawer o aelwydydd drwy roi mesurau effeithlonrwydd ynni iddynt am ddim. Dywedodd, gan y bydd y Rhaglen bresennol yn dod i ben yn ystod y ddwy flynedd nesaf, fod angen i Lywodraeth Cymru wneud penderfyniadau strategol allweddol ynghylch ei dyfodol. Bydd angen i unrhyw gynlluniau newydd yn y dyfodol fod yn wyrddach er mwyn cyd-fynd ag uchelgeisiau ehangach Llywodraeth Cymru o gyflawni allyriadau carbon sero net. 
  5. Canfu'r adroddiad fod y rhan fwyaf o'r mesurau a osodwyd gan y ddau gynllun yn cynnwys systemau gwresogi newydd. Ar y pryd, roedd 95% o'r prif systemau gwresogi a oedd wedi cael eu gosod mewn eiddo gan Nyth, a 98% o'r rhai a oedd wedi cael eu gosod gan Arbed, yn defnyddio tanwydd ffosil. Byddai costau uwch dewisiadau eraill carbon isel, fel pympiau gwres, yn golygu y byddai llai o aelwydydd yn cael cymorth pe bai'r mesurau hyn yn cael eu defnyddio'n ehangach, oni fydd cynnydd sylweddol mewn cyllid neu fod y costau'n lleihau'n sylweddol.
  6. Trafododd yr adroddiad yr angen i fod yn glir ynghylch diben craidd unrhyw raglen olynol, a phwy y bwriedir iddi eu helpu. Er iddo gael ei gyflwyno'n wreiddiol i fynd i'r afael â thlodi tanwydd, mae cynllun Nyth yn cael ei ddefnyddio fwyfwy i osod boeleri newydd yn lle rhai sydd wedi torri neu sy'n aneffeithlon ar gyfer pobl ar fudd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd nad ydynt o reidrwydd mewn tlodi tanwydd o bosibl. 
  7. A throi at Arbed, mae angen i Lywodraeth Cymru ystyried a yw'r dull o dargedu aelwydydd yn seiliedig ar ardaloedd yn ddichonadwy o hyd, o ystyried bod y cynllun wedi tangyflawni yn erbyn ei dargedau gwreiddiol a diwygiedig. Pandemig COVID-19 oedd yn rhannol gyfrifol am y tangyflawni hwn ond, hyd yn oed cyn hynny, bu cryn dipyn o oedi ac roedd tua £7.5 miliwn o gyllid grant gan yr UE heb gael ei ddefnyddio.
  8. Dywedodd yr adroddiad hefyd fod angen cryfhau'r trefniadau rheoli contractau cyffredinol mewn unrhyw gynlluniau yn y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys monitro cydymffurfiad â chontractau yn agosach, mynd i'r afael ag amrywiadau sylweddol yn y costau a godir am gyflenwi a gosod yr un mesurau effeithlonrwydd ynni a gwella gwybodaeth reoli.
Argymhellion – Cysoni strategaethau a pholisïau
Argymhelliad 1

Ar gyfer cynlluniau yn y dyfodol, dylai Llywodraeth Cymru adolygu’r mesurau effeithlonrwydd ynni sydd ar gael i sicrhau eu bod yn gyson â’i huchelgeisiau i leihau allyriadau carbon a sicrhau bod y goblygiadau cost o newid i fesurau gwyrddach yn cael eu cyllidebu’n llawn. 


Argymhelliad 2

Dylai Llywodraeth Cymru egluro diben craidd Nyth neu unrhyw gynllun olynol ac a yw’n ymwneud â disodli boeleri sydd wedi torri ar gyfer aelwydydd tlotach neu ddarparu cymorth ehangach i’r rhai sydd â’r risg mwyaf o brofi tlodi tanwydd.


Argymhelliad 3

Dylai Llywodraeth Cymru adolygu a yw’r dull cyflawni ar sail ardal a ddefnyddir gan gynllun Arbed yn parhau i fod yn ymarferol neu a oes angen ei ddiwygio’n sylweddol o ystyried y tangyflawni.


Argymhelliad 4

Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau, o dan iteriadau Rhaglen Cartrefi Clyd y dyfodol, fod contractau’n ddigon hyblyg i symud cyllid a chapasiti rhwng cynlluniau er mwyn cynyddu i’r eithaf gyflawniad cyffredinol y Rhaglen.


Argymhellion Rhaglen Cartrefi Clyd Llywodraeth Cymru – Trefniadau contractio
Argymhelliad 5

Cyn datblygu iteriad nesaf y Rhaglen Cartrefi Clyd, dylai Llywodraeth Cymru gynnal adolygiad llawn o’r gwersi a ddysgwyd o reoli’r contractau cyfredol a datblygu cynllun clir er mwyn cymhwyso’r gwersi hynny yn yr iteriad nesaf. Yn seiliedig ar ein hadolygiad, rydym yn disgwyl i’r gwersi hynny gynnwys yr angen i: 

  • gynnal gwaith meincnodi priodol rhwng cynigwyr a chostau cyfredol mesurau effeithlonrwydd ynni yn y farchnad er mwyn sicrhau cysondeb o ran prisio a chael gwerth am arian;
  • bod yn glir ynghylch disgwyliadau Rheolwyr Cynllun mewn cysylltiad â manylebau safonol y diwydiant ar gyfer sefydlu mesurau gwella effeithlonrwydd ynni;
  • sicrhau bod Rheolwyr Cynllun yn darparu eu cynlluniau adfer yn sgil trychinebau fel sy’n ofynnol gan y contractau;
  • monitro perfformiad yn agosach â gwybodaeth reoli fwy cyflawn a chywir; a 
  • chael cymorth mwy amserol a chynhwysfawr o’u trefniadau sicrhau ansawdd allanol annibynnol.

Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig

  1. Cyflwynodd Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig y Senedd ei adroddiad ar dlodi tanwydd yng Nghymru gerbron y Senedd ar 24 Ebrill 2020. Mae'r adroddiad yn cynnwys 21 o argymhellion, a derbyniwyd pob un ohonynt. Aeth Llywodraeth Cymru i'r afael â llawer o'r argymhellion y tynnwyd sylw atynt yn adroddiad y Pwyllgor, yn ei Chynllun ar gyfer Trechu Tlodi Tanwydd, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2021. 

Argymhellion gan Bwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig y Senedd a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2020

  1. Rhaid i strategaeth tlodi tanwydd newydd Llywodraeth Cymru fynd i’r afael â’r tri ffactor sy’n arwain at dlodi tanwydd - prisiau ynni, incwm cartrefi ac effeithlonrwydd ynni - a hynny mewn ffordd gynhwysfawr. 
  2. Rhaid i dargedau tlodi tanwydd newydd Llywodraeth Cymru fod yn heriol ond yn realistig. I gyd-fynd â’r targedau cyffredinol, rhaid cael targedau dros dro a cherrig milltir clir y gellir mesur cynnydd yn eu herbyn. 

    Wrth osod ei thargedau newydd, dylai Llywodraeth Cymru ystyried:
  • mabwysiadu dull tebyg i’r un a fabwysiadwyd gan Lywodraeth yr Alban;  
  • y ffordd orau o sicrhau bod y targedau’n cyfateb â’r uchelgais ehangach i ddatgarboneiddio stoc dai Cymru erbyn 2050. 
  1. Dylai Llywodraeth Cymru ystyried cyflwyno targedau tlodi tanwydd statudol newydd. Dylai adrodd yn ôl i’r Pwyllgor ar ganlyniad ei hystyriaethau cyn cyhoeddi ei strategaeth tlodi tanwydd derfynol.  Os bydd y Llywodraeth yn penderfynu peidio â chynnwys targedau statudol, rhaid iddi nodi ei rhesymau. 
  2. Rhaid i Lywodraeth Cymru sefydlu fframwaith monitro cadarn i oruchwylio’r cynnydd o ran cyflawni ei strategaeth tlodi tanwydd newydd. Dylai hyn gynnwys: 
  • cyhoeddi amcangyfrifon tlodi tanwydd blynyddol (sy’n cyd-fynd â’r diffiniad newydd o dlodi tanwydd), gan gynnwys amcangyfrifon o nifer yr aelwydydd anabl sy’n byw mewn tlodi tanwydd;
  • Bwrdd Cynghori ar Dlodi Tanwydd, neu strwythur ffurfiol tebyg, sy’n cydnabod rôl allweddol rhanddeiliaid wrth fonitro ac adolygu cynnydd, ac wrth ddarparu gwaith craffu allanol; 
  • ymrwymiad i Lywodraeth Cymru adrodd yn rheolaidd ar y cynnydd tuag at ei thargedau tlodi tanwydd newydd.
  1. Dylai Llywodraeth Cymru fabwysiadu diffiniad mwy priodol o dlodi tanwydd: un sy’n adlewyrchu profiad byw cartrefi sy’n dlawd o ran tanwydd yng Nghymru yn fwy cywir. Fel man cychwyn, dylai ystyried y dull ‘incwm gweddilliol’, gan ddysgu gwersi o Loegr a’r Alban. Dylai’r gwaith hwn gael ei wneud ar y cyd â rhanddeiliaid perthnasol a’i gwblhau o fewn 12 mis i gyhoeddi’r adroddiad hwn. 
  2. Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod amcangyfrifon tlodi tanwydd yn adlewyrchu’r diffiniad newydd. Dylai’r gwaith hwn gael ei gwblhau mewn pryd i lywio’r amcangyfrifon tlodi tanwydd ar gyfer 2020. 
  3. Rhaid i Lywodraeth Cymru weithio gyda Nyth ac Arbed am Byth i ddatblygu fframwaith monitro a gwerthuso cadarn, sy’n cynnwys mesur effaith y cynlluniau ar dlodi tanwydd. 
  4. Rhaid i Lywodraeth Cymru weithio gydag Arbed am Byth, a’i phartneriaid, i roi dulliau mwy soffistigedig ar waith ar gyfer targedu cymorth o dan y cynllun tuag at yr aelwydydd sy’n byw mewn tlodi tanwydd. 
  5. Rhaid i Lywodraeth Cymru adrodd yn ôl i’r Pwyllgor ar:
  • nifer yr eiddo a gafodd eu gwella a chyfanswm y gwariant drwy Arbed 3 ar gyfer ail flwyddyn y rhaglen tair blynedd; 
  • y camau y mae’n bwriadu eu cymryd pe bai ffigurau ar welliannau a gwariant yn awgrymu bod Arbed 3 yn parhau i danberfformio. 
  1. Rhaid i Lywodraeth Cymru adolygu’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer pecynnau gwella effeithlonrwydd ynni am ddim o dan Nyth, gan ystyried y diffiniad newydd o dlodi tanwydd. Rhaid i’r adolygiad ystyried, yn benodol, ehangu’r meini prawf cymhwysedd i gynnwys aelwydydd incwm isel sy’n byw mewn tlodi tanwydd, neu sydd mewn perygl o ddioddef tlodi tanwydd. 
  2. Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod cyllid ar gael drwy’r Rhaglen Cartrefi Clyd i dalu cost gwaith galluogi i aelwydydd na fyddent fel arall yn gallu elwa o welliannau effeithlonrwydd ynni cartref o dan gynlluniau’r llywodraeth. 
  3. Rhaid i Lywodraeth Cymru fyfyrio ar y dystiolaeth a gafwyd am yr angen i neilltuo digon o amser i gwblhau gwaith galluogi cyn gwella effeithlonrwydd ynni o dan gynlluniau. 
  4. Dylai Llywodraeth Cymru greu cynllun peilot ar gyfer gwasanaeth cyngor a chymorth mewnol ar gyfer cartrefi sy’n agored i niwed sy’n byw mewn tlodi tanwydd, neu sydd mewn perygl o ddioddef tlodi tanwydd. 

Dylai’r gwasanaeth:

  • weithredu ar sail dull cyfannol, gan ddarparu cyngor a chymorth ar wella effeithlonrwydd ynni, cynyddu incwm i’r eithaf a lleihau costau ynni;  
  • darparu cymorth uniongyrchol i aelwydydd, er enghraifft, i fanteisio ar hawliau ariannol, gwirio tariffau ynni a newid cyflenwyr ynni.
  1. Rhaid i Lywodraeth Cymru sefydlu dull cymorth addas i alluogi awdurdodau lleol i sicrhau’r cyllid mwyaf posibl ar gyfer gwelliannau effeithlonrwydd ynni drwy ECO Flex.
  2. Dylai’r strategaeth tlodi tanwydd newydd anelu at gynyddu’r defnydd o fesuryddion deallus mewn cartrefi ledled Cymru, yn enwedig y rhai sy’n defnyddio mesuryddion rhagdalu, a’r rhai sy’n byw mewn tlodi tanwydd, neu sydd mewn perygl o’i ddioddef. 
  3. Dylai Llywodraeth Cymru:
  • ddarparu manylion y grŵp gorchwyl a gorffen ar hyrwyddo’r nifer sy’n derbyn Credyd Pensiwn, gan gynnwys ei gylch gorchwyl a’r amserlen ar gyfer ei waith, 
  • adrodd yn ôl i’r Pwyllgor ar ganfyddiadau’r grŵp gorchwyl a gorffen, ac ar y camau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cymryd a’r amserlenni dan sylw. 
  1. Rhaid i Lywodraeth Cymru geisio sicrhau cynrychiolydd o Gymru ar Fwrdd Ofgem a chryfhau presenoldeb y rheolydd yng Nghymru.
  2. Dylai’r strategaeth tlodi tanwydd newydd gynnwys darpariaethau sydd â’r nod o fynd i’r afael â’r heriau penodol a wynebir mewn ardaloedd gwledig. Dylai hyn gynnwys rhaglen bwrpasol gyda lefelau priodol o gyllid sy’n ystyried y mesurau mwy cymhleth a chostus sy’n ofynnol i fynd i’r afael â thlodi tanwydd gwledig.
  3. Rhaid i Lywodraeth Cymru weithio gyda phartneriaid perthnasol i ddatblygu mecanwaith cymorth ariannol i alluogi landlordiaid preifat i wella effeithlonrwydd ynni eu heiddo. Rhaid ymgymryd â’r gwaith hwn fel mater o flaenoriaeth, o ystyried cyflwyno’r Isafswm Safonau Effeithlonrwydd Ynni newydd o fis Ebrill 2020.
  4. Rhaid i Lywodraeth Cymru, ar y cyd ag awdurdodau lleol a Rhentu Doeth Cymru, wneud gwaith i nodi’r rhwystrau i orfodi’r Isafswm Safonau Effeithlonrwydd Ynni a mynd i’r afael â hynny. Rhaid i Lywodraeth Cymru adrodd yn ôl i’r Pwyllgor ar ganlyniad y gwaith hwn ar y cyfle cyntaf.
  5. Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod safonau effeithlonrwydd ynni newydd mewn cartrefi newydd mor uchelgeisiol â phosibl, a bwrw ymlaen â’r newidiadau i Reoliadau Adeiladu Rhan L heb ragor o oedi.

Ymchwiliad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol

  1. Ym mis Ionawr 2022, dechreuodd Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd gynnal ymchwiliad i dlodi tanwydd a'r Rhaglen Cartrefi Clyd er mwyn ystyried:

    •    Y prif wersi a ddysgwyd o Raglen Cartrefi Clyd bresennol Llywodraeth Cymru. 
    •    Sut y gall y gwersi hyn helpu i lywio iteriad nesaf y Rhaglen Cartrefi Clyd er mwyn sicrhau ei bod yn rhoi gwell cymorth i bobl sy'n byw mewn tlodi tanwydd neu sy'n wynebu risg o hynny.  
    •    Y meini prawf cymhwysedd ar gyfer mesurau effeithlonrwydd ynni yn y cartref sydd ar gael o dan y cynllun.
    •    A ddylid parhau i ddilyn dull seiliedig ar ardaloedd o fynd i'r afael â thlodi tanwydd (Arbed). 
    •    Pa gymorth penodol a ddylai fod ar gael i ymateb i'r heriau sy'n gysylltiedig â thlodi tanwydd gwledig;  
    •    Annog landlordiaid y sector preifat i fynd i'r afael â thlodi tanwydd ymhlith tenantiaid. 
  2. Archwiliodd y pwyllgor sut y gall unrhyw gynllun(iau) olynol wneud mwy o gynnydd o ran ystyriaethau cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol a chyd-fynd yn well ag ymdrechion i datgarboneiddio tai yng Nghymru.  
  3. Gan nodi mai pwerau cyfyngedig sydd gan Lywodraeth Cymru i ddylanwadu ar lefel tlodi tanwydd yng Nghymru, mae adroddiad y pwyllgor, a gyhoeddwyd ym mis Mai 2022, yn gwneud 23 o argymhellion.  

Argymhellion o adroddiad Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd a gyhoeddwyd ym mis Mai 2022

Argymhelliad 1

Dylai Llywodraeth Cymru gynnal adolygiad o’r cymorth a gynigir i aelwydydd incwm isel drwy’r Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf cyn hydref 2022. Dylai’r adolygiad hwn bennu a ellir gwneud gwelliannau wrth dargedu cymorth drwy:

  • asesu cyfraddau manteisio yn ôl ardal awdurdod lleol; 
  • asesu effeithiolrwydd hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth; ac 
  • ystyried a oes angen rhagor o waith allgymorth i gefnogi’n rhagweithiol y grwpiau sy’n fwy anodd eu cyrraedd a grwpiau sy’n agored i niwed.

Argymhelliad 2

Dylai Llywodraeth Cymru gyflymu ei hadolygiad o’r camau blaenoriaeth yn y Cynllun Trechu Tlodi Tanwydd gyda’r bwriad o nodi camau neu fesurau ar unwaith ac yn y byrdymor y gallai’r llywodraeth eu cymryd i gefnogi teuluoedd sy’n cael trafferth gyda thlodi tanwydd a phennu targedau interim.

Argymhelliad 3

Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda’r Panel Cynghori ar Dlodi Tanwydd i nodi camau neu fesurau ar unwaith ac yn y byrdymor y gallai’r llywodraeth eu cymryd i gefnogi teuluoedd mewn tlodi tanwydd. Dylai hyn gynnwys ystyried cyfleoedd i wneud y mwyaf o fanteision y toriad diweddar mewn TAW i ddeunyddiau arbed ynni ac inswleiddio.

Argymhelliad 4

Yn yr iteriad nesaf o’r Rhaglen Cartrefi Clyd, dylai Llywodraeth Cymru gael gwared ar y cap ar gyfer ceisiadau sengl a dylunio dull mwy deallus o gyfyngu ar gostau na’r cap mympwyol presennol ar grantiau.

Argymhelliad 5

Yn yr iteriad nesaf o’r Rhaglen Cartrefi Clyd, dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu meini prawf cymhwysedd craffach, llai cyfyngol sy’n sicrhau, o leiaf, bod unrhyw aelwyd sy’n bodloni’r diffiniad o dlodi tanwydd yn gallu cael cymorth pan fo angen. Dylai unrhyw newidiadau i’r meini prawf cymhwysedd hefyd ystyried: 

sut y gellir cefnogi eiddo sydd ag EPC gradd D yn y dyfodol; a
 
chyflwyno trothwy trosiant busnes (lle byddai aelwyd ddomestig yn bennaf sydd hefyd wedi cofrestru fel busnes yn dod yn anghymwys uwchlaw’r trothwy hwnnw) er mwyn helpu i gefnogi busnesau bach a gwledig sy’n digwydd bod yn gweithredu o eiddo domestig ac sy’n destun cyfyngiadau cymhwysedd ar hyn o bryd.

Argymhelliad 6

Dylai Llywodraeth Cymru ddysgu gwersi o adroddiad Archwilio Cymru a nodi yn ei hymateb sut y mae’n bwriadu sicrhau bod yr iteriad nesaf o’r Rhaglen Cartrefi Clyd yn fwy o ran maint, yn ddoethach o ran pwy y mae’n ei dargedu ac yn wyrddach yn ei hymyriadau.

Argymhelliad 7

Dylai Llywodraeth Cymru nodi’r mecanwaith cyfreithiol y mae’n ei ffafrio ar gyfer cynnal yr iteriad nesaf o’r Rhaglen Cartrefi Clyd, gan gynnwys sut y bydd yn sicrhau bod y Senedd a rhanddeiliaid eraill yn gallu craffu ar y rhain mewn modd cadarn.

Argymhelliad 8

Dylai Llywodraeth Cymru annog atgyweirio boeleri yn hytrach na gosod boeleri newydd lle bo modd, yn enwedig mewn achosion lle nad yw mesurau eraill megis atal drafftiau ac inswleiddio wedi’u harchwilio’n llawn neu lle mae dewisiadau gwyrddach eraill (fel pympiau gwres ffynhonnell aer) ar gael.

Argymhelliad 9

 Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod cynllun seiliedig ar ardal yn y dyfodol yn blaenoriaethu cydweithio a gweithio mewn partneriaeth rhwng y cynllun, awdurdodau lleol, grwpiau cymunedol ac eraill.

Argymhelliad 10

Dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi asesiad o fanteision ac anfanteision treialu’r dull “pentref enghreifftiol” o dargedu pentref yn ei gyfanrwydd er mwyn sefydlu glasbrint i drefi a phentrefi eraill ei efelychu. Dylai’r asesiad hwn ystyried gwaith ymchwil presennol ac enghreifftiau o arfer gorau rhyngwladol.

Argymhelliad 11

Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod cynllun seiliedig ar ardal yn y dyfodol yn datblygu strategaeth ymgysylltu â’r gymuned i sicrhau’r manteision mwyaf posibl o’r rhwydweithiau presennol, a bod ymdeimlad cryfach o lawer o ymrwymiad ymhlith cymunedau lleol.

Argymhelliad 12

Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod yr iteriad nesaf o’r Rhaglen Cartrefi Clyd yn cynnwys fframwaith cadarn ar gyfer casglu, monitro a gwerthuso data a fydd yn cynorthwyo’r broses o reoli a chydymffurfio â chontractau ac yn galluogi mesur canlyniadau’n well ac archwiliad rheolaidd.

Argymhelliad 13

Dylai Llywodraeth Cymru egluro sut y mae’n bwriadu i’w dull graddol yn y Rhaglen Cartrefi Clyd nesaf weithio’n ymarferol.  Rydym yn argymell bod y dull graddol yn cael ei ategu gan adolygiadau cyfnodol i ganfod a yw’r Rhaglen yn cyflawni yn erbyn ei hamcanion. Byddai nifer a dilyniant unrhyw adolygiad cyfnodol o’r fath yn dibynnu’n rhannol ar gyfnod a hyd y Rhaglen, fodd bynnag, byddem yn disgwyl i adolygiad ddigwydd hanner ffordd o leiaf.

Argymhelliad 14

Dylai Llywodraeth Cymru nodi yn ei hymateb i’r adroddiad hwn pa gamau y mae wedi’u cymryd i sicrhau na all y camgymeriadau a wnaed fel rhan o’r broses o gaffael a rheoli contract y cynllun presennol gael eu hailadrodd mewn ymarfer neu gynllun caffael arall gan y llywodraeth yn y dyfodol.

Argymhelliad 15

Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod gan yr iteriad nesaf o’r Rhaglen Cartrefi Clyd drefn sy’n addas at y diben ar gyfer sicrhau ansawdd, sy’n cynnwys:

  • rhaglen o wiriadau ar ôl gosod i’w gwneud gan drydydd parti annibynnol; a 
  • phrosesau cadarn ar gyfer casglu, dadansoddi a storio data perfformiad.

Argymhelliad 16

Dylai’r iteriad nesaf o’r Rhaglen Cartrefi Clyd geisio talu am gost ‘gwaith galluogi’ megis ailaddurno yn enwedig yn achos y teuluoedd incwm isaf, a sicrhau bod pawb sy’n cymryd rhan yn y cynllun yn ymwybodol o unrhyw gostau cudd y byddant yn eu hwynebu ymlaen llaw.

Argymhelliad 17

Dylai Llywodraeth Cymru ymgorffori’r dull ffabrig a ‘gwaethaf yn gyntaf’ o ran ôl-osod, gan dargedu’r aelwydydd tlotaf yn y cartrefi lleiaf effeithlon o ran tanwydd, yn egwyddorion craidd iteriad nesaf y Rhaglen Cartrefi Clyd.

Argymhelliad 18

 Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda’r sector i lunio strategaeth glir, hirdymor ar gyfer datgarboneiddio gyda’r nod o roi’r hyder sydd ei angen ar ddiwydiant i fuddsoddi mewn sgiliau, technoleg a phobl.

Argymhelliad 19

Dylai Llywodraeth Cymru roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Senedd a’r Pwyllgor hwn am y cynnydd tuag at gyhoeddi ei Chynllun Gweithredu Sgiliau Sero Net a dylai geisio ei gyhoeddi cyn gynted â phosibl a heb fod yn hwyrach na dechrau Toriad yr Haf y Senedd sydd wedi’i drefnu ar gyfer mis Gorffennaf 2022.

Argymhelliad 20

Gyda’r potensial i brisiau nwy barhau i godi hyd y gellir rhagweld, ymhlith pryderon o’r newydd ynghylch diogelwch cyflenwadau ynni, dylai Llywodraeth Cymru nodi’r cyllid sydd ei angen i ymateb drwy adolygu digonolrwydd ei dyraniadau gwariant ar gyfer effeithlonrwydd ynni mewn tai. Dylai’r adolygiad hwn nodi unrhyw gamau gweithredu neu weithgareddau y gellir eu blaenoriaethu, eu huwchraddio, neu eu cyflymu er mwyn lleihau’r galw a chynyddu effeithlonrwydd a dylid cwblhau hyn erbyn mis Rhagfyr 2022.

Argymhelliad 21

Dylai Llywodraeth Cymru greu cynllun effeithlonrwydd ynni i fynd i’r afael â thlodi tanwydd gwledig. Dylai’r cynllun hwn gynnwys cynllun ar gyfer mynd i’r afael â rhai o’r heriau penodol a wynebir mewn ardaloedd gwledig, gan gynnwys:

▪ prinder sgiliau angenrheidiol mewn gweithluoedd lleol; 
▪ materion o ran y gadwyn gyflenwi;
▪ y gyfran uwch o eiddo oddi ar y grid, sy’n fwy anodd eu trin.

Argymhelliad 22

Dylai Llywodraeth Cymru wella effeithlonrwydd ynni drwy gyfuniad o gymhellion, safonau ac ymgysylltiad. 

  • Er mwyn cymell gweithredu, dylai Llywodraeth Cymru hyrwyddo’r TAW bresennol ar gyfradd sero ar fesurau inswleiddio ac archwilio dichonoldeb cynllun benthyciadau effeithlonrwydd ynni ar gyfer landlordiaid yn y sector rhentu preifat.
  • Er mwyn gwella safonau, dylai Llywodraeth Cymru annog Llywodraeth y DU i weithredu ar gynigion i gynyddu’r Safonau Gofynnol Effeithlonrwydd Ynni i EPC gradd C erbyn 2028 ac, os nad yw’n fodlon gweithredu, ymchwilio i roi safonau uwch ar waith yng Nghymru yn unig. 
  • Er mwyn ymgysylltu’n well â’r sector, dylai’r iteriad nesaf o’r Rhaglen Cartrefi Clyd gynnwys gwell cyngor a chanllawiau sy’n targedu’n benodol landlordiaid yn y sector preifat a’u tenantiaid.

Argymhelliad 23

Dylai Llywodraeth Cymru gynnwys Rhentu Doeth Cymru yn y gwaith o ddatblygu’r Rhaglen Cartrefi Clyd nesaf gyda’r bwriad o ddefnyddio’r corff hwnnw fel cyfrwng i ymgysylltu â’r sector rhentu preifat ar effeithlonrwydd ynni a mesuryddion deallus ochr yn ochr â nodi cyfleoedd ar gyfer gweithio mewn partneriaeth. Dylai Llywodraeth Cymru roi’r wybodaeth ddiweddaraf inni am gynnydd y gwaith hwn erbyn mis Tachwedd 2022.

Adolygiad Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop

  1. Cynhaliodd Millers Research Ltd adolygiad o Arbed 3, mewn perthynas â'r cyllid a gafodd y cynllun o Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop rhwng 2018 a 2022. 
  2. Mae'r adroddiad yn nodi mai'r heriau mwyaf a allai wynebu rhaglenni yn y dyfodol yw maint y rhaglenni a diogelu at y dyfodol. Er ei bod yn ymddangos bod y dull seiliedig ar ardaloedd yn rhesymol, mae angen codi lefel yr effaith gryn dipyn er mwyn gwneud cynnydd sylweddol o ran gostwng lefelau tlodi tanwydd yng Nghymru. O ran diogelu at y dyfodol, mae'r her sy'n gysylltiedig â galluogi systemau gwresogi carbon isel fforddiadwy yn un sy'n wynebu llywodraethau y tu hwnt i Gymru a dylai'r technolegau mwyaf effeithiol ar gyfer ymyriadau yn y dyfodol gael eu hystyried yn ofalus cyn buddsoddi. 
  3. Daeth yr adroddiad i'r casgliad y gellir ystyried bod Arbed 3 yn llwyddiant i raddau helaeth, ond bod sawl elfen lle y gellir mabwysiadu argymhellion a newidiadau. 

Argymhellion o'r gwerthusiad o Arbed 3: Adroddiad terfynol, a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2022 

Dylai fod mwy o ymdrech benodol i gasglu data ynghylch statws economaidd buddiolwyr posibl ar y cychwyn, cyn dewis cynlluniau. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth am wariant ynni ac incwm blynyddol aelwydydd, gan sicrhau nad oes dibyniaeth ar ddata hunan-adrodd o arolwg buddiolwyr i benderfynu effaith economaidd y rhaglen.

Hefyd, dylid canolbwyntio mwy ar y Sector Rhentu Preifat, gyda’r posibilrwydd bod landlordiaid yn cyfrannu tuag at gostau gosod. Byddai hyn yn sicrhau trefniant cyllido mwy cynaliadwy, gyda’r potensial o ganiatáu ar gyfer cyllideb fwy i bob eiddo. Yn ei dro, byddai hyn yn galluogi gosod mesurau sy’n para’n hirach sy’n gwneud mwy fyth o effaith economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol ar lefel rhaglen. Gallai trefniadau cyllido amgen gynnwys cyfraniad rhannol gan berchennog cartref neu gyflwyno benthyciadau di-log i fuddiolwyr y gosodir mesurau iddynt.

Oherwydd y rhan fawr a chwaraewyd gan awdurdodau lleol yn Arbed 1 a 2, arweiniodd rôl ‘gyfryngol’ awdurdodau lleol yn Arbed 3 at berthynas anghyson gydag AaB gan ddibynnu ar ardal yr awdurdod lleol. Er eu bod yn ymwneud â dewis a hyrwyddo cynlluniau, teimlai llawer o awdurdodau lleol nad oeddent yn cael eu defnyddio i’w llawn botensial yn wyneb y dilysrwydd, gwybodaeth a hygrededd sydd ganddynt yn y gymuned, ac roeddent hefyd yn nodi diffyg mewn cyfathrebu gydag AaB yn dilyn trosiant staff. Felly, mewn gweithrediadau yn y dyfodol dylai unrhyw drydydd parti geisio cydweithio’n agos ag awdurdodau lleol, gan eu defnyddio mewn modd strategol er mwyn helpu i ymchwilio i ddata lleol ar dlodi tanwydd a thargedu’n effeithiol yr ardaloedd sydd mewn mwyaf o angen, law yn llaw â sicrhau ymrwymiad gan fuddiolwyr.

Yn ogystal â chyfathrebu mwy gydag awdurdodau lleol, dylai fod cyfathrebu mwy rheolaidd a chyson gyda deiliaid tai drwy gydol parhad y broses.

Trefniadau rheoli cynlluniau Nyth 2 ac Arbed 3

Yn ychwanegol at ganfyddiadau'r archwiliadau, ymchwiliadau ac adroddiadau gwerthuso ffurfiol a nodir uchod, mae Llywodraeth Cymru wedi adolygu ei threfniadau ar gyfer y Rhaglen Cartrefi Clyd bresennol o dan wyth pennawd bras. 

A.    Trefniadau rheoli'r Rhaglen Cartrefi Clyd

Mater

Rhwng Ebrill 2018 ac Ebrill 2021, gosododd Nyth fesurau mewn 18,047 o gartrefi, y mwyafrif ohonynt yn derbyn system gwres canolog newydd, boeleri nwy yn bennaf.

Rhwng Hydref 2018 a Thachwedd 2021, gosododd Arbed fesurau mewn 4,453 o gartrefi, gyda 2,599 (58%) ohonynt wedi derbyn system wresogi newydd, gyda 2,834 (64%) o gartrefi yn derbyn paneli solar a 718 (16%) yn cael inswleiddio llofftydd.

Gwersi a ddysgwyd ac argymhellion 

Nid yw gosod niferoedd mor sylweddol o foeleri tanwydd ffosil newydd yn gynaliadwy. Er bod gosod boeler nwy newydd sy'n fwy effeithlon na'r hen un yn arwain at rai arbedion carbon, mae hyd yn oed foeler tanwydd ffosil effeithlon yn cynhyrchu llawer iawn o garbon.

Ar gyfer cynlluniau yn y dyfodol, dylai Llywodraeth Cymru fwrw golwg dros y mesurau effeithlonrwydd ynni sydd ar gael er mwyn sicrhau eu bod yn cyd-fynd â'n huchelgeisiau i leihau allyriadau carbon a sicrhau ei bod wedi cyllidebu ar gyfer y goblygiadau o ran costau sy'n deillio o newid i fesurau gwyrddach.  

Mater

Nyth – Drwy benderfynu mai dim ond y cartrefi mwyaf aneffeithlon o ran ynni a oedd yn gymwys, nod Llywodraeth Cymru oedd sicrhau bod adnoddau cyfyngedig cynllun Nyth yn cael eu neilltuo i'r rhai sy'n wynebu'r risg uchaf o fod mewn tlodi tanwydd. 

Gwersi a ddysgwyd ac argymhellion

Drwy roi boeler newydd i aelwydydd tlotach nad oes ganddynt ddŵr poeth na system wresogi, rhoddodd Llywodraeth Cymru flaenoriaeth i nod sy'n gysylltiedig â chyfiawnder cymdeithasol. Fodd bynnag, nid helpu aelwydydd tlotach sydd â boeleri wedi torri oedd nod craidd Nyth erioed, a dylai cynlluniau yn y dyfodol ystyried yn ofalus a oes ffyrdd gwell o benderfynu pa gartrefi sy'n gymwys.

Mater

Nyth – Penderfynodd Llywodraeth Cymru y dylai Rheolwr y Cynllun ddehongli sgôr effeithlonrwydd ynni tŷ mewn ffordd sy'n galluogi mwy o bobl i fod yn gymwys i gael cymorth, gan gynnwys rhai nad oeddent mewn tlodi tanwydd o bosibl.  

Gwersi a ddysgwyd ac argymhellion

Dylai Llywodraeth Cymru egluro beth yw diben craidd cynllun Nyth neu unrhyw gynllun olynol a ph'un ai gosod boeleri newydd yn lle boeleri sydd wedi torri ar gyfer aelwydydd tlotach neu roi cymorth ehangach i'r rhai sy'n wynebu'r risg uchaf o fod mewn tlodi tanwydd yw ei nod. 

Mater 

Arbed – Roedd cyfyngiadau'r dull seiliedig ar ardaloedd yn golygu bod Arbed wedi ei chael hi'n anodd adnabod yr aelwydydd yr oedd i fod i'w helpu.    

Gwersi a ddysgwyd ac argymhellion

Oherwydd y ddibyniaeth ar hen ddata Tystysgrif Perfformiad Ynni (EPC), datblygodd y cynllun yn arafach ac aed i gostau – dylid osgoi'r ddibyniaeth hon os bydd modd. 

Mater 

Gallai dibyniaeth ar fudd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd fel ffordd o fesur incwm isel ar gyfer cynlluniau Nyth ac Arbed allgáu pobl sy'n byw ar incymau is sydd, serch hynny, yn ei chael hi'n anodd talu'r costau sy'n gysylltiedig ag anghenion ynni eu cartrefi. 

Gwersi a ddysgwyd ac argymhellion

Awgrymodd gwerthusiad o incymau is a gynhaliwyd fel rhan o'r peilot Cyflyrau Iechyd fod incymau isel wedi'u diffinio fel canran o lefel incwm canolrifol y DU yn sicrhau bod rhaglenni nid yn unig yn targedu aelwydydd sy'n ei chael hi'n anodd talu costau cynnal cartref cynnes, ond hefyd yn targedu pobl sy'n wynebu risg o fynd i Dlodi Tanwydd. 

Byddai'r dull hwn yn cyd-fynd â mesur Llywodraeth Cymru o dlodi incwm isel cymharol yn fwy cywir na'r ddibyniaeth ar dderbyn budd-daliadau sy'n dibynnu ar brawf modd. 

Mater

Mae cynlluniau'r Rhaglen Cartrefi Clyd wedi bod yn gymharol lwyddiannus o ran cyfrannu at bolisïau allweddol Llywodraeth Cymru, megis Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, ac mae'r Pecyn Cymorth Budd Cymunedol yn amlinellu sut mae'r rhaglen yn cyflawni nodau unigol y Ddeddf. Cyfrannodd y cynlluniau at ‘Gymru fwy llewyrchus’ drwy wariant uniongyrchol ar BBaChau a chyflenwyr yng Nghymru, yn ogystal â chefnogi economi Cymru drwy gyflogaeth a hyfforddiant.    

Gwersi a ddysgwyd ac argymhellion

Dylai Rhaglen Cartrefi Clyd 2 geisio adeiladu ar fuddiannau cymunedol y cynlluniau blaenorol drwy gynnwys buddiannau cymunedol fel rhan o'r fanyleb dendro. Dylid hefyd ystyried polisi Llywodraeth Cymru ar benodi contractwyr moesegol wrth dendro ar gyfer Rhaglen Cartrefi Clyd 2.

B.    Penodi Rheolwr y Cynllun

Mater    

Arbed – Oherwydd diffyg eglurder yn y fanyleb ac yn ystod y broses gaffael, ni chafodd cyflenwyr eu denu at y tendr, a welwyd yn y diffyg diddordeb drwy'r GCC yn ystod y broses dendro.    

Gwersi a ddysgwyd ac argymhellion

Mae manyleb glir a deniadol yn hollbwysig ar gyfer ennyn diddordeb mewn tendr. Mae eglurder ynghylch amcanion y rhaglen, y disgwyliadau o ran cyflawni a thargedau yn galluogi darpar gynigwyr i asesu'n effeithiol pa mor ddeniadol yw'r tendr. 

Mater

Gwnaeth Llywodraeth Cymru gymharu'r costau rhwng y cynigion tendro ar gyfer y naill gynllun a'r llall. Fodd bynnag, roedd y gymhariaeth yn gyfyngedig am mai nifer bach o gynigion a ddaeth i law, sef dau fesul cynllun. Ni wnaeth Llywodraeth Cymru gymharu'r prisiau a gynigiwyd yn y cynigion tendro â chostau'r farchnad er mwyn meithrin dealltwriaeth ehangach o'u rhesymoldeb.    

Gwersi a ddysgwyd ac argymhellion

Dylid cynnal gwaith meincnodi priodol rhwng cynigwyr a chostau cyfredol mesurau effeithlonrwydd ynni yn y farchnad er mwyn sicrhau cysondeb o ran prisio a chael gwerth am arian. Dylai Llywodraeth Cymru feddu ar ddealltwriaeth glir o fanylebau safonol y diwydiant ar gyfer gosod mesurau gwella effeithlonrwydd ynni. 

C.    Datblygu Cyflenwad o Gynlluniau

Mater

Arbed – Defnyddiwyd rheolwr paratoi penodedig a dangoswyd trefniadau llywodraethu da drwy adrodd ar gerrig milltir a pherfformiad o ran cyflawni yn unol â thargedau. Fodd bynnag, mae diffyg taliadau paratoi sy'n gysylltiedig â cherrig milltir a chymhlethdod cynlluniau pwrpasol yn arwain at gostau a risg sylweddol i'r contractwr.

Gwersi a ddysgwyd ac argymhellion

Bydd taliadau paratoi sy'n gysylltiedig â cherrig milltir y adroddir arnynt yn erbyn targedau pendant yn lleihau'r risg i reolwr y cynllun. 

Mater

Arbed – Cynigiodd rhai awdurdodau lleol (ALlau) gynlluniau nad oeddent yn ddigon aeddfed neu nad oeddent yn briodol o dan delerau'r contract, ac nid oedd ganddynt ddigon o adnoddau i roi cymorth. Cafwyd llawer mwy o ymgysylltu gan ALlau lle roedd tîm ynni ar waith.   

Gwersi a ddysgwyd ac argymhellion

Nid yw'r lefelau ymgysylltu yn unffurf rhwng awdurdodau lleol ac mae angen ystyried hyn wrth ddatblygu contractau a rhaglenni. 


D.    Dangosyddion Perfformiad Allweddol

Mater 

Mae contractau Arbed a Nyth yn cynnwys Dangosyddion Perfformiad Allweddol (DPAau) sy'n mesur p'un a yw'r buddiolwyr yn cael gwasanaeth o ansawdd ai peidio. Caiff y rhain eu defnyddio i gyfrifo taliadau sy'n gysylltiedig â pherfformiad i Reolwyr y Cynlluniau. Mae dangosyddion eraill yn monitro a yw'r cynlluniau'n cyflawni eu hamcanion cyffredinol i leihau tlodi tanwydd a sicrhau buddiannau amgylcheddol a chymunedol.

Gwersi a ddysgwyd ac argymhellion

Er bod defnyddio DPAau i fesur perfformiad rheolwyr cynlluniau wedi gweithio'n eithaf da o ran adrodd ar berfformiad, mae angen meddwl ymhellach sut y gellir defnyddio DPAau i fesur llwyddiant cynlluniau o ran cyflawni amcanion ehangach y Rhaglen Cartrefi Clyd mewn perthynas â pholisi Llywodraeth Cymru.

Mater 

Ni wnaeth y swyddogion sicrhau ansawdd gwblhau archwiliadau o gywirdeb data Cytundebau Lefel Gwasanaeth (CLGau) a DPAau yn flynyddol. O ganlyniad i hynny, nid yw Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymwybodol bob amser a oes angen iddi gasglu unrhyw daliadau. Cwblhaodd y swyddog sicrhau ansawdd ei archwiliad cyntaf o CLGau a DPAau Nyth ym mis Gorffennaf 2021.    

Gwersi a ddysgwyd ac argymhellion

Cael cymorth mwy amserol a chynhwysfawr drwy'r trefniadau sicrhau ansawdd allanol annibynnol. Bydd hyn yn galluogi Llywodraeth Cymru i fynd ati'n gyflym i unioni unrhyw broblemau ag ansawdd gosodiadau ac ansawdd yr adroddiadau y mae'r taliadau contractiol yn dibynnu arnynt.

E.    Adnabod Unigolion/Cynlluniau – Targedu

Mater 

Arbed – Arweiniodd y diffyg EPC cyfredol ar gyfer llawer o eiddo at oedi yn natblygiad y cynllun, ac nid yw'n glir faint o glystyrau o eiddo sydd â sgôr EPC o E, F neu G sy'n dal i fodoli ledled Cymru. Gwelwyd bod gan lawer o'r cartrefi a nodwyd i ddechrau sgoriau effeithlonrwydd ynni uwch oherwydd gwelliannau a oedd eisoes wedi cael eu gwneud. Roedd gorddibyniaeth ar ddata EPC.

Gwersi a ddysgwyd ac argymhellion

Mae angen cyfathrebu'n effeithiol ag awdurdodau lleol ynglŷn â setiau data daearyddol.

Dylai Llywodraeth Cymru adolygu p'un a yw'r dull seiliedig ar ardaloedd a ddefnyddiwyd gan gynllun Arbed yn ddichonadwy o hyd, neu a fydd angen ei ddiwygio'n sylweddol yn sgil tangyflawni.

Mewn iteriadau o'r Rhaglen Cartrefi Clyd yn y dyfodol, dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod contractau'n ddigon hyblyg i allu symud cyllid a chapasiti rhwng cynlluniau er mwyn cyflawni'r Rhaglen gyffredinol yn y ffordd orau posibl. 

Mater

Arbed – Rheolwr y cynllun oedd yn gyfrifol am rai penderfyniadau er mwyn caniatáu mwy o ymreolaeth. Roedd y broses a'r penderfyniadau i fynd y tu hwnt i'r cap ar wariant a ddyrannwyd yn feichus i ddechrau, ond bu gwelliant yn hyn o beth dros amser. Roedd angen llawer o achosion o wario y tu hwnt i'r cap er mwyn cyflawni canlyniadau a ddymunwyd. 

Gwersi a ddysgwyd ac argymhellion

Mae angen ystyried ymhellach sut y caiff effeithiolrwydd effeithlonrwydd ynni ei fesur, e.e. a yw codi tystysgrifau EPC i A, B, C yn ddichonadwy.

Mae angen ystyried yr heriau sy'n gysylltiedig â chyflawni ar gyfer eiddo unigol; mae cost fesul cynnydd o ran band EPC/pwynt Gweithdrefn Asesu Safonol (SAP) yn amrywio'n sylweddol yn dibynnu ar sawl newidyn. 

Mater

Arbed – Canfu'r gwerthusiad fod eiddo rhent yn cael eu cynrychioli'n wael gan ddefnyddio'r dull seiliedig ar ardaloedd. Mae data Llywodraeth Cymru yn awgrymu bod pobl sy'n byw mewn eiddo rhent preifat yn fwy tebygol o fod yn byw mewn tlodi tanwydd na pherchen-feddianwyr.  

Gwersi a ddysgwyd ac argymhellion

Cyflwyno Rhentu Doeth Cymru fel sefydliad partner ar gyfer elfennau seiliedig ar ardaloedd yn ogystal â'i gadw fel partner mewn cynllun sy'n seiliedig ar alw fel yn achos Nyth. Fel yr asiantaeth orfodi reoleiddiol ar gyfer landlordiaid preifat mewn perthynas â safonau EPC, gallai gynnig ffordd o adnabod aelwydydd sector rhentu preifat yn un o ardaloedd posibl y cynllun ac yna eu helpu i ymgysylltu drwy ddata a/neu gyfathrebu.


F.    Y gadwyn gyflenwi

Mater 

Arbed – Cafodd y gwaith caffael ei wneud drwy GwerthwchiGymru. Cynhaliwyd digwyddiadau ymgysylltu â gosodwyr ledled Cymru er mwyn amlinellu gweledigaeth Arbed, y cyfleoedd a oedd ar gael o dan y contract a'r safonau a oedd yn ofynnol ar gyfer y prosiect. 

Gwersi a ddysgwyd ac argymhellion

Llwyddodd dull ymgysylltu rhagweithiol i feithrin cydberthnasau cryf ac, yn arbennig, roedd cynnal gweithdai ymgysylltu yn ddatblygiad cadarnhaol y dylid ei ddefnyddio ar gyfer unrhyw raglen yn y dyfodol. 

Mater 

Arbed – Cydberthynas weithredol dda â chyflenwyr. Mabwysiadodd Arbed y risg o ddefnyddio gosodwyr llai a mwy lleol er mwyn lleihau allyriadau carbon corfforedig a chodi safonau ansawdd yn yr holl osodiadau.

Mae gan weithredwyr mawr sydd wedi hen ennill eu plwyf le blaenllaw mewn contractau fframwaith sy'n golygu na all contractwyr llai sefydlu eu hunain yn y diwydiant.  

Gwersi a ddysgwyd ac argymhellion

Mae'n bwysig llunio'r tendr mewn ffordd sy'n golygu y gall contractwyr lleol ac arbenigol gymryd rhan yn y rhaglen, gan gadw enillion o'r rhaglen o fewn yr economi leol.

G.    Archwilio a Sicrhau Ansawdd

Mater 

Arbed – Mae safonau Cynghorwyr Ynni Domestig unigol yn amrywio, gan arwain at anghysondebau yn y sgoriau EPC a ddefnyddir i gymhwyso ac archwilio a sicrhau ansawdd cartref.     

Gwersi a ddysgwyd ac argymhellion

Lliniarodd Arbed am Byth hyn drwy ddefnyddio'r un Cynghorwyr Ynni Domestig ar gyfer tystysgrifau cyn ac ar ôl asesiadau.  Dylid ystyried penodi tîm o aseswyr annibynnol er mwyn sicrhau gwerthusiadau cyson.

Mater 

Arbed – Roedd cynnal archwiliad cyflawni/contractiol ar ddiwedd y rhaglen yn golygu nad oedd digon o amser
i argymhellion gael effaith yn llawn.    

Gwersi a ddysgwyd ac argymhellion

Dylid cynnal archwiliadau/adolygiadau yn rheolaidd yn ystod y contract, e.e. bob blwyddyn, er mwyn ymchwilio i drylwyredd a phrosesau a'u gwella.

Mater

O dan Arbed 3 a Nyth 2, mae trefniadau diwygiedig i sicrhau ansawdd y gwaith a wneir wedi cael eu rhoi ar waith er mwyn lleihau'r risg y bydd problemau'n codi yn y dyfodol. Mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu arolygon annibynnol er mwyn canfod achos unrhyw fethiannau y rhoddwyd gwybod amdanynt mewn perthynas â mesurau'r Rhaglen Cartrefi Clyd. 

Nid oes trefniadau ffurfiol ar waith ar gyfer rheoli problemau pan fyddant yn codi, neu sut y caiff problemau eu hunioni ar gyfer perchnogion tai.     

Gwersi a ddysgwyd ac argymhellion

Mae cynlluniau presennol y Rhaglen Cartrefi Clyd yn gweithio yn unol â'r safonau yn PAS 2030 ac wedi mabwysiadu rhai o'r dulliau egwyddorol a fabwysiadwyd yn PAS 2035. Y bwriad yw parhau i roi mesurau effeithlonrwydd ynni cartref ar waith yn unol â'r gofynion ansawdd a sefydlwyd o dan PAS. Bydd angen ystyried ymhellach a fydd angen i gontractwyr a fydd yn cyflawni cynlluniau Llywodraeth Cymru fod feddu ar achrediad TrustMark. Os mai'r penderfyniad fydd gwneud achrediad TrustMark yn ofynnol, bydd angen ystyried sut y bydd Llywodraeth Cymru yn helpu i roi'r achrediad ar waith.

H.    Gwasanaeth Cwsmeriaid ac Ymdrin â Chwynion

Mater 

Nid yw'r contractau a ddyfarnwyd ar gyfer cyflawni cynlluniau o dan y Rhaglen Cartrefi Clyd yn cynnwys trefniadau ar gyfer sut y gall pobl apelio yn erbyn penderfyniadau yn dilyn yr asesiad tŷ cyfan, na phan fydd gosodiadau wedi arwain at ganlyniadau anfwriadol a lle na fydd darparwr y cynllun wedi datrys pryderon y personau i'w boddhad rhesymol. Felly, mae atebolrwydd rhwng Llywodraeth Cymru a darparwyr cynlluniau yn aneglur.

Mae diffyg eglurder mewn prosesau apelio wedi arwain at gwynion i Weinidogion yn uniongyrchol.    

Gwersi a ddysgwyd ac argymhellion

Mae'r broses ar gyfer ymdrin â chwynion ac apeliadau o dan y rhaglen bresennol yn aneglur i lawer o ymgeiswyr a bydd angen gwella hyn yn yr iteriad nesaf o'r Rhaglen Cartrefi Clyd. 

Dylai proses apelio glir y tu hwnt i reolwr y cynllun gael ei chynnwys yn y dogfennau a roddir i ddeiliaid tai a chael ei harddangos yn amlwg ar wefannau cynlluniau.