Neidio i'r prif gynnwy

Bydd cynlluniau wrth gefn a roddwyd ar waith i ddiogelu porthladd a chymuned Caergybi yn cael eu haddasu'n raddol dros y mis nesaf, yn dilyn cyfnod adolygu a chwblhau safle stacio ar Barc Cybi.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Erbyn hyn, gellir stacio 66 o gerbydau ar Barc Cybi os bydd angen a bydd 64 o leoedd eraill yn barod erbyn canol mis Chwefror.

Bydd gwaith i leihau'r gwrthlif dros dro ar yr A55 yn dechrau ar 31 Ionawr, gan ei leihau o un gyffordd fel ei fod yn rhedeg o cyffordd 2 i 3. Dros y ddwy i dair wythnos nesaf, os na fydd amodau'n newid, caiff ei ddileu'n llwyr.

Roedd data gwreiddiol gan Lywodraeth y DU yn rhagweld cyfradd wrthod o rhwng 40% i 70% ar gyfer Cerbydau Nwyddau Trwm nad oedd yn barod ar y ffin. Hyd yma, mae'r gyfradd honno wedi bod yn 10% neu'n llai, gyda'r mwyafrif llethol o gerbydau â’r gwaith papur cywir.

Mae'r cerbydau nwyddau trwm hynny sydd wedi'u gwrthod yn y porthladd wedi'u rheoli'n effeithiol, gan ddefnyddio'r systemau sydd ar waith.

Dywedodd Ken Skates, y Gweinidog Trafnidiaeth a Gogledd Cymru:

"Fel yr dywedais yn glir ar y dechrau, roedd ein cynlluniau wrth gefn ar gyfer Caergybi yn seiliedig ar ragolygon ar nifer y cerbydau nwyddau trwm y gellid eu gwrthod yn y porthladd. Hyd yma bu’r gyfradd yn llawer is na'r disgwyl a gan fod y safle stacio ym Mharc Cybi bron wedi'i gwblhau byddwn yn dechrau cwtogi'r gwrthlif A55 dros dro.

"Mae nifer y cerbydau cludo nwyddau yn isel iawn yn y porthladd ar hyn o bryd. Er ein bod yn disgwyl i lefelau fod yn isel ar ddechrau'r flwyddyn, mae'n destun pryder eu bod yn parhau i fod yn isel. Rwyf wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU i ofyn beth yw eu cynllun i adfer y sefyllfa hon a sut y byddant yn cefnogi'r cymunedau yr effeithir arnynt. Mae'r sefyllfa hon o ganlyniad uniongyrchol i'r dewisiadau a wnaethant ar sut y gadawsom yr UE. Byddwn yn monitro'r sefyllfa'n fanwl iawn.

"Hoffwn ddiolch i gymuned Caergybi a’r ardal ehangach am eu hamynedd a'u cydweithrediad tra y bu’r gwrthlif ar waith. Rwy'n ymwybodol iawn bod hwn yn gyfnod o ansicrwydd ond hoffwn eu sicrhau ein bod yn gweithio'n galed gydag awdurdod y porthladd, cwmnïau fferi, yr awdurdod lleol ac eraill i wneud yr hyn a allwn i gefnogi'r porthladd sydd o bwysigrwydd strategol i Gymru a'r DU gyfan."