Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi cyhoeddi heddiw [dydd Iau 15 Awst] mai Syr David Henshaw yw'r ymgeisydd a ffefrir gan Lywodraeth Cymru i fod yn Gadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Awst 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Syr David yn gadeirydd dros dro CNC ar hyn o bryd, ac mae wedi bod yn gwneud y swydd ers 1 Tachwedd 2018.

Cyn i Gadeirydd CNC gael ei benodi'n ffurfiol, bydd Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig y Cynulliad Cenedlaethol yn cynnal gwrandawiad cyn penodi ar 26 Medi, i glywed tystiolaeth gan Syr David fel yr ymgeisydd a ffefrir.

Mae cyhoeddi Syr David fel yr ymgeisydd a ffefrir yn dilyn ymarfer recriwtio teg ac agored wedi'i reoleiddio gan y Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus. 

Cyfoeth Naturiol Cymru yw’r corff mwyaf a noddir gan Lywodraeth Cymru ac mae ganddo 1,900 aelod o staff ledled Cymru, gyda chyllideb o £180 miliwn. 

Bywgraffiad Syr David Henshaw

Cafodd Syr David ei eni a'i fagu yn Lerpwl. Mae'n byw yng Ngogledd Cymru ers sawl blwyddyn gyda'i wraig Alison. Cafodd ei urddo'n farchog yn 2004.

Ar ôl addysg uwch yn Sheffield a Birmingham mae ei brif yrfa wedi bod yn y sector cyhoeddus, gyda swyddi Prif Weithredwr yng Nghyngor Bwrdeistref Metropolitan Knowsley a Dinas Lerpwl, gan arwain adolygiad mawr o Gymorth i Blant a'r Asiantaeth Cymorth Plant ar gyfer y llywodraeth ganolog. Yn ddiweddarach bu yn uwch-Gadeirydd yn y GIG, gan gynnwys Awdurdod Iechyd Strategol y Gogledd-orllewin ac Ysbyty Plant Ymddiriedolaeth Sefydliad Alder Hey, gan arwain y Bwrdd wrth adeiladu'r ysbyty newydd. Mae hefyd wedi bod ar nifer o Ymddiriedolaethau Ysbytai'r GIG a oedd wedi profi problemau fel Cadeirydd dros dro.

Roedd hefyd yn rhan o raglen Uned Gyflawni'r Prif Weinidog o adolygiadau gallu o adrannau'r llywodraeth ganolog. Roedd yn Gadeirydd Bwrdd Cynghori Prif Weinidog Cymru ar ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. 

Yn ystod ei gyfnod yn Lerpwl roedd yn rhan o'r tîm craidd a enillodd Brifddinas Diwylliant 2008, gan reoli'r Cyngor wrth ddatblygu Lerpwl 1, yr arena a'r ganolfan gynadledda yn ogystal â newidiadau radical mawr i'r gwasanaethau a oedd yn cael eu darparu, gan arwain at Lerpwl yn cael ei chydnabod fel Cyngor y flwyddyn. Bu iddo ymddeol o Lerpwl yn 2006.

Mae Syr David yn parhau i fod yn gadeirydd a chyfarwyddwr anweithredol nifer o sefydliadau cyhoeddus a phreifat eraill ac mae’n parhau i gyflawni nifer o swyddogaethau cynghori.