Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams yn y Ffindir i gasglu gwybodaeth a dysgu rhagor am system addysg y wlad, sydd yn uchel iawn ei pharch (Dydd Mercher 18 Ionawr).

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Ionawr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yn ymweld ag ysgolion i gael gweld â'i llygaid ei hun sut y mae addysgu'n cael ei drefnu ac i gyfarfod myfyrwyr ac athrawon lleol. Mae'r gweithgaredd hwn yn rhan o gynhadledd addysg ryngwladol yn ninas Rovaniemi, â phobl o 18 o wledydd yn bresennol. Bydd yr Ysgrifennydd Addysg hefyd yn clywed gan brif arbenigwyr addysgegol y Ffindir, gan gynnwys yr Athro Kirsti Lonka.

O ran canlyniadau byd-eang, mae system addysg y Ffindir yn sgorio'n uchel. Cafodd  amrywiaeth o gamau diwygio eu rhoi ar waith yno, gyda llawer ohonynt yn debyg i'r newidiadau sy'n digwydd yng Nghymru nawr.

Mae Llywodraeth Cymru yn datblygu cwricwlwm cenedlaethol newydd a fydd yn cael ei ddefnyddio i gefnogi addysgu a dysgu o fis Medi 2021. Mae cam diweddaraf y gwaith o ddatblygu'r cwricwlwm yn ystyried cynllun chwe Maes Dysgu a Phrofiad y cwricwlwm newydd, sef; y celfyddydau mynegiannol; iechyd a lles; y dyniaethau; sgiliau Iaith, llythrennedd a chyfathrebu; mathemateg a rhifedd; gwyddoniaeth a thechnoleg.

Dywedodd Kirsty Williams:

“Mae'r ymweliad hwn yn rhan o'n hymdrechion i ddysgu gan oreuon y byd ym maes addysg.

“Rydyn ni'n gweithredu camau diwygio tebyg yng Nghymru wrth i ni ddatblygu ein cwricwlwm cenedlaethol newydd ac dw i eisiau clywed am brofiad y Ffindir, a ph'un a oes rhywbeth y gallwn ni yng Nghymru ei ddysgu oddi wrtho.

“Ein nod cenedlaethol yw sicrhau bod ein system addysg yn rhoi'r sgiliau a'r wybodaeth i'n pobl ifanc y mae eu hangen arnynt i ffynnu yn y byd modern. Mae'r cwricwlwm newydd rydyn ni'n ei lunio yn adlewyrchu'r uchelgais hwn.”