Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams i ymweld â swyddfeydd y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr yng Nghyffordd Llandudno heddiw i ddiolch iddynt am eu gwaith caled yn gweithredu ac yn gweinyddu’r pecyn newydd o gymorth gan.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Am y tro cyntaf yn ystod y flwyddyn academaidd eleni, bydd pob myfyriwr cymwys o Gymru fydd yn dechrau mewn prifysgol eleni yn gallu gwneud cais am becyn newydd o gymorth ariannol a fydd yn eu helpu i dalu eu costau byw. Dyma’r pecyn cyntaf o’i fath yn y Deyrnas Unedig a bydd yn rhoi cymorth i fyfyrwyr ar yr adeg y bydd ei angen fwyaf arnynt. Mae hyn, yn ei dro, yn cydnabod mai costau megis llety yw’r prif rwystr i’r rheiny sy’n gwneud y dewis o ran mynd i brifysgol. O ganlyniad mae staff y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr wedi llwyddo i gyflwyno’r pecyn hwn wrth i garfan newydd o fyfyrwyr wneud cais am gyllid a dechrau ar eu cyrsiau.

Gan annerch y staff, dywedodd Kirsty Williams:

“Fel y gwyddoch chi, rydyn ni’n cyflwyno diwygiadau pwysig i bob myfyriwr israddedig ac ôl-raddedig yng Nghymru. Y pecyn hwn yw’r pecyn mwyaf hael yn y Deyrnas Unedig gyfan a bydd yn sicrhau y gellir seilio’r cyfle i fynd i brifysgol ar allu academaidd yn hytrach nag ar gefndir cymdeithasol yr unigolyn dan sylw.

“Mae hyn wedi golygu llawer o newidiadau i chi eleni a gwerthfawrogaf eich gwaith caled yn ein helpu ni i ddatblygu a gweithredu’r diwygiadau.

“Mae’n dda gen i glywed hefyd, fel holl weithwyr y sector cyhoeddus a chyflenwyr allanol sy’n gweithio yng Nghymru ar ran Llywodraeth Cymru, fod staff y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr yng Nghyffordd Llandudno yn cael eu cyflogi ar sail y cyflog byw gwirioneddol. Mae hyn yn golygu y byddwn ni’n sector addysg uwch sydd yn wirioneddol yn sector sy’n cyflogi ar sail y cyflog byw. Mae hyn yn unigryw yn y Deyrnas Unedig a gallwn ymfalchïo yn hynny.”

Yn ystod yr ymweliad, fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet gwrdd â Phrif Swyddog Gweithredol newydd y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr, Paula Sussex, a bu’n gwrando hefyd ar staff yn cymryd galwadau gan gwsmeriaid i gael ychydig o flas ar eu gwaith.

Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr, Paula Sussex:

“Roeddwn i wrth fy modd cael croesawu Ysgrifennydd y Cabinet i’n swyddfeydd yng Nghyffordd Llandudno i gwrdd â’n staff ac i weld drosodd ei hun y gwaith gwych maen nhw’n ei wneud yn gweinyddu’r cyllid i fyfyrwyr ar ran Llywodraeth Cymru.

“Hyd yma yn ystod y flwyddyn academaidd eleni mae’r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr wedi prosesu o gwmpas 70,000 o geisiadau am gyllid gan fyfyrwyr o Gymru, yn fyfyrwyr newydd a myfyrwyr sy’n dychwelyd i’r brifysgol.”