Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw bydd yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford yn siarad am sut y bydd cyllid yr UE yn cael ei ddisodli yn dilyn ymadawiad y DU o'r UE.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar y cyd rhwng Julie James AC a Derek Vaughan ASE. Ymhlith y materion dan sylw bydd sut y dylid gwneud yn iawn am gyllid sy'n dod o'r UE ar hyn o bryd, sut y dylid arfer pwerau sy'n dychwelyd o'r UE yn y dyfodol, a sut y gellid adeiladu ar drefniadau presennol sy'n sicrhau tipyn o reolaeth i Lywodraeth Cymru a'i phartneriaid dros y ffordd y mae cyllid yn cael ei ddefnyddio.

Ymysg y siaradwyr bydd cyn Ysgrifennydd yr Alban, Michael Moore, Cyfarwyddwr Datblygu Busnes Strategol Tata Steel, Deirdre C Fox, a Chadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, yr Athro Andrew Davies.

Wrth siarad cyn y digwyddiad, dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid:

“Drwy ein papur Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit rydym wedi galw ar Lywodraeth y DU i ddarparu pob ceiniog o'r £370m y mae Cymru yn ei gael ar hyn o bryd o Gronfeydd Strwythurol a Buddsoddi'r UE a'i ychwanegu at gyllideb flynyddol Llywodraeth Cymru.

"Ni sydd yn y lle gorau i arwain ar fuddsoddi rhanbarthol yng Nghymru. Dros bron i 20 mlynedd rydym wedi magu profiad, gan weithio'n agos gyda rhanbarthau Cymru, busnesau a chymunedau, sy’n gwybod beth sydd ei angen arnynt a'r math o fuddsoddiad fyddai'n fanteisiol iddynt.

"Mae gennym rwydweithiau ar draws Cymru a'r peirianwaith ar lawr gwlad i ddarparu buddsoddiad rhanbarthol yn effeithiol. Yn syml iawn, dydy hyn ddim gan Whitehall ar hyn o bryd, a does dim modd iddyn nhw ei ail-greu.

“Yn yr un modd ag y mae Llywodraeth Cymru yn y lle gorau, gyda'i phartneriaid, i ddarparu polisi cyffredinol i Gymru, mae pob rhanbarth yn y lle gorau i adnabod blaenoriaethau, heriau a chyfleoedd penodol yn eu hardaloedd ac ar gyfer eu pobl.”

Cynhelir y digwyddiad ar Gyllid yr UE ar ôl Brexit rhwng 2:00 a 5:30pm yn yr Athrofa Ymchwil Diogelwch Ynni, Campws y Bae Prifysgol Abertawe.