Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw bydd yr Ysgrifennydd Cyllid yn ymweld ag Awdurdod Cyllid Cymru, flwyddyn ers ei sefydlu.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Sefydlwyd yr Awdurdod ym mis Hydref 2017, a hynny chwe mis cyn i ddwy dreth ddatganoledig gyntaf Cymru ers 800 mlynedd – y dreth trafodiadau tir a’r dreth gwarediadau tirlenwi – gael eu cyflwyno ar 1 Ebrill 2018.

Flwyddyn yn ddiweddarach, mae gan Gymru swyddogaeth lywodraethol newydd. Mewn cyfarfod o Fwrdd yr Awdurdod yn gynharach heddiw, dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid:

“Mae rôl Awdurdod Cyllid Cymru yn un allweddol yn ein huchelgais i ddatblygu system drethi sy’n diwallu anghenion unigryw Cymru.

“Rhaid canmol y gwaith sydd wedi’i wneud hyd yma i wireddu’r uchelgais honno.”

Dywedodd prif weithredwr yr Awdurdod, Dyfed Alsop:

“Mae Awdurdod Cyllid Cymru yn cyrraedd carreg filltir bwysig heddiw, ac mae hynny’n glod i’r holl gefnogaeth yr ydyn ni wedi’i chael gan ein partneriaid i gyd.

“Rydyn ni wedi ymrwymo i greu system drethi deg i Gymru, a fydd yn helpu i godi refeniw pwysig i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus mewn cymunedau ar hyd a lled Cymru.”

Mae trethi Cymru yn cynnwys y dreth gyngor ac ardrethi annomestig, yn ogystal â chyfraddau treth incwm Cymru o fis Ebrill 2019. Defnyddir y cyllid a godir drwy’r trethi i ariannu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru - o ysbytai ac ysgolion, i wella  ffyrdd a phontydd.