Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, bydd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, yn disgrifio uchelgais i weld Cymru yn un o'r arweinwyr ym maes datblygu ynni'r môr.

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yn gwneud araith bwysig yng nghynhadledd ac arddangosfa Ocean Energy Europe yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Caeredin, lle bydd gan Lywodraeth Cymru stondin fasnach a bydd 16 o gwmnïau o Gymru yn cael eu cynrychioli.

Ocean Energy Europe yw un o'r digwyddiadau pwysicaf yng nghalendr ynni'r môr yn Ewrop, ac mae'n gyfle i gwmnïau godi eu proffil a rhwydweithio gyda'r bobl sy'n gwneud penderfyniadau allweddol, buddsoddwyr, ac entrepreneuriaid dylanwadol yn y sector.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid:

“Rydyn ni'n gweithio'n ddiflino i sicrhau bod Cymru yn un o'r arweinwyr ym maes ynni'r môr, gyda'r ynni sy'n cael ei gynhyrchu gan y tonnau a'r llanw yn rhan bwysig o’n huchelgais i greu economi carbon isel.

“Ein nod ydy cynhyrchu 70% o ynni Cymru o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2030. Mae'r sector ynni morol yn gallu chwarae rôl sylweddol yn ein hymdrechion i fwrw'r targed hwn, a bydd hyn yn cyd-fynd yn agos gyda Chynllun Morol Cenedlaethol cyntaf Cymru.

“Dros y 18 mis diwethaf, mae'r UE a Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mewn nifer o brosiectau ynni morol, gan gynnwys  gwaith caniatâd Morlais, Ardaloedd Prawf Ynni'r Môr yn Sir Benfro, Bombora Wavepower a Marine Power Systems, yn ogystal â pharhau i gefnogi Ynni Môr Cymru.

“Mae hyn i gyd yn creu seiliau cadarn i'n huchelgais i sicrhau diwydiant ffyniannus sy'n dod â swyddi sy'n talu'n dda a chyfleoedd busnes. Rydyn ni'n awyddus i barhau i ddenu datblygwyr o bob rhan o'r byd i fanteisio ar y cyfleoedd sy'n cael eu cynnig gan ddyfroedd Cymru.”

Bydd yr Ysgrifennydd Cyllid yn gwneud ei araith bwysig am 9am ym mhrif awditoriwm Canolfan Gynadledda Ryngwladol Caeredin.