Neidio i'r prif gynnwy

Bydd Mark Drakeford yn ceisio sicrhau cytundeb â Llywodraethau'r DU a'r Alban ar welliannau i’r Bil i Ymadael â'r UE yng nghyfarfod diweddaraf Cyd-bwyllgor y Gweinidogion ar Ewrop.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr Athro Drakeford yn cyfarfod David Lidington, Gweinidog Swyddfa’r Cabinet a Mike Russell, Gweinidog dros Negodiadau'r DU ar Le'r Alban yn Ewrop i drafod Bil Brexit Llywodraeth y DU a fyddai, fel y mae wedi'i ddrafftio ar hyn o bryd, yn caniatáu i Lywodraeth y DU gymryd rheolaeth dros feysydd polisi sydd wedi'u datganoli.

Mae'r cyfarfod yn dilyn pleidlais y Cynulliad Cenedlaethol yr wythnos hon i fwrw ymlaen â Bil Parhad Llywodraeth Cymru fel opsiwn wrth gefn i roi sicrwydd cyfreithiol i fusnesau ac unigolion yng Nghymru a diogelu datganoli.

Dywedodd Mark Drakeford:

“Mae gennym bryderon o hyd am Fil Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Fel y mae wedi'i ddrafftio ar hyn o bryd, mae'n caniatáu i Whitehall gymryd rheolaeth dros feysydd polisi sydd wedi'u datganoli, fel ffermio a physgodfeydd, ar ôl i ni ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.

"Mae angen i ni ddod i gytundeb sy'n parchu datganoli ar frys, ac rydyn ni o'r farn bod modd cyflawni hyn drwy sicrhau'r gwelliannau cywir - a dyna pam rydyn ni'n parhau i drafod y mater gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

"Fodd bynnag, mae'r cloc yn tician ac amserlen y Senedd yn ein herbyn. Mae'n hanfodol i ni sicrhau cytundeb ar ein setliad datganoli ar ôl Brexit cyn gynted â phosib."