Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething wedi cyhoeddi ei fwriad heddiw i sefydlu corff newydd dan yr enw (dros dro) Addysg Iechyd Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y corff yn goruchwylio’r gwaith o lunio a chynllunio gweithlu’r GIG yn strategol, a’r gwaith o gomisiynu addysg a hyfforddiant ar gyfer y staff.

Mae'r cyhoeddiad hwn yn benllanw i'r gwaith a wnaed yn sgil yr Adolygiad o Fuddsoddi mewn Addysg i Weithwyr Iechyd Proffesiynol dan arweiniad Mr Mel Evans OBE, a gyhoeddwyd ym mis Ebrill 2015. Mae hefyd yn ystyried yr adroddiad o'r camau nesaf a luniwyd gan yr Athro Robin Williams CBE, FRS i edrych ar fodelau posib i’w defnyddio cyn penderfynu'n derfynol ar yr amserlen i roi’r corff ar waith.

Dan oruchwyliaeth Bwrdd diduedd, bydd y corff newydd yn hyrwyddo dull cenedlaethol cydgysylltiedig o ddarparu addysg a hyfforddiant i'r gweithlu sy'n diwallu anghenion daearyddol penodol Cymru.      

Mae Llywodraeth Cymru'n disgwyl i'r corff fod yn ei le erbyn 1 Ebrill 2018.

Dywedodd Vaughan Gething:

"Y gweithlu yw curiad calon y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Bydd y corff newydd hwn yn creu diwylliant o gefnogi dysgu yn y gwaith yng Nghymru, gan ddenu a chadw'r unigolion gorau posib, a hynny ledled y wlad.

"Rwy'n hyderus mai dyma'r ffordd orau ymlaen i Gymru ac rwy'n bwriadu rhoi trefniadau yn eu lle er mwyn ffurfio Addysg Iechyd Cymru."