Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw (24 Awst) mae’r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, wedi cadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi bron £1.7miliwn o gyllid i ailddatblygu Canolfan Iechyd Tonypandy.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Awst 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i helpu i uno dau bractis meddygon teulu yn yr ardal i greu un ganolfan iechyd a gofal integredig. Bydd hynny’n gwella’r gwasanaethau i gleifion.

Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i greu canolfan iechyd a gofal integredig.  Bydd hynny'n gwella'r gwasanaethau i gleifion.

Nid yw’r adeilad presennol yn ddigon mawr i alluogi i’r newidiadau angenrheidiol gael eu gwneud i moderneiddio’r gwasanaethau. Mae’r lle yn gyfyng a’r ystafelloedd yn fach. Dim ond un ystafell driniaethau sydd yno, ac mae’n cael ei defnyddio gan y tîm nyrsio cymunedol hefyd.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd:

“Nid oedd cael dwy feddygfa yn y ganolfan iechyd yn gwneud synnwyr bellach. Roedd cryn dipyn o’r lle yn y ganolfan yn cael ei ddefnyddio ar gyfer yr un dibenion ddwywaith, a oedd yn golygu nad oedd digon o le ar gyfer adnoddau i’r staff a’r cleifion. Roedd recriwtio staff i’r ddwy feddygfa yn her hefyd. 

“Mae ein cynllun tymor hir ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn canolbwyntio ar ddarparu gofal gwell yn nes at gartrefi pobl. Bydd adnewyddu Canolfan Iechyd Tonypandy yn cyflawni hynny. Rwy’n falch ein bod wedi clustnodi £1.7miliwn o gyllid ar gyfer y Ganolfan, a fydd yn helpu cleifion i gael gafael ar wasanaethau’n lleol.”

Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio hefyd i wella seilwaith yr adeilad, drwy uwchraddio’r cyfleusterau dŵr, draenio, trydan, plymio a gwresogi, gan greu adeilad modern a fydd yn gwasanaethu’r gymuned am gryn flynyddoedd.

Dywedodd Alan Lawrie, Cyfarwyddwr Iechyd Sylfaenol, Iechyd Cymunedol ac Iechyd Meddwl Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf:

“Ry’n ni’n croesawu’r cyhoeddiad hwn am gyllid i Ganolfan Iechyd Tonypandy gan Lywodraeth Cymru yn fawr iawn. 

“Bydd yn darparu amgylchedd gofal sylfaenol newydd gwell i’r meddygon teulu, y staff a’r cleifion, a bydd hynny’n arwain at wasanaethau gwell i’r boblogaeth. 

“Mae’r buddsoddiad yn golygu y gellir lleoli tîm amlddisgyblaethol integredig ehangach yn yr adeilad ar ein newydd wedd, a fydd yn addas ar gyfer gofal iechyd yn Nhonypandy yn y dyfodol.”

Mae’r cyhoeddiad hwn yn rhan o fuddsoddiad mwyaf Llywodraeth Cymru yn y seilwaith gofal sylfaenol a chymunedol. Yn gynharach eleni, cymeradwywyd 19 o brosiectau i ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal yn nes at gartrefi pobl.