Neidio i'r prif gynnwy

Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, am weld gwelliannau cyflymach yn sgil yr adroddiad heddiw ynglŷn â’r gofal yn ward Tawel Fan.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Mai 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Roedd Mr Gething yn ymateb i adroddiad annibynnol y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol (HASCAS) a gyhoeddwyd heddiw (3 Mai). Er nad yw’r adroddiad yn cadarnhau’r honiadau a wnaed yn y gorffennol ynghylch camdriniaeth neu esgeulustod sefydliadol ar ward Tawel Fan, meddai, y mae’n cyfeirio at fethiannau llywodraethu a oedd wedi peryglu ansawdd y gofal.  

Dywedodd: 

“Mae’r adroddiad hwn wedi’i gyhoeddi yn dilyn ymchwiliad helaeth a thrwyadl i’r gofal a’r driniaeth a roddwyd i gleifion ar ward Tawel Fan yn Uned Ablett, Ysbyty Glan Clwyd. 

“Er bod yr adroddiad yn rhoi'r sicrwydd pwysig nad oedd modd cadarnhau'r honiadau a wnaed yn y gorffennol ynghylch camdriniaeth neu esgeulustod sefydliadol, mae'n cadarnhau bod methiannau ehangach o fewn y bwrdd iechyd. Mae’n tynnu sylw at yr angen i fynd ati’n gyflymach i wneud gwelliannau ar draws ystod o feysydd, ond cydnabyddir hefyd fod peth o’r gwaith hwnnw ar y gweill yn barod. Yn gyffredinol, mae'r adroddiad yn gwbl glir fod tipyn o waith gan y bwrdd iechyd i'w wneud eto i wella, ac y bydd angen mwy o drosolwg ag iddo ffocws penodol o dan y trefniadau mesurau arbennig.”

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd y dylid pwyllo cyn dod i gasgliadau am yr anghysondeb ymddangosiadol rhwng casgliadau ymchwiliad y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol a chanlyniadau adroddiadau cynharach.

“Roedd gan ymchwiliad y Gwasanaeth Cynghori gylch gwaith llawer ehangach ac, yn wahanol i’r adroddiad blaenorol, bu modd iddo edrych ar gyfres gynhwysfawr o ddogfennau, gan gynnwys cofnodion clinigol, a manteisio ar arbenigedd penodol ym maes iechyd meddwl,” meddai. 

Ychwanegodd Mr Gething: 

“Mae hwn yn adroddiad sylweddol y bydd angen ei ddarllen a'i ystyried yn ofalus eto. Byddaf yn trafod yr adroddiad gyda’r bwrdd iechyd ac yn ymateb yn llawnach maes o law. 

“Er y bydd hwn yn ddiwrnod anodd iawn i deuluoedd a staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a gymerodd ran yn yr ymchwiliad neu yr effeithiwyd arnynt ganddo, hyderaf y bydd y canfyddiadau hyn gan y Gwasanaeth Cynghori ar Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn sbardun i wasanaethau iechyd meddwl yn y Gogledd allu camu allan o'r cysgod sydd wedi ei daflu drostynt ers blynyddoedd bellach.”