Neidio i'r prif gynnwy

Mae Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, wedi rhoi sêl bendith i arian cyfatebol ar gyfer ysgol Saesneg newydd werth £8 miliwn yn Llansawel.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Awst 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi arian cyfatebol o hyd at £3.3 miliwn i Awdurdod Lleol Castell-nedd Port Talbot, yn erbyn cyfanswm cost y prosiect o £7.6 miliwn.

Bydd lle i 420 o ddisgyblion yn yr ysgol Saesneg newydd 3-11 oed a fydd yn cael ei hadeiladu yn lle ysgolion cynradd Brynhyfryd, Llansawel ac Ynysymaerdy. Bydd lle i 75 o ddisgyblion meithrin rhan-amser ar y safle hefyd.

Cafodd yr arian ei ddyrannu fel rhan o Raglen Addysg ac Ysgolion yr 21ain Ganrif. Yn y rhaglen unigryw hon, mae Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac awdurdodau lleol yn cydweithredu i gyflawni'r nod o adeiladu cenhedlaeth o ysgolion yr 21ain ganrif yng Nghymru.  

Mae'r rhaglen yn cyfeirio adnoddau i'r ysgolion cywir yn y mannau cywir, o'r blynyddoedd cynnar hyd at addysg ôl-16.

Bydd y gwaith adeiladu'n cychwyn ym mis Chwefror 2017, a disgwylir y bydd wedi'i gwblhau erbyn mis Mehefin 2018.

Dywedodd Kirsty Williams:

“Dwi'n awyddus i weld Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn parhau i fwrw yn ei blaen yn gyflym. Bydd cyfleuster newydd, cyfoes, o'r radd flaenaf yn Llansawel yn nodi cychwyn pennod newydd ar gyfer plant a theuluoedd y gymuned, a'u dyfodol.

"Fodd bynnag, rydyn ni'n gwybod bod rhagor o waith i'w wneud ledled Cymru i sicrhau bod plant ac athrawon yn ffynnu gan weithio mewn adeiladau cyfoes, newydd."