Neidio i'r prif gynnwy

Sut mae technegau adeiladu newydd yn helpu i sbarduno diddordeb ymhlith gweithlu'r dyfodol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Mawrth 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:
Ysgol Gynradd Trwyn y De

Ysgol Gynradd Trwyn y De, Ysgol Gynradd Llancarfan gynt, yw’r ysgol garbon sero net gyntaf yng Nghymru. Mae Ysgol Gynradd Trwyn y De yn brosiect blaenllaw fel rhan o’r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, sy’n gweithredu fel cynllun peilot ar gyfer Llywodraeth Cymru, gan ddangos sut y gall y Cynllun Cyflawni Carbon Isel a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 lunio a gwella’n gynaliadwy'r amgylchedd adeiledig.

Er mwyn gwneud y mwyaf o gysur y defnyddiwr terfynol a sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo’n ddi-dor drwy gydol cylch bywyd Ysgol Gynradd Trwyn y De, datblygodd tîm prosiect ISG Construction adnodd addysgu ar ffurf llwybr cod QR. Esboniodd deg cod QR newid hinsawdd, gan gynnwys yr achosion, yr effeithiau, a pham mae angen i ni wneud rhywbeth i fynd i'r afael â'r materion hyn. Roedd yr 13 cod QR arall yn esbonio carbon sero net, ymarferoldeb Ysgol Gynradd Trwyn y De, a'r ffaith fod yr ysgol yn edrych fel ysgol 'gyffredin' o safbwynt esthetig, ond dyma'r ysgol garbon sero net gyntaf sydd ar waith yng Nghymru.

Mae’r ysgol garbon sero net yn ffordd wych o ennyn diddordeb plant mewn ennill dealltwriaeth o newid hinsawdd gyda’r gobaith o’u hysbrydoli i fanteisio ar gyfleoedd sero net i ddiwallu anghenion gweithlu’r dyfodol. Mae’r plant hefyd yn dysgu sut y gall eu gweithredoedd eu hunain gael effaith ar newid hinsawdd, gan ddysgu sgiliau bywyd gwerthfawr y gallant fynd â nhw adref i'w teuluoedd, eu ffrindiau a'u cymunedau.