Neidio i'r prif gynnwy

Mae Mark Drakeford, y Prif Weinidog, wedi cyhoeddi y bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu hyd at 140 o leoliadau i fyfyrwyr meddygaeth bob blwyddyn yn ysgol feddygaeth newydd y Gogledd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Ionawr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd yr ysgol feddygaeth newydd yn y Gogledd yn hyfforddi cannoedd o fyfyrwyr meddygaeth. Bydd yn sicrhau bod cyfleoedd hyfforddi yn cael eu cynnig, a meddygon cymwys yn cael eu darparu mewn gwahanol ardaloedd o Gymru.

Bydd yr hyfforddiant yn dechrau yn 2024 gyda nifer y myfyrwyr yn cynyddu tan i’r ysgol gyrraedd capasiti llawn o 2029 ymlaen. Drwy gynyddu nifer y myfyrwyr yn raddol, bydd amser i asesu a gwerthuso ansawdd yr addysgu a phrofiad y myfyrwyr yn yr ysgol feddygaeth newydd.

Heddiw, bydd y Prif Weinidog yn cyfarfod â myfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor sy'n elwa ar dechnoleg o'r radd flaenaf ar gyfer astudio anatomeg. 

Cafodd y cyfleuster gymorth buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, a'r myfyrwyr yw'r garfan gyntaf o raddedigion Prifysgol Caerdydd i fod wedi derbyn y rhan fwyaf o'u haddysg yn y Gogledd.

Dywedodd y Prif Weinidog:

Bydd ein hysgol feddygaeth newydd yn y Gogledd yn ein helpu i hyfforddi'r staff meddygol sydd eu hangen arnom ar gyfer y dyfodol.

Rwy'n falch y bydd cymaint o fyfyrwyr yn gallu astudio yn y Gogledd ac rwy'n gobeithio y byddan nhw'n aros i weithio yn y cymunedau hynny ar ôl iddyn nhw orffen astudio.

Mae hyn yn newyddion da i'r myfyrwyr, i bobl y Gogledd ac i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ac mae’n dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wasanaeth iechyd sy'n darparu gofal mor agos at gartrefi pobl â phosibl.

Bydd ysgol feddygaeth y Gogledd yn cael ei sefydlu mewn partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, Prifysgol Bangor, Prifysgol Caerdydd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

Bydd y Prif Weinidog hefyd yn mynd i gyfarfod Is-bwyllgor y Cabinet ar gyfer y Gogledd, sy'n cynnwys aelodau'r cabinet ac arweinwyr awdurdodau lleol, yng Nghyffordd Llandudno heddiw.