Mae ysgolion ac adeiladau cyhoeddus ledled Cymru yn derbyn paneli solar fel rhan o gyllid o £9 miliwn i leihau biliau ynni a datgarboneiddio adeiladau cyhoeddus.
Mae'r cyllid yn cael ei ddarparu gan Great British Energy, cwmni ynni cyhoeddus Llywodraeth y DU.
Mae Llywodraeth y DU a Great British Energy wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru, a fydd yn goruchwylio'r gwaith o ddarparu'r cyllid yng Nghymru.
Bydd yr arian yn cefnogi prosiectau, gwerth hyd at £4 miliwn, i ddarparu paneli solar ar gyfer ysgolion ag adeiladau cyhoeddus drwy Raglen Ariannu Cymru.
Mae'r rhain yn cynnwys yr isod, gyda fwy i ddod yn y dyfodol:
- Coleg Cambria, Wrecsam
- Ysgol Gyfun Porthcawl
- Ysgol Gynradd Glan Llyn, Casnewydd
- Ysgol Gynradd Jubilee Park, Casnewydd
Bydd gweddill yr arian yn cael ei ddefnyddio i ariannu cynllun newydd, Ymestyn, a fydd yn darparu cyllid llenwi bwlch ychwanegol i'r sector cyhoeddus a chymunedau i godi uchelgais eu gwaith datgarboneiddio. Er enghraifft, trwy ariannu prosiectau mwy cymhleth, uchelgeisiol fel canopïau solar a storio ynni batri integredig adnewyddadwy.
Bydd rhagor o fanylion am Ymestyn ar gael pan fydd yn cael ei lansio yn ystod yr wythnosau nesaf.
Dywedodd Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig:
Rydym yn gyrru tuag at sector cyhoeddus net sero erbyn 2030, a bydd y cyllid hwn yn ein helpu i nid dod yn agosach. Diolch i'r cyllid hwn, bydd sefydliadau ledled Cymru yn gweld eu biliau ynni'n gostwng mewn ychydig fisoedd.
Rwy'n edrych ymlaen at ddechrau'r cynllun Ymestyn, a fydd yn gwireddu rhai prosiectau datgarboneiddio cyffrous wrth inni barhau i fynd i’r afael a’r argyfwng hinsawdd.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:
Bydd y prosiectau paneli solar ag ynni adnewyddadwy hyn yn gwneud gwahaniaeth enfawr i'r sefydliadau hyn trwy ostwng eu biliau a gwneud eu seilwaith yn addas ar gyfer y dyfodol.
Mae’r cyllid Great British Energy hwn yn dangos blaenoriaethau cyffredin Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wrth fynd i’r afael â newid hinsawdd ac sicrhau bod ein cymunedau’n elwa ar y trosiant i net sero.
Bydd y cyllid yn cefnogi ein dyhead cyffredin o ynni glân, diogel, o Gymru a bydd yn cydgrynhoi buddsoddiad presennol Llywodraeth Cymru mewn ynni lleol a chymunedol yng Nghymru.
Dywedodd Gweinidog Ynni Llywodraeth y DU, Michael Shanks:
Mae Great British Energy yn grymuso cymunedau yng Nghymru i gymryd rhan yn eu hynni eu hunain.
Dyma ein cenhadaeth uwch-bŵer ynni glân ar waith – gwneud cymunedau yn gyfrifol am gynhyrchu ynni a sicrhau bod pobl sy'n gweithio a busnesau lleol yn elwa.
