Neidio i'r prif gynnwy

Cyhoeddwyd heddiw (dydd Gwener 17 Tachwedd) y bydd disgyblion ledled Cymru yn elwa ar grant newydd gwerth £2.5 miliwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer ysgolion bach a gwledig.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Tachwedd 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae awdurdodau lleol wedi bod yn cyflwyno ceisiadau am y cyllid ar ôl i'r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams, gyhoeddi'r pecyn cymorth ym mis Tachwedd y llynedd. Diben y pecyn yw annog arloesi a chefnogi mwy o gydweithio rhwng ysgolion.

Mae hyn yn cynnwys defnyddio technoleg ddigidol i fynd i'r afael â phroblem ynysu proffesiynol, darparu cymorth gweinyddol yn yr ysgolion lle mae gan y pennaeth ddyletswyddau addysgu sylweddol, cefnogi cydweithredu rhwng ysgolion a'u ffederaleiddio, a lle bo hynny'n bosibl a bod galw amdano'n lleol, defnyddio cyfleusterau ysgolion at ddibenion cymunedol.

Ymhlith yr awdurdodau lleol a fydd yn cael arian, mae Ynys Môn, a fydd yn cael £138,000 i ffederaleiddio rhai o'i ysgolion, a chafodd Sir Benfro £158,000 i ariannu Prosiect Arloesi Ysgolion Bach ar gyfer rhwydwaith o 15 o ysgolion bach ac ysgolion gwledig.

Dywedodd Kirsty Williams:

“Mae ysgolion bach ac ysgolion gwledig yn chwarae rôl bwysig yn ein cenhadaeth genedlaethol i godi safonau ac ehangu cyfleoedd i'n pobl ifanc i gyd.

“Rydyn ni'n cymryd camau ac yn darparu cyllid newydd i helpu ysgolion bach a gwledig i ddelio â'r heriau unigryw y maent yn eu hwynebu, fel niferoedd bach o ddisgyblion a phroblemau wrth geisio recriwtio penaethiaid a staff.  

“Bydd y cymorth ariannol hwn yn helpu ysgolion i weithio gyda'i gilydd er lles disgyblion, athrawon a'r gymuned ehangach. Rydw i am weld ysgolion gwledig yn gweithio'n fwy ffurfiol gyda'i gilydd ac ar draws y wlad, gan ffurfio ffederasiynau ac ystyried y posibilrwydd o rannu adeiladau â gwasanaethau eraill, er mwyn sicrhau y bydd dyfodol i adeiladau ysgol.”

Dywedodd y Cynghorydd Debbie Wilcox (Casnewydd), Llefarydd CLlLC dros Addysg:

“Mae’r cyllid hwn yn newyddion ardderchog i ysgolion bach ac ysgolion gwledig. A minnau wedi bod yn athrawes am flynyddoedd maith gynt, gwn sut y gall yr amgylchedd dysgu gorau posibl wella profiadau a chyfoethogi addysg. Mae awdurdodau addysg lleol wedi bod wrthi’n gweithio’n galed i sicrhau bod ysgolion yn ymateb i heriau cyfoes a’u bod yn barod ym mhob ffordd i ddarparu’r amgylchedd gorau ar gyfer addysg i’r athrawon, i’r disgyblion ac i’r staff, a bydd y buddsoddiad hwn yn golygu bod y gwaith pwysig hwnnw yn parhau.”

Dywedodd Dirprwy Lefarydd CLlLC dros Addysg, y Cynghorydd Ellen ap Gwynn (Ceredigion):

“Mae ysgolion bach a gwledig yn wynebu heriau unigryw, yn enwedig o ran recriwtio a nifer isel o ddisgyblion. Ond maen nhw’n fwy nag ysgolion yn unig i’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Maen nhw’n asedau pwysig i’r gymuned, gan fod adeiladau ac adnoddau ysgolion yn cael eu defnyddio’n helaeth ar gyfer amrywiaeth o ddibenion cymunedol. Bydd y cyllid hwn yn help i sicrhau bod dysgwyr a chymunedau, fel ei gilydd, yn gallu parhau i elwa ar fanteision yr ysgolion hyn, a hefyd i gryfhau’r gefnogaeth ar gyfer darpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg yn ein cymunedau gwledig.”

Hefyd, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Addysg gynlluniau i gynnal ymgynghoriad ar gryfhau'r Cod Trefniadaeth Ysgolion, mewn perthynas â rhagdybiaeth na chaiff ysgolion gwledig eu cau. Am y tro cyntaf erioed, bydd statws 'ysgol wledig' yn cael ei nodi at y diben hwnnw. Daeth cyfnod ymgynghori o 14 wythnos i ben ar 30 Medi ac mae'r ymatebion yn cael eu dadansoddi ar hyn o bryd.