Neidio i'r prif gynnwy

Mae Cyngor Conwy wedi cael gwared o ffrïwyr saim dwfn a gosod offer cegin o’r radd flaenaf i helpu gyda chapasiti ac effeithlonrwydd a hynny fel rhan o raglen Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd (UPFSM) Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mai 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae grant UPFSM wedi'i ddefnyddio i roi datblygiadau technolegol ar waith yn y ceginau gan gynnwys poptai rhaglenadwy o’r radd flaenaf a phaneli solar mewn tair ysgol gynradd.

Mae Tîm Arlwyo Addysg Conwy hefyd wedi bod yn blaenoriaethu gweini cynhwysion lleol i sicrhau bod dysgwyr yn bwyta prydau maethlon o safon.

Dywedodd Dafydd Aled Williams, Rheolwr Gwasanaethau Iechyd a Lles Addysg Conwy:

"Rwy'n falch iawn o'r hyn mae Arlwyo Addysg Conwy wedi ei gyflawni gyda'r grant UPFSM. Rydym wedi uwchraddio ceginau i gynyddu'r capasiti coginio. Rydym wedi cael gwared o’r holl ffrïwyr saim dwfn, gosod poptai cyfunol rhaglenadwy, a disodli offer coginio nwy gyda rhai trydan fel y gallwn fanteisio ar ynni adnewyddadwy.”

Mae’r gwelliannau i offer cegin wedi gwneud gwahaniaeth nodedig i ysgolion yng Nghonwy. Eglurodd Sarah Mugglestone, Cogydd Goruchwyliol yn Ysgol Ffordd Dyffryn, Llandudno, sut y bu i’w hysgol gynnal gwaith adnewyddu llawn yn y gegin yn ystod gwyliau ysgol haf 2023, diolch i gyllid a oedd ar gael gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’r rhaglen:

“Mae’r gwaith adnewyddu wedi cael effaith bositif iawn ar sut mae’r gegin brysur hon yn gweithio, wrth fwydo dros 145 o blant y dydd mewn cegin gydag offer newydd. Mae’n galluogi i brydau gael eu coginio’n llawer cyflymach ac iachach, oherwydd i ni gyflwyno ffrio ag aer yn hytrach na ffrïo saim dwfn, sydd yn ei dro wedi gwella effeithlonrwydd yn y gegin.”

I ddechrau, ni welodd cegin Ysgol Ffordd Dyffryn fawr o newid yn niferoedd y dysgwyr oedd yn derbyn cinio ysgol. Ond yn raddol, wrth i'r plant gael eu hannog i roi cynnig ar brydau poeth maethlon, newidiodd hyn gan arwain at weini y rhan fwyaf o'r ysgol. Ychwanegodd Ms Mugglestone:

“Mae hyn wedi bod yn ganlyniad cadarnhaol iawn i’r ysgol a’r gegin gyda’r mwyafrif o blant yn ceisio ac yn mwynhau bwydydd newydd, hyd yn oed os oes angen ychydig o anogaeth ar rai o bryd i’w gilydd i roi cynnig arnynt.”

Wrth siarad am y newid ehangach yn yr awdurdod lleol, esboniodd Dafydd Aled Williams fod cyllid UPFSM wedi golygu eu bod yn gallu cynnwys mwy o fwyd o ffynonellau lleol ar fwydlenni ysgolion cynradd yng Nghonwy; bwyd sydd wedi’i ddadansoddi o ran maeth a’i ddilysu gan Bwyd Mewn Ysgolion CLlLC fel un sy’n cydymffurfio â gofynion Rheoliadau Bwyta'n Iach mewn Ysgolion Cymru a hynny gyda gwobr aur.

Ym mis Medi 2022, dechreuodd Cymru ar y rhaglen Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd (UPFSM). Bydd Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd yn cael ei gyflwyno i bob plentyn ysgol gynradd a mwy na 6,000 o ddisgyblion oed meithrin ar draws holl awdurdodau lleol Cymru erbyn mis Medi eleni.

Ledled Cymru, mae 19 awdurdod lleol – gan gynnwys Cyngor Conwy – wedi cwblhau hyn, gan ddarparu prydau ysgol am ddim i bob disgybl o’r dosbarth derbyn i flwyddyn 6. Bydd gweddill yr awdurdodau lleol yn cwblhau’r broses gyflwyno erbyn mis Medi 2024.

I gael rhagor o wybodaeth am Brydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd, ac i wirio a ydych yn gymwys i hawlio cymorth gyda hanfodion ysgol, ewch i www.llyw.cymru/hawliwch-help-gyda-chostau-ysgol.