Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams wedi cyhoeddi fod ysgolion drwy Gymru i rannu dros £90 miliwn yn 2018-19 er mwyn helpu eu disgyblion mwyaf difreintiedig.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ysgrifennu at ysgolion drwy Gymru yn cadarnhau faint y byddant yn ei dderbyn yn uniongyrchol yn 2018-19.

Yn ychwanegol i’r £90m sydd wedi ei ymrwymo eleni, mae £187m wedi cael ei warantu am weddill tymor y Cynulliad, er mwyn rhoi sefydlogrwydd i ysgolion gynllunio ymlaen.  

Mae’r Grant Datblygu Disgyblion yn helpu ysgolion i fynd i’r afael ag effeithiau tlodi ac anfantais ar gyrhaeddiad ac mae wedi ei dargedu at ddysgwyr sy’n gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim neu sy’n Blant sy’n Derbyn Gofal.

Mae ysgolion yn defnyddio’r Grant mewn nifer o wahanol ffyrdd, gan gynnwys grwpiau anogaeth ar gyfer plant sy’n fregus yn gymdeithasol neu’n emosiynol, dysgu y tu allan i oriau ysgol, cefnogaeth arbenigol gan nifer o asiantaethau allanol a gwella systemau disgyblion wrth iddynt ddatblygu drwy’r ysgol yn well.

Eleni, mae’r Grant Datblygu Disgyblion ar gyfer y dysgwyr ieuengaf (disgyblion 3-4 oed) wedi cynyddu o £600 i £700 y disgybl. Mae hyn yn ychwanegol at y cymorth ariannol a ddyblwyd y llynedd o £300 i £600 y dysgwr yn y blynyddoedd cynnar.

Bydd ysgolion cynradd ac uwchradd yn parhau i dderbyn cyfradd o £1,150 y dysgwr, ac mae’r gyfradd yma hefyd yn parhau i fod yn gymwys i rai sy’n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol (EOTAS).

O’r flwyddyn yma ymlaen, bydd gan ysgolion fwy o hyblygrwydd hefyd i gefnogi dysgwyr sydd wedi bod yn gymwys i gael Prydau Ysgol am Ddim yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

Mae cynghorwyr a chydlynwyr o’r gwahanol gonsortia addysg ar gael hefyd i gynnig cefnogaeth ac arweiniad bellach i ysgolion ar sut y gallant ddefnyddio’r cyllid.

Dywedodd Kirsty Williams:

“Mae cau y bwlch rhwng cyrhaeddiad dysgwyr o gefndiroedd difreintiedig a chyrhaeddiad eu cyfoedion yn ganolog i’n hymgais genedlaethol i godi safonau. Dyma un o’r dulliau mwyaf effeithiol inni fedru torri cylch amddifadedd a thlodi.

“Mae athrawon wedi dweud wrthyf dro ar ôl tro gymaint o wahaniaeth y mae cyllid y Grant Datblygu Disgyblion wedi ei wneud i godi dyheadau a  hyder, gwella ymddygiad a phresenoldeb a chynnwys teuloedd yn addysg eu plant.

“Mae athrawon hefyd wedi galw am fwy o sicrwydd ynglŷn â dyfodol cyllid y Grant Datblygu Disgyblion a dyna pam fy mod yn falch o fedru gwarantu lefelau’r dyraniad am y ddwy flynedd ariannol nesaf ac i gadarnhau ein hymrwymiad i’r grant hwn am dymor y Cynulliad presennol.

“Rydym wedi dweud bob amser fod y Grant ar gael ar gyfer pob disgybl sy’n gymwys i dderbyn Prydau Ysgol am Ddim, nid y rhai sy’n cael trafferthion yn academaidd yn unig. Dyna pam fy mod eisiau i ysgolion wneud yn siwr eu bod yn cefnogi disgyblion sy’n fwy abl a galluog hefyd.

“Rwyf hefyd yn annog pob ysgol i fanteisio’n llawn ar y cynghorwyr a chydlynwyr y Grant sydd yn y consortia addysg – maent yno i helpu wrth benderfynu sut i wneud y defnydd gorau o’r cyllid ac i wneud yn siwr ein bod yn codi cyrhaeddiad pob disgybl.”

Mae gwerthusiad annibynnol o’r Grant  a wnaed y llynedd yn dangos fod llawer o ysgolion yn gweld y cyllid yma’n ‘amhrisiadwy’, gyda thystiolaeth bellach gan Sir Alasdair MacDonald, eiriolwr codi cyrhaeddiad ar ran Estyn a Llywodraeth Cymru, sy’n dangos fod y mwyafrif o ysgolion yn gwneud penderfyniadau doeth ar sut i wario’r cyllid.