Daeth yr ymgynghoriad i ben 28 Ebrill 2013.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 208 KB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Prif destun yn rhoi rhagor o wybodaeth: Mae'r ddogfen ymgynghori hon yn gofyn am farn ar y canllawiau statudol drafft i awdurdodau lleol ar ysgolion sy'n peri pryder.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Mae’r canllawiau statudol yn rhoi gwybodaeth i awdurdodau lleol am y gofynion deddfwriaethol newydd ar gyfer ymyrryd mewn ysgolion sy’n peri pryder y darperir ar eu cyfer yn Neddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013. Lluniwyd y canllawiau ar gyfer awdurdodau lleol pan fyddant yn ystyried ymyrryd mewn ysgolion sy’n peri pryder yn eu hardal.
Maent hefyd yn egluro’r dulliau y bydd Gweinidogion Cymru yn eu defnyddio i gyflawni eu swyddogaethau ymyrryd a chydsynio eu hunain. Bydd gofyn i awdurdodau lleol ystyried y canllawiau wrth gyflawni eu swyddogaethau mewn perthynas ag ymyrryd mewn ysgolion sy’n peri pryder.