Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams wedi lansio adnoddau dwyieithog newydd i ysgolion yn seiliedig ar ffilm hirddisgwyliedig Peter Jackson am y Rhyfel Byd Cyntaf, ‘They Shall Not Grow Old’.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Gan ddefnyddio technegau cynhyrchu modern, mae’r prosiect celfyddydol 14-18 NOW wedi bod yn cydweithio â’r Imperial War Museums (IWM), y BBC a Peter Jackson i adfer a lliwio ffilmiau nas gwelwyd o’r blaen o archif helaeth yr IWM.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi’r prosiect trwy ei rhaglen Cymru’n Cofio Wales Remembers1914-1918 ar gyfer canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf gyda grant o £25,000. Mae hyn wedi helpu i sicrhau y byddai deunyddiau ategol ar gyfer y ffilm ar gael yn Gymraeg.

Bu Ysgol Gymunedol Aberdâr yn profi’r adnoddau dysgu yn eu gwersi Hanes, gan alluogi 14-18 NOW i’w haddasu a’u cwblhau cyn eu dosbarthu i bob ysgol yng Nghymru.

Heddiw, ymunodd Kirsty Williams â disgyblion yn Ysgol Gymunedol Aberdâr i ddysgu mwy am eu cyfraniad at y prosiect ac i weld y ffilm newydd.

Wrth siarad yn y lansiad heddiw, meddai:

“Mae’r ffordd mae pobl wedi ymgysylltu â digwyddiadau cofio’r Rhyfel Byd Cyntaf, ac yn enwedig yr amryw o brosiectau sy’n cael eu cyflawni gan bobl ifanc ledled Cymru, wedi bod yn galonogol iawn.

“Rwy’n hynod falch ein bod ni wedi gallu cefnogi prosiect 14-18 NOW i ddatblygu adnoddau sy’n cyd-fynd â’r ffilm ddogfen hon ac ennyn diddordeb ysgolion. Mae’n bwysig ein bod ni’n parhau i gydnabod yr aberth a wnaed gan y dynion ifanc hynny ganrif yn ôl.”

Bydd They Shall Not Grow Old yn cael ei dangos mewn sinemâu ac ysgolion ledled y DU, cyn cael ei darlledu ar BBC2 ddydd Sul 11 Tachwedd am 9.30pm.

Rydym wedi cefnogi’r prosiect er mwyn datblygu adnoddau i ysgolion i gyd-fynd â’r ffilm: