Neidio i'r prif gynnwy

Ysgolion yn dweud bod y Grant Datblygu Disgyblion yn “amhrisiadwy”, yn ôl adroddiad newydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Rhagfyr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae gwerthusiad annibynnol o Grant Datblygu Disgyblion Llywodraeth Cymru wedi canfod bod llawer o ysgolion yn ystyried na ellir rhoi gwerth ar y cyllid. Mae cynnydd da yn cael ei wneud o ran nodi a mynd i’r afael ag anghenion dysgwyr difreintiedig.

Mae’r adroddiad gan Ipsos Mori a Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD) yn canolbwyntio ar sut y mae ysgolion yn gwario'r Grant Datblygu Disgyblion ac yn edrych ar farn athrawon am effaith y grant.

Roedd llawer o ysgolion a roddodd gyfweliad ar gyfer yr adroddiad wedi cydnabod bod y Grant Amddifadedd Disgyblion wedi bod o gymorth o ran canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth o fynd i'r afael ag anfantais ar draws yr ysgolion.

Dywedodd ysgolion fod hyn wedi arwain at ganolbwyntio mwy ar strategaethau ysgol gyfan i wella ar agweddau fel ymddygiad, presenoldeb, trafod â’r teulu a dulliau gweithredu adferol.

Dywedwyd bod gwelliannau sylweddol mewn ysgolion o ran llesiant, hyder a hunan-barch disgyblion. Sylweddolwyd hefyd fod disgyblion yn llawer parotach i gymryd rhan mewn gweithgareddau yn yr ystafell ddosbarth.

Roedd ysgolion wedi gweld gwelliant yn y gefnogaeth yn y modd yr oedd dysgwyr sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim yn cael eu cefnogi ar eu taith drwy’r ysgol.

Wrth ymateb i'r adroddiad  heddiw, dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams:

“Mae lleihau'r bwlch rhwng cyrhaeddiad y disgyblion hynny sy'n dod o gefndiroedd difreintiedig a'u cyfoedion yn greiddiol i'n cenhadaeth genedlaethol i godi safonau.

“Mae'r adroddiad hwn yn dystiolaeth bellach bod y Grant Datblygu Disgyblion, sydd werth £93 miliwn, yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol o ran taclo’r anghyfiawnder hwn a helpu disgyblion i gyrraedd eu potensial llawn. 

“Rwy’n falch bod ysgolion yn credu bod y Grant yn amhrisiadwy. Rwy’n gefnogol i’r ffordd y mae’r cyllid yn cael ei ddefnyddio i dargedu ein disgyblion mwyaf difreintiedig.

“Yn gynharach eleni, cyhoeddais y byddwn yn ymestyn y Grant Datblygu Disgyblion, gan gynnwys dyblu’r cymorth ariannol i ddysgwyr y blynyddoedd cynnar a’r cyfnod sylfaen. 

“Er mwyn sicrhau bod modd i ysgolion gynllunio a manteisio i'r eithaf ar y cyllid, rydym eisoes wedi ymrwymo i gadw'r Grant Amddifadedd Disgyblion dros gyfnod y Cynulliad presennol. 

“Mae’r adroddiad heddiw yn dangos bod camau breision wedi cael eu gwneud yn y maes hwn, ond nid yw hynny'n rheswm dros laesu dwylo.  Dyma pam y byddwn yn canolbwyntio ar y Grant Datblygu Disgyblion, law yn llaw â’r newidiadau eraill sydd ar y gweill gennym, i sicrhau bod pob disgybl yn cyrraedd ei botensial llawn.”

Bydd ysgolion ledled Cymru yn cael budd o’r Grant. Un o’r rhain yw Ysgol Gynradd Pillgwenlli, Casnewydd. 

Dywedodd y Pennaeth, Kath Bevan:
 
“Mae cyfran sylweddol o’n cyllid grant ni yn mynd ar ariannu dau Grŵp Anogaeth. Mae’r grwpiau hyn yn rhoi amgylchedd sefydlog a gofalgar i blant sy’n emosiynol ac yn gymdeithasol fregus. Mae'r grwpiau yn help iddynt ddatblygu eu hunan-barch a'u hunangred ac yn gwella’u gwytnwch fel unigolion.
 
“Fel ysgol, mae’r Grant wedi helpu i wella presenoldeb, dysgu a chymhwyso sgiliau allweddol. Mae hefyd wedi helpu i gysylltu’r ysgol â’r gymuned ehangach.”

Dywedodd Heather Nicholas, cyn Bennaeth Ysgol Gymunedol Ferndale a Phennaeth presennol yr ysgol newydd i ddisgyblion 3-19 oed yn Nhonyrefail:

“Mae effaith y Grant ar gymuned yr Ysgol Gymunedol yma yn Ferndale yn sylweddol iawn. Mae wedi bod yn allweddol i gau’r bylchau sydd ym mhrofiadau disgyblion ac mae wedi cyflymu’r cynnydd sy’n cael ei wneud gan ddisgyblion y mae eu cyrhaeddiad wedi ei lesteirio gan anfantais.
 
“Mae effaith tlodi yn ymddangos mewn amryw o ffyrdd gwahanol ar draws cymuned yr ysgol. Mae'r grant wedi caniatáu i ni roi cefnogaeth fwy personol, sydd yn sicrhau bod pob unigolyn yn manteisio i'r eithaf ar bob cyfle.”