Ysgrifennu at y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal
Pryd a sut i gysylltu â’r Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal.
Bydd pob gweinidog yn ymdrin ag e-byst a llythyrau ar sail eu cyfrifoldebau.
Os hoffech godi materion o fwy nag un portffolio, ysgrifennwch at un gweinidog yn unig. Byddwch yn derbyn un ymateb oddi wrth Lywodraeth Cymru a fydd yn mynd i’r afael â’ch holl bryderon.
Ni fyddwch yn cael ymatebion ychwanegol, nac ymateb cyflymach, drwy gysylltu â mwy nag un gweinidog. Bydd eich holl ddarnau o ohebiaeth yn cael eu cyfuno a byddwch yn derbyn un ateb.
Byddwn yn ymateb drwy e-bost pan fo hynny’n bosibl (hyd yn oed os byddwch wedi ysgrifennu atom ar ffurf copi caled). Efallai y byddwch am anfon eich gohebiaeth drwy e-bost yn unig.
Dylech hefyd edrych yn eich ffolder e-bost sothach a gwirio eich hidlyddion sbam wrth ddisgwyl ymateb. Efallai y byddwch am ychwanegu’r parth @llyw.cymru i’ch rhestr o barthau diogel er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn derbyn ein hymatebion e-bost.
Ein nod yw ymateb o fewn 17 o ddiwrnodau gwaith. Fodd bynnag, o ganlyniad i’r cynnydd yn yr ohebiaeth yr ydym yn ei derbyn ar hyn o bryd, gallem gymryd mwy o amser na hyn.
Ni allwn ateb gohebiaeth ynghylch materion nad ydynt wedi eu datganoli. Llywodraeth y DU sy’n parhau’n gyfrifol am y materion hyn. Gallwch gael manylion cyswllt adrannau perthnasol y DU yma.
Cael help ar-lein
Efallai y bydd yn gyflymach cael help ar-lein.
Cymorth
Polisi a chanllawiau
- Darganfyddwch sut y byddwn yn lleihau rhestrau aros y GIG
- Darganfyddwch sut y byddwn yn gwella mynediad at ofal brys ac argyfwng
- Mae'r holl bolisi iechyd a gofal cymdeithasol, canllawiau a gwasanaethau ar LLYW.CYMRU
Os hoffech gwyno am wasanaeth y GIG, dylech gysylltu â'r sefydliad sy'n darparu'r gwasanaeth hwnnw.
Enw'r broses ar gyfer codi pryderon neu gwynion yn GIG Cymru yw Gwrando ar Bobl: Proses Cwynion, Digwyddiadau a Gwneud Iawn GIG Cymru
Gall y corff llais dinasyddion cenedlaethol, Llais hefyd helpu. Mae Llais yn cynrychioli buddiannau pobl Cymru mewn perthynas â gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Dilynwch y canllawiau yn: Eich llais mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
Os oes angen cymorth iechyd meddwl arnoch ac nad ydych yn siŵr ble i gael cyngor ac arweiniad ar iechyd meddwl, isod mae rhai opsiynau i chi.
Mae llinell gymorth CALL ar agor 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Mae'n cynnig cefnogaeth a chyngor emosiynol cyfrinachol i unigolion ac i'w teuluoedd. Y rhif rhadffôn ar gyfer CALL yw 0800 132 737 neu cysylltwch â ni drwy e-bost: call@callhelpline.wales. Mae gwybodaeth am ofalu am les meddyliol hefyd ar gael ar wefan CALL.
Am gymorth iechyd meddwl brys, cysylltwch â'r rhif rhadffôn 111, a gwasgwch opsiwn 2.
Mae gwefan GIG Cymru yn rhestru adnoddau sydd ar gael ar-lein a dros y ffôn. Mae'r adnoddau hyn yn ddiogel, yn rhad ac am ddim, ac nid oes angen atgyfeiriad meddyg teulu arnoch i gael mynediad atynt. Am ragor o wybodaeth gweler GIG 111 Cymru - Iechyd Meddwl a Lles.
Cael y wybodaeth ddiweddaraf
I dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau iechyd a chymdeithasol gennym ni, cofrestrwch ar gyfer ein cylchlythyr.
Post
Gallwch ysgrifennu at y gweinidog i’r cyfeiriad isod. Peidiwch ag anfon copïau caled o e-byst.
Bydd llythyrau a dderbynnir drwy’r post yn cael eu hateb. ond gallai gymryd mwy o amser inni ateb llythyrau a dderbynnir drwy’r post. Byddwn yn ymateb drwy e-bost pan fo’n bosibl, felly efallai yr hoffech ysgrifennu atom drwy e-bost.
Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal
Llywodraeth Cymru
5ed Llawr
Tŷ Hywel
Bae Caerdydd
CF99 1SN
E-bost
Gohebiaeth.Mabon.apGwynfor@llyw.cymru
Os na fyddwch yn defnyddio'r cyfeiriad e-bost llawn, ni fyddwn yn derbyn eich e-bost. Rhaid i chi ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost yn union fel y mae wedi'i ysgrifennu ar y dudalen hon.
Rydym yn ymwybodol bod rhai darparwyr e-bost yn dweud yn anghywir bod e-bost wedi'i rwystro, pan ddefnyddir cyfeiriad e-bost anghywir neu anghyflawn. Gwiriwch eich bod yn defnyddio'r cyfeiriad e-bost llawn a chywir.
