Ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant
Pryd a sut i gysylltu â’r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant.
Bydd pob gweinidog yn ymdrin ag e-byst a llythyrau ar sail eu cyfrifoldebau.
Os hoffech godi materion o fwy nag un portffolio, ysgrifennwch at un gweinidog yn unig. Byddwch yn derbyn un ymateb oddi wrth Lywodraeth Cymru a fydd yn mynd i’r afael â’ch holl bryderon.
Ni fyddwch yn cael ymatebion ychwanegol, nac ymateb cyflymach, drwy gysylltu â mwy nag un gweinidog. Bydd eich holl ddarnau o ohebiaeth yn cael eu cyfuno a byddwch yn derbyn un ateb.
Byddwn yn ymateb drwy e-bost pan fo hynny’n bosibl (hyd yn oed os byddwch wedi ysgrifennu atom ar ffurf copi caled). Efallai y byddwch am anfon eich gohebiaeth drwy e-bost yn unig.
Dylech hefyd edrych yn eich ffolder e-bost sothach a gwirio eich hidlyddion sbam wrth ddisgwyl ymateb. Efallai y byddwch am ychwanegu’r parth @llyw.cymru i’ch rhestr o barthau diogel er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn derbyn ein hymatebion e-bost.
Ein nod yw ymateb o fewn 17 o ddiwrnodau gwaith. Fodd bynnag, o ganlyniad i’r cynnydd yn yr ohebiaeth yr ydym yn ei derbyn ar hyn o bryd, gallem gymryd mwy o amser na hyn.
Ni allwn ateb gohebiaeth ynghylch materion nad ydynt wedi eu datganoli. Llywodraeth y DU sy’n parhau’n gyfrifol am y materion hyn. Gallwch gael manylion cyswllt adrannau perthnasol y DU yma.
Cael cymorth ar-lein
Os oes angen cymorth iechyd meddwl arnoch ac nad ydych yn siŵr ble i gael cyngor ac arweiniad ar iechyd meddwl, mae rhai opsiynau i’w cael isod.
Mae’r llinell gymorth CALL ar agor 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos. Mae’n cynnig cymorth emosiynol a chyngor cyfrinachol i unigolion ac i’w teuluoedd. Y rhif rhadffôn ar gyfer CALL yw 0800 132 737 neu gallwch gysylltu drwy’r e-bost: call@callhelpline.wales. Mae gwybodaeth am ofalu am lesiant meddyliol hefyd ar gael ar wefan CALL.
I gael cymorth iechyd meddwl brys, ffoniwch y rhif rhadffôn 111, a dewis opsiwn 2.
Mae gwefan GIG Cymru yn rhestru adnoddau sydd ar gael ar-lein a dros y ffôn. Mae’r adnoddau hyn yn ddiogel, am ddim, ac nid oes angen atgyfeiriad gan feddyg teulu arnoch i’w defnyddio. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i GIG 111 Cymru - Iechyd Meddwl a Lles.
Os oes gennych gŵyn am un o wasanaethau’r GIG, dylech gysylltu â’r sefydliad sy’n darparu’r gwasanaeth hwnnw:
- cysylltu â’ch bwrdd iechyd lleol
- gwneud cwyn am amseroedd aros ambiwlansys
- gwneud cwyn am wasanaethau’r GIG neu feddygon teulu
Enw’r broses ar gyfer codi pryderon neu gwynion yn GIG Cymru yw Gweithio i Wella.
Gall corff cenedlaethol llais y dinesydd, Llais, eich helpu hefyd. Mae Llais yn cynrychioli buddiannau pobl Cymru mewn perthynas â gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Dilynwch y canllawiau yn: Eich llais mewn iechyd a gofal cymdeithasol.
Cael yr wybodaeth ddiweddaraf
I gael yr wybodaeth ddiweddaraf oddi wrthym am iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyr.
Post
Gallwch ysgrifennu at y gweinidog i’r cyfeiriad isod. Peidiwch ag anfon copïau caled o e-byst.
Bydd llythyrau a dderbynnir drwy’r post yn cael eu hateb. ond gallai gymryd mwy o amser inni ateb llythyrau a dderbynnir drwy’r post. Byddwn yn ymateb drwy e-bost pan fo’n bosibl, felly efallai yr hoffech ysgrifennu atom drwy e-bost.
Y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant
Llywodraeth Cymru
5ed Llawr
Tŷ Hywel
Bae Caerdydd
CF99 1SN
E-bost
gohebiaeth.sarah.murphy@llyw.cymru
Os na fyddwch yn defnyddio'r cyfeiriad e-bost llawn, ni fyddwn yn derbyn eich e-bost.
Rhaid i chi ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost yn union fel y mae wedi'i ysgrifennu ar y dudalen hon. Mae'r cyfeiriad e-bost yn dechrau gyda'r gair Gohebiaeth.
