Neidio i'r prif gynnwy

Yn ddiweddar, cyfarfu Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies â physgotwyr lleol yn Ardal Forol Abertawe.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Mai 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cafodd Ysgrifennydd y Cabinet gipolwg ar bysgodfeydd lleol ym Mae Abertawe a Rhanbarth De Cymru wrth iddo gyfarfod â Barry Thomas, Abertawe a Chyfarwyddwr Cymunedau Pysgota De Cymru a'r Gorllewin; Jim Evans, Prif Swyddog Gweithredol, Cymdeithas Pysgotwyr Cymru (WFA); a Kevin Denman, Cyfarwyddwr Cymunedau De Cymru a'r Gorllewin, a'r WFA.

Roedd yn gyfle i drafod amrywiaeth o bynciau gan gynnwys yr heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu'r sector.

Dywedodd Ysgrifennydd newydd y Cabinet: 

Wrth i mi ddechrau'r rôl newydd hon, mae'n bwysig iawn i mi gyfarfod a gwrando ar brofiadau a syniadau'r rhai sy'n gweithio yn y diwydiant.

Bu hwn yn gyfle gwych i weld gweithgareddau pysgota Cymru a chlywed yn uniongyrchol gan y rhai sy'n gweithio yn y sector a deall y problemau'n well - ac i glywed mwy am eu syniadau a chyfleoedd i'r sector.