Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid  ac Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth yr Alban dros Gysylltiadau Cyfansoddiadol  wedi ysgrifennu llythyr ar y cyd at Weinidog Brexit Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn y llythyr, mae’r ddau Ysgrifennydd Cabinet yn tynnu sylw at y ffaith nad yw Llywodraethau’r Alban a Chymru wedi cael gweld y Papur Gwyn drafft llawn cyn y cyfarfod o Gyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau’r UE) sydd i’w gynnal heddiw – a hynny er bod Llywodraeth y DU wedi rhoi sicrhad yn y gorffennol y byddai’r gweinyddiaethau datganoledig yn cael cyfle ystyrlon i gyfrannu at y safbwyntiau negodi wrth iddynt gael eu datblygu.

Dywedodd Mark Drakeford:

“Dydyn ni ddim wedi cael y cyfle i ddarllen Papur Gwyn Llywodraeth y DU ar ei safbwynt negodi â’r UE cyn cyfarfod Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau’r UE) heddiw, felly bydd yn amhosib inni wneud y math o gyfraniad ystyriol, ar sail tystiolaeth, sy’n hanfodol yn ein barn ni. Mae hyn yn amlwg yn mynd yn groes i gylch gorchwyl y Cyd-bwyllgor, sy’n nodi bod gofyn i’r Pwyllgor geisio sicrhau cytundeb ar safbwynt negodi Llywodraeth y DU. Mae’n golygu na fydd safbwynt Llywodraeth y DU mor gynhwysfawr ag y dylai fod o ran manylion am gyfrifoldebau datganoledig, wrth i gam nesaf allweddol y negodiadau gychwyn.”

Dyma’r llythyr yn llawn:

Annwyl David

Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (UE) a’r Papur Gwyn

Rydym yn ysgrifennu atoch yn dilyn y drafodaeth anfoddhaol a gafwyd ynghylch rhannau penodol o’r Papur Gwyn ar Negodiadau’r Undeb Ewropeaidd yn Fforwm y Gweinidogion ddydd Mercher.

Yn amlwg, nid eich cyd-Weinidogion oedd yn bresennol yn y cyfarfod oedd ar fai am hyn – roedd yn deillio o benderfyniadau a wnaed mewn rhannau eraill o’r Llywodraeth ynghylch yr hyn y gellir ac na ellir ei rannu â ni.

Ni chaniatawyd inni weld un gair o’r Papur Gwyn drafft cyn y cyfarfod, a bu’n rhaid inni gyfrannu ar sail crynodeb llafar byr o’r prif benodau. Ac mae’n beth hynod o ryfedd bod o leiaf un o’r penodau wedi’i hanfon at ein Hysgrifenyddion Parhaol – nad ydynt yn aelodau o’r Fforwm – pan oedd y cyfarfod ar y gweill.

Mae hyn yn gwbl groes i’r sicrhad a roddwyd inni y byddem yn cael cyfle ystyrlon i gyfrannu at y safbwyntiau negodi wrth iddynt gael eu datblygu 

At hynny, cafodd y drafodaeth ynghylch elfennau penodol ei thanseilio ymhellach gan ddiffyg ystyriaeth o’r cyd-destun ehangach: mae’n anodd trafod trafnidiaeth drawsffiniol heb ystyried y cynigion ynghylch y trefniadau tollau, ac mae’r fframwaith symudedd arfaethedig ar gyfer mudo yn amlwg yn allweddol i’r bennod ar wyddoniaeth ac ymchwil, i gydweithredu ym maes cyfraith sifil, ac i sawl agwedd arall ar y Papur Gwyn.

Rydym am nodi'n gwbl glir, felly, na fydd unrhyw drafodaeth a geir ynglŷn â’r Papur Gwyn yng Nghyd-bwyllgor y Gweinidogion (UE) yn un ystyrlon yn ein tyb ni, oni bai ein bod wedi cael gweld testun y Papur Gwyn drafft ymlaen llaw.

Os na chawn y cyfle hwn, bydd raid inni ddweud yn glir nad ydym wedi cael unrhyw gyfle o bwys i ystyried cynnwys y ddogfen, heb sôn am ddylanwadu arno. Ac mae hon yn ddogfen a fydd yn honni ei bod yn mynegi barn y Deyrnas Unedig gyfan am faterion – llawer ohonynt wedi’u datganoli – ac am bwnc sydd o’r pwys mwyaf i bobl Cymru a’r Alban.

Rydym yn anfon copi o’r llythyr hwn at Brif Weinidog y DU, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ymadael â’r UE, Prif Weinidog yr Alban, Prif Weinidog Cymru a David Sterling, Pennaeth Gwasanaeth Sifil Gogledd Iwerddon.

Yn gywir 

Mark Drakeford AM/AC                                     Michael Russell ASA
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid                     Ysgrifennydd y Cabinet dros
      Fusnes y Llywodraeth a Chysylltiadau Cyfansoddiadol