Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, cafodd Cynllun Cyflawni Cymru ar gyfer Diabetes ar ei newydd wedd ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Rhagfyr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yng Nghymru, mae mwy na saith y cant o’r boblogaeth 17 oed a hŷn yn byw gyda diabetes. Mae mwy o achosion o ddiabetes i’w gweld yn ein hardaloedd mwyaf difreintiedig ac ymhlith unigolion o leiafrifoedd ethnig nag mewn rhannau arall o’r gymdeithas, ac mae disgwyl i’r nifer godi eto.

Nod y cynllun yw torri ar y cynnydd yn nifer yr achosion o ddiabetes a lleihau’r perygl y gallai unigolion sydd â diabetes ei wynebu o ddatblygu cymhlethdodau difrifol, fel clefyd y galon, strôc neu golli troed neu goes, os na fydd eu cyflwr yn cael ei reoli’n dda.

Mae ffocws clir yn y cynllun ar alluogi gwasanaethau i fodloni’r safonau gofal cenedlaethol a darparu gwasanaethau sy’n diwallu anghenion yr unigolyn sydd â diabetes. Mae’r dull hefyd wedi’i gynllunio i geisio cefnogi unigolion sydd â diabetes i reoli eu cyflwr yn llwyddiannus.

Mae Vaughan Gething, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, wedi neilltuo £1 miliwn y flwyddyn i’r Grŵp Gweithredu ar gyfer Diabetes. Rôl y grŵp hwn yw cefnogi byrddau iechyd yng Nghymru i wella gwasanaethau i unigolion sydd â diabetes. Bydd y Clinigydd Arweiniol Cenedlaethol ar gyfer Diabetes yn parhau i weithio ar draws Cymru gyda’r byrddau iechyd i weithredu’r cynllun yn llawn.  

Mae’r cynllun hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd dod o hyd i achosion o ddiabetes yn gynnar a rhoi triniaeth yn brydlon. Mae hyn yn arbennig o bwysig i blant a phobl ifanc sydd â diabetes math 1 – un o’r cyflyrau cronig nad oes modd ei atal sy’n fwyaf cyffredin ymhlith plant.  

Dywedodd Vaughan Gething:

“Mae’r nifer cynyddol o unigolion sy'n datblygu diabetes math 2, a'r cyfnod o amser y gall unigolyn fyw gyda'r cyflwr, yn siŵr o roi mwy o bwysau ar ein gwasanaeth iechyd yn y dyfodol.

“Mae’r cynllun cyflawni ar ei newydd wedd a gyhoeddwyd heddiw yn amlinellu ein gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau diabetes. Mae hefyd yn egluro sut y bydd y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn ymateb i’r her honno. Bydd llwyddiant y cynllun yn dibynnu ar gydweithio agos rhwng pawb sy’n gyfrifol am ofal diabetes a bydd rhaid grymuso unigolion sydd â diabetes i reoli eu cyflwr eu hunain hyd eithaf eu gallu.  

“Rydyn ni wedi gweld gwelliannau mawr dros y tair blynedd diwethaf a bydd y cynllun hwn sydd wedi’i ddiweddaru yn datblygu ar hynny ac yn cefnogi gwelliannau i’r gwasanaeth hyd at 2020.”