Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ken Skates, wedi croesawu adroddiad a luniwyd i sicrhau llwyddiant, cydnerthedd a chynaliadwyedd gwasanaethau treftadaeth yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’n ymateb i adroddiad o’r enw “Cymru Hanesyddol ‒ Ar drywydd llwyddiant, cadernid a chynaliadwyedd ar gyfer treftadaeth Cymru” a gomisiynwyd ganddo'r llynedd.
Paratowyd yr adroddiad gan grŵp llywio a sefydlwyd i ystyried dyfodol gwasanaethau treftadaeth o dan gadeiryddiaeth Justin Albert, Cyfarwyddwr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru. Roedd gan y grŵp aelodau a oedd yn cynrychioli sefydliadau treftadaeth cenedlaethol Cymru  ac undebau llafur. 
Cyflwynwyd yr adroddiad ym mis Chwefror i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi roi ystyriaeth iddo. 
Dywedodd Ken Skates: 
“Roeddwn yn falch iawn o gael yr adroddiad hwn ar ddyfodol ein gwasanaethau treftadaeth. Rwyf wedi dwys ystyried ei gynnwys. 
“Hoffwn ddiolch yn gyhoeddus i Gadeirydd y grŵp ac i’r aelodau a fu’n cynrychioli ein sefydliadau treftadaeth a’r undebau llafur a oedd yn gysylltiedig â’r gwaith yma. Rwy’n eu llongyfarch am greu adroddiad clodwiw sydd wedi sicrhau cytundeb a chyd-ddealltwriaeth o blith yr holl sefydliadau oedd yn ymwneud ag ef“Mae’r cyfleoedd sy’n cael eu creu i’r sector cyfan gan yr argymhellion hyn yn fy nghyffroi. Ar hyn o bryd, mae Cadw yn gwneud yn hynod o dda ac rwy’n credu bod y cynigion hyn yn mynd i’n galluogi i gynnal y llwyddiannau hynny a gwneud rhagor o waith arnynt a’u rhaeadru ledled y sector gyfan.“Fel yr wyf wedi dweud o’r blaen, rwy’n benderfynol o gydweithio i gryfhau llwyddiant a chydnerthedd ein gwasanaethau treftadaeth. Mae hynny’n golygu bod angen i’n sefydliadau cenedlaethol wireddu eu potensial masnachol drwy gydweithio rhagor a gweithio mewn partneriaeth. Mae’r cynnig yn yr adroddiad ar sefydlu partneriaeth strategol yn cefnogi hynny’n llwyr. “Rwyf wedi ysgrifennu at Justin Albert heddiw i groesawu argymhellion  y grŵp llywio, yn amodol ar  nifer o ystyriaethau sy’n cael eu hamlinellu gennyf yn fy llythyr. “Rwy’n benderfynol o alluogi ein sefydliadau treftadaeth i wneud y mwyaf o’r buddiannau economaidd y maen nhw’n eu sicrhau i bobl Cymru, ac edrychaf ymlaen at gyrraedd y nod yn hynny o beth.”