Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, cyhoeddodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi bod Llywodraeth Cymru wedi helpu i greu dros 40,000 o gyfleoedd gwaith newydd yn 2015/16.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Mehefin 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dengys y ffigurau diweddaraf bod Llywodraeth Cymru wedi helpu i greu 5.3% yn fwy o gyfleoedd gwaith yn 2015/16 nag y gwnaeth yn 2014/15 ac yn nhymor diwethaf y Cynulliad (2011 i 2016), fe helpodd i greu bron i 150,000 o gyfleoedd newydd.

Hefyd, cyhoeddodd Ken Skates bod y ffigurau twristiaeth diweddaraf yn torri record newydd a’u bod yn nodi bod Cymru, yn 2015, wedi denu 10.45 miliwn o ymwelwyr dros nos o Brydain Fawr.  Mae’r ffigur hwn 4.5% yn uwch na ffigurau 2014 pan, am y tro cyntaf erioed, roedd nifer yr ymwelwyr a ddaeth i Gymru yn uwch na 10 miliwn.

Dengys y ffigurau bod ymwelwyr dros nos o Brydain Fawr wedi gwario bron i £2 biliwn yng Nghymru yn 2015, cynnydd o bron i 14% ar y flwyddyn flaenorol.

I ddathlu’r ffigurau diweddaraf hyn, bydd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi yn ymweld â chanolfan ymwelwyr ‘Profiad Bathdy Brenhinol’ a’r Pantri Cymreig yn Llantrisant.  Bydd yn cael cyfle i weld dros ei hun yr effaith y mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn ei gael ar yr economi leol.

Wrth siarad cyn yr ymweliad, dywedodd Ken Skates:

“Mae’r ffigurau diweddaraf hyn yn dangos ein bod yn gwneud gwaith da iawn yn datblygu economi Cymru.  Yn ystod tymor diwethaf y Cynlluniad, llwyddodd Llywodraeth Cymru i helpu i greu bron i 150,000 o gyfleoedd gwaith ac mae ein llwyddiant wedi cynyddu flwyddyn ar ôl blwyddyn trwy gydol tymor y Cynulliad.

“Mae’r ffigurau twristiaeth diweddaraf yn dangos lefelau tebyg o lwyddiant.  Daeth mwy o ymwelwyr o Brydain nag erioed o’r blaen i Gymru ar eu gwyliau, gwnaed mwy o dripiau tramor i Gymru ac mae’r lefelau gwariant yn uwch nag erioed hefyd.

“Ac i goroni’r cyfan, rydym yn gwybod bod lefelau cyflogaeth Cymru yn uwch nag erioed, mae ein cyfraddau diweithdra yn is na lefel diweithdra gweddill y Deyrnas Unedig ac mae ein lefelau mewnfuddsoddi yn uwch nag y maen nhw erioed wedi bod hefyd.

“Yn ddiweddarach heddiw, byddaf yn ymweld â chanolfan ymwelwyr ’Profiad y Bathdy Brenhinol’ a’r Pantri Cymreig, dau gwmni gwahanol iawn sy’n ffynnu,  diolch i fuddsoddiad a help Llywodraeth Cymru.

“Yn y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi llwyddo i sefydlu seilwaith economaidd gadarn iawn ac mae’r ffordd yr ydym wedi gwneud hynny yn helpu busnesau  a phobl ar draws Cymru.  Rydym yn edrych ymlaen at ychwanegu at y llwyddiant hwn yn y misoedd a’r blynyddoedd i ddod.”

Mae canolfan ymwelwyr ‘Profiad y Bathdy Brenhinol’ wedi cael £2.3 miliwn gan Lywodraeth Cymru ac mae’n enghraifft o sut mae’r diwydiant, gyda help Llywodraeth Cymru, yn buddsoddi mewn cynhyrchion a digwyddiadau arloesol sydd o ansawdd uchel ac sy’n helpu i sicrhau twf yn y diwydiant.

Mae’r Pantri Cymreig hefyd wedi cael help gan Lywodraeth Cymru i ehangu’r busnes yn sylweddol ac i’w alluogi i greu a diogelu dros 50 o swyddi.