Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant AS, wedi cyhoeddi bod Kalwant Grewal wedi cael ei benodi yn Gadeirydd Annibynnol y Grŵp Cynghori ar Reoleiddio, o 14 Hydref 2025 am gyfnod o dair blynedd, gyda'r posibilrwydd o estyn y cyfnod hwn am dair blynedd arall.
Mae'r Grŵp Cynghori ar Reoleiddio yn grŵp sy'n cynrychioli rhanddeiliaid, a'i brif dasg yw gwella rheoleiddio tai cymdeithasol drwy ddarparu mewnbwn a chyngor rhanddeiliaid mewn perthynas â strategaeth reoleiddio a pholisi.
Fel Cadeirydd Annibynnol y panel bydd Kalwant yn darparu arweinyddiaeth i'r Grŵp, yn sicrhau ei fod yn effeithiol ac yn gweithredu fel llefarydd ar ran y Grŵp os oes angen.
Bywgraffiad
Mae Kalwant Grewal yn arweinydd anweithredol profiadol gyda hanes cryf ym meysydd llywodraethu, rheoleiddio, a goruchwylio budd y cyhoedd ar draws y sector tai, cyrff aelodaeth broffesiynol a'r sector cyhoeddus ehangach. Mae wedi cadeirio Pwyllgorau Archwilio a Risg a Phwyllgorau Cyllid a Pherfformiad ar gyfer sawl sefydliad a reoleiddir, gan ddarparu arweinyddiaeth strategol ar sicrwydd, risg a pherfformiad sefydliadol.
Mae Kalwant wedi bod mewn swyddi gweithredol uwch gan gynnwys Prif Swyddog Ariannol ac Ysgrifennydd Grŵp Caffael LHC, lle roedd yn arwain llywodraethu ar draws portffolio caffael cenedlaethol gwerth £500 miliwn. Roedd e hefyd yn Gyfarwyddwr Cyllid a Risg yn y Sefydliad Buddsoddi Effaith, gan lunio fframweithiau a gefnogodd fuddsoddiadau wedi'u halinio â pholisïau amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu a chydweithredu traws-sector.
Mae ei bortffolio anweithredol yn cynnwys rolau gyda Choleg Brenhinol y Milfeddygon, Cyngor Aciwbigo Prydain a'r Bwrdd Cofrestru Penseiri lle mae'n darparu her strategol ar draws safonau rheoleiddio, moeseg, diogelu'r cyhoedd, a chymhwysedd proffesiynol.
Mae Kalwant yn dod â phrofiad helaeth ym maes ymgysylltu polisi traws-sector, cydweithredu â rhanddeiliaid, a gwaith cynghori a arweinir gan dystiolaeth, gyda ffocws ar dryloywder, uniondeb a gwella canlyniadau i ddefnyddwyr gwasanaeth a chymunedau.
