Neidio i'r prif gynnwy

Mae Lesley Griffiths wedi croesawu ymateb positif y diwydiant ffermio i’r system adrodd newydd electronig ar gyfer Cymru ynghylch symudiadau anifeiliaid, sef EIDCymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Ionawr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae bron i 3,000 o geidwaid wedi cofrestru ar y system ers iddi gael ei chyflwyno’r llynedd ac mae pob marchnad da byw, lladd-dy a chanolfannau casglu a chynnull yng Nghymru yn adrodd yn electronig i EIDCymru ar symudiadau anifeiliaid.

Cafodd EIDCymru ei datblygu ar y cyd â’r diwydiant er mwyn creu system adrodd ac olrhain ar symudiadau defaid ar gyfer y diwydiant ffermio yng Nghymru sy’n fodern ac yn gydnerth.

Ers lansio’r system mae dros 22.5 miliwn o symudiadau gan ddefaid a geifr wedi’u cofnodi ar y system. Mae rhanddeiliaid yn parhau i chwarae rhan amlwg yn y broses er mwyn sicrhau bod y system yn parhau i fod mor syml â phosibl i’w defnyddio a’i bod yn sicrhau’r manteision mwyaf posibl i’r diwydiant ac i’r llywodraeth. Mae’r ychwanegiadau diweddaraf yn cynnwys y Stocrestr flynyddol o Ddefaid a Geifr sydd ar gael ar-lein.  

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:

“Cafodd EIDCymru ei datblygu er budd y diwydiant defaid ac mae’n tystio i’n hymrwymiad i helpu i foderneiddio arferion a gweithdrefnau ffermio.

“Yn ystod ymweliad diweddar â marchnad da byw y Trallwng gwelais y system yn cael ei defnyddio ac roedd y manteision y mae’n eu cynnig yn gwbl amlwg. Mae’r system yn ei gwneud hi’n bosibl i symudiadau defaid gael eu holrhain mewn modd modern a chydnerth ac yn ei gwneud hi’n bosibl i ni ymateb yn gyflym ac yn effeithiol i unrhyw glefyd a allai ledu. 

“Hoffwn ddiolch i HCC sy’n gweithredu gwasanaeth EIDCymru am eu gwaith parhaus wrth annog mwy a mwy o bobl i ddechrau defnyddio’r system.”