Neidio i'r prif gynnwy

Bu Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd, yn cyfarfod heddiw â’r genhedlaeth newydd o ffermwyr i ateb cwestiynau ar ragolygon y diwydiant ar ôl Brexit.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Ionawr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn ystod yr ymweliad â champws Llysfasi, Coleg Cambria, sy’n arbenigo mewn cyrsiau amaethyddol a sgiliau fferm, cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet i dderbyn cwestiynau gan y darpar ffermwyr ynghylch dyfodol y diwydiant yng Nghymru yn dilyn penderfyniad y DU i adael yr UE.   

Rhoddodd Ysgrifennydd y Cabinet sicrwydd i’r myfyrwyr mai prif flaenoriaeth Llywodraeth Cymru fydd sicrhau mynediad dilyffethair i Farchnad Sengl yr UE, gyda nifer yn pryderu y byddai cyfyngu ar fynediad i farchnad yr UE yn cael effaith andwyol ar y diwydiant.  

Codwyd y mater o gyllid yr UE hefyd, gyda Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud y byddai’n disgwyl i Lywodraeth yr UE gadw at yr ymrywmiad a wnaethpwyd yn ystod ymgyrch y refferendwm na fyddai Cymru yn colli ceiniog o ganlyniad i adael yr UE.    

Meddai Ysgrifennydd y Cabinet:

“Bu’n galonogol iawn i gyfarfod y myfyrwyr yng Ngholeg Cambria heddiw a gwrando ar eu pryderon, eu gobeithion a’u huchelgeisiau ar gyfer y diwydiant amaethyddol wedi Brexit.  Gan mai ffermwyr ifanc yw dyfodol y diwydiant, mae’n bwysig gwrando ar eu barn ar y penderfyniadau fydd yn cael effaith fawr arnynt.  

“Ers y refferendwm, rwyf wedi bod yn trafod gydag amrywiol randdeiliaid i ddod i ddeall goblygiadau llawn gadael yr UE ar y sectorau ffermio, bwyd a’r amgylchedd.  Mae gadael yr UE yn rhoi cyfle inni greu dull o weithio unigryw yng Nghymru ac mae’n bwysig ein bod yn cydweithio i sicrhau y canlyniad gorau un i Gymru.”  

Meddai David Jones OBE, Prif Swyddog Gweithredol Coleg Cambria:

“Rydym yn falch bod Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu ymuno â ni yn Llysfasi heddiw.   

“Mae’n dda iawn i gael y cyfle i arddangos y gwaith arloesol sy’n cael ei wneud ar ein safle yn Llysfasi ac i ddangos ein swyddogaeth o ddatblygu a chadw sgiliau o fewn y sector.   

“Mae hefyd yn gyfle gwych i’n myfyrwyr holi y gweinidog eu hunain am ddyfodol y diwydiant amaethyddiaeth yng Nghymru.”