Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi cyhoeddi bod pedwar aelod wedi cael eu hailbenodi i Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd penodiadau newydd Joanna Price, David Davis, Ifan Lloyd a Moss Jones yn dechrau ar 1 Mehefin 2017 ac yn para am dair blynedd.

Sefydlwyd Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru i gynnal datblygiad y  Fframwaith a’i roi ar waith. Ei brif rôl yw cysylltu Llywodraeth Cymru, pobl sy’n cadw da byw, perchenogion anifeiliaid eraill, a chynrychiolwyr y diwydiant, a bydd yn trafod yr holl ystod o faterion sy’n gysylltiedig ag iechyd a lles anifeiliaid.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:

"Rwy'n falch o gael cyhoeddi'r ailbenodiadau i Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid Cymru ac rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r aelodau yn y dyfodol."

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet am benodi dau aelod pellach i'r Grŵp drwy'r broses penodiadau cyhoeddus yn nes ymlaen yn y flwyddyn.

Nid yw aelod presennol o'r Grŵp, Huw Davies, am gael ei ailbenodi. Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi diolch i Mr Davies am ei gymorth parhaus fel aelod o'r Grŵp.