Neidio i'r prif gynnwy

Yn ddiweddar, ymwelodd Jayne Bryant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, â Choleg Pen-y-bont ar Ogwr i gwrdd â phrentisiaid a phartneriaid diwydiant yng nghyfleuster hyfforddi gwaith to y coleg.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Chwefror 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn ystod yr ymweliad â Champws Pencoed y coleg, aeth Ysgrifennydd y Cabinet ar daith o amgylch yr Academi Adeiladu a chyfarfod â phrentisiaid, cyflogwyr ac arweinwyr y coleg.

Roedd yr ymweliad hefyd yn nodi lansiad llwybr prentisiaeth cyntaf Cymru mewn gwaith to, a arweinir gan y Coleg ac a ddatblygwyd mewn partneriaeth â Bwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu (CITB) a Ffederasiwn Cenedlaethol y Contractwyr Toi.

Mae'r cwrs gwaith to newydd yn golygu na fydd angen i brentisiaid Cymru deithio i Ganolbarth Lloegr ar gyfer hyfforddiant arbenigol, ac mae'n cryfhau'r gallu rhanbarthol i fodloni gofynion cynyddol rhaglenni ôl-osod at ddibenion datgarboneiddio a rhaglenni adeiladu hanfodol.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:

Roeddwn yn falch iawn o ymweld â Choleg Pen-y-bont ar Ogwr a dathlu lansiad llwybr prentisiaeth cyntaf Cymru mewn gwaith to — carreg filltir go iawn sy'n golygu nad oes rhaid i brentisiaid o Gymru deithio i Ganolbarth Lloegr ar gyfer yr hyfforddiant arbenigol hwn mwyach.

Rydym bellach wedi rhagori ar ein targed o ddarparu 100,000 o gyfleoedd prentisiaeth erbyn diwedd tymor y Senedd hon. Mae hynny'n golygu 100,000 o gyfleoedd i bobl ennill wrth iddynt ddysgu, a 100,000 o gyfleoedd i gyflogwyr dyfu'r gweithlu medrus sydd ei angen arnynt.

Yn ddiweddar, cyhoeddais £98 miliwn ar gyfer rownd nesaf ein Rhaglen Ôl-osod wedi'i Optimeiddio sy'n creu swyddi lleol, yn cryfhau cadwyni cyflenwi carbon isel ac yn rhoi cyfle i brentisiaid ddatblygu eu sgiliau wrth wella cartrefi yn eu cymunedau eu hunain.

Ar hyn o bryd mae Coleg Pen-y-bont ar Ogwr yn cefnogi bron i 1,000 o brentisiaid ar draws ystod eang o sectorau, gydag adeiladu wrth wraidd ei ddarpariaeth.

Ychwanegodd Denise Brookes-Cooze, Pennaeth Dysgu Seiliedig ar Waith yng Ngholeg Pen-y-bont ar Ogwr:

Mae prentisiaethau yn cysylltu dysgwyr a chyflogwyr gan ddarparu sgiliau cynaliadwy i gymunedau ledled y rhanbarth. Mae lansio Prentisiaeth Gosod Llechi a Theils To cyntaf Cymru, mewn partneriaeth â'r CITB, yn dangos sut mae ein darpariaeth a arweinir gan y diwydiant yn cefnogi dysgwyr, cyflogwyr a chynaliadwyedd hirdymor y sector adeiladu.