Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, yn cyflwyno ei gweledigaeth o ran y broses gynllunio yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Mehefin 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yng Nghaerdydd, gwnaeth yr Ysgrifennydd annerch Cynhadledd y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol yng Nghymru. Bu’n ymateb i’r deg o ofynion wnaeth y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol yng Nghymru roi gerbron Llywodraeth Cymru’n ddiweddar , a hynny drwy osod ei phum gofyniad ei hun.

Gwnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet ddweud wrth y cynllunwyr, ei bod yn rhag-weld y gallant, drwy gydweithio gyda Llywodraeth Cymru, greu system sy’n edrych ymlaen i’r dyfodol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, yn gysylltiedig, yn effeithlon, ac yn cael ei gwerthfawrogi gan gymunedau, busnesau, gwleidyddion a chynllunwyr.

Yn ystod ei haraith, pwysleisiodd yr Ysgrifennydd Cabinet bwysigrwydd Cynlluniau Datblygu Lleol a Strategol a rhoddodd anogaeth i’r awdurdodau cynllunio lleol gydweithio er mwyn llunio gweledigaeth ar y cyd ar draws rhanbarth. Bydd hynny’n fodd i lywio a thywys mentrau adfywio uchel eu proffil megis y Fargen Ddinesig a’r Metro.

Esboniodd yr Ysgrifennydd Cabinet fod yn rhaid i gynllunwyr chwarae rôl hanfodol wrth gynorthwyo Llywodraeth Cymru i gyrraedd ei thargedau allweddol. Mae’r targedau hynny’n cynnwys adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy, gan leihau allyriadau carbon a sicrhau bod Cymru’n fwy llewyrchus.

Gwnaeth Lesley Griffiths sicrhau’r gynulleidfa bod Llywodraeth Cymru’n llwyr werthfawrogi’r rôl bwysig sydd ganddynt hwythau o safbwynt sicrhau bod Cymru’n dod yn wlad fwy cynaliadwy a llewyrchus. Dywedodd:

“Mae’r system gynllunio wedi diogelu ein hasedau naturiol a’n hadeiladau mwyaf pwysig. Mae wedi darparu cartrefi a swyddi ac mae hynny wedi bod o gymorth i adfywio ein cymunedau a chanol ein trefi.

“Ond ym marn nifer o bobl, gan gynnwys rhai cynllunwyr, uwch-reolwyr a gwleidyddion, yr unig beth y mae cynllunio’n ei wneud yw rheoleiddio gweithgareddau a wneir gan eraill.

“Os ydym eisiau i Gymru fod yn wlad fwy cynaliadwy mae angen inni i gyd sylweddoli gwerth y system gynllunio, gan gynnwys y gwerth economaidd sy’n dod yn ei sgil.

“Rydw i wedi nodi’r 5 o ofynion sydd gennyf ar gyfer y system gynllunio . Credaf fod angen i bawb ymrwymo iddynt. Edrychaf ymlaen at gydweithio’n agos gyda’r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol yng Nghymru a chynllunwyr ledled Cymru dros y blynyddoedd nesaf. Drwy hynny bydd modd inni droi’r wireddu’r weledigaeth y soniais amdani heddiw yn realiti.”