Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn cynnal trafodaethau ym Mrwsel am sut y gall Gymru weithio gyda phartneriaid yn Ewrop yn dilyn penderfyniad Prydain i adael yr UE.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Medi 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn cyfarfod â Gweinidogion rhanbarthol a chynrychiolwyr y Comisiwn Ewropeaidd i drafod sut y mae polisïau amgylcheddol arloesol Cymru, megis Deddf yr Amgylchedd (Cymru), ac ymrwymiadau, megis gwella ansawdd aer ac ailgylchu, yn gweithio i Gymru. 

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet hefyd yn amlygu pwysigrwydd cynnal mynediad llawn a dirwystr i Gymru i'r farchnad sengl, sy'n rhoi mantais i'n diwydiant bwyd a diod ffyniannus, ymysg sectorau eraill pwysig. Mae'r Prif Weinidog wedi ei gwneud yn glir bod hyn yn flaenoriaeth i Gymru a bydd yn pwyso am hyn gyda Llywodraeth y DU.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:

"Mae polisїau a deddfwriaeth yr UE wedi cael effaith gadarnhaol ar ein hamgylchedd a'n hiechyd, ac wedi diogelu a chefnogi ein diwydiannau ffermio a physgota. Wrth i ni baratoi i adael yr UE y byddwn yn edrych ar sut y gall y rheoliadau pwysig hyn gael eu dyblygu, a lle y bo'n bosibl, eu haddasu a'u cryfhau i fodloni anghenion penodol Cymru.

"Mae ein partneriaid yn yr UE yn bwysig iawn i ni. Mae Cymru yn genedl allblyg, ac mae bellach yn fwy pwysig nag erioed ein bod yn cydweithio â’n partneriaid er mwyn sicrhau’r canlyniad gorau posibl ar gyfer Cymru."

Mae rhaglen Ysgrifennydd y Cabinet ym Mrwsel yn cynnwys cyfarfodydd gyda Chabinet y Comisiynwyr Amaethyddol ac Iechyd, yr Uwch Gynghorydd ar gyfer Datblygu Cynaliadwy i Lywydd y Comisiwn Ewropeaidd, cynrychiolwyr ffermwyr ac Aelodau Cymreig Senedd Ewrop.