Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig wedi croesawu’r trafodaethau cynhyrchiol â rhanddeiliaid am ddyfodol Cymru y tu allan i’r UE yn y Sioe Frenhinol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Gorffennaf 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r cyfarfod yn dilyn y trafodaethau ford gron gwreiddiol rhwng y Prif Weinidog, Ysgrifennydd y Cabinet ac unigolion amlwg yn sectorau amaeth, pysgodfeydd a’r amgylchedd ar 4 Gorffennaf, lle gwnaed ymrwymiad i barhau i weithio gyda’i gilydd i wynebu’r heriau a chydio yn y cyfleoedd a ddaw wrth i’r Deyrnas Unedig adael yr UE. 

Yn ystod y cyfarfod, cytunodd y grŵp ar amodau cyd-gytundeb lefel uchel sy’n datgan y bydd yr holl sectorau’n gweithio gyda’i gilydd i hwyluso trafodaethau Llywodraeth Cymru â Llywodraeth y DU ar delerau ac amseriad Brexit ac i ddatblygu polisïau amaeth ac amgylcheddol i baratoi Cymru ar gyfer dyfodol y tu allan i’r UE. 

Cytunwyd hefyd y dylai masnachu â’r farchnad sengl a mynediad ati fod yn graidd i’r trafodaethau ar adael yr UE. 

Meddai Ysgrifennydd y Cabinet:

“Mae trafodaethau heddiw wedi bod yn gynhyrchiol.  Er ei bod yn adeg o ansicrwydd, mae’n bwysig hefyd edrych ar y cyfleoedd.  Mae yma gyfle inni greu ffordd Gymreig newydd o wneud pethau yn y sectorau ffermio, bwyd ac amgylcheddol.  Rhaid inni fod yn uchelgeisiol, llawn dychymyg a dewr. 

“Rwy’n falch bod ymrwymiad i gydweithio mewn partneriaeth go iawn.  Rwy’n credu bod hyn yn ein rhoi yn y sefyllfa gryfaf i wynebu heriau’r dyfodol ac i sicrhau’r canlyniad gorau posib i sectorau ffermio, bwyd ac amgylcheddol Cymru.” 

Meddai Llywydd NFU Cymru, Stephen James: 

“Calondid i NFU Cymru yw gweld parodrwydd Ysgrifennydd y Cabinet i weithio â’r diwydiant i ddatblygu polisi amaethyddol cyffredinol sy’n ateb y pwrpas, sy’n edrych tua’r dyfodol, sy’n ein gneud yn fwy cystadleuol ac sy’n ein galluogi i wireddu’n huchelgais o ddiwydiant cynhyrchiol, blaengar a phroffidiol fydd yn arwain at greu swyddi a buddsoddi yng Nghymru. 

“Rhan hanfodol o unrhyw bolisi fydd sicrhau’r amodau gorau i fasnachu ag Ewrop.  Bydd hynny’n parhau’n hanfodol bwysig i ddiwydiant bwyd a diod Cymru.”

Meddai Rachel Sharp, Pennaeth yr Ymddiriedolaeth Natur:

“Rydym wedi ymrwymo i gydweithio â’n holl bartneriaid, gan gynnwys ffermwyr, gyda golwg ar reoli tir mewn ffordd gynaliadwy.  Yn ogystal â diogelu cyflenwadau bwyd, yr her fwyaf yw diogelu’r amgylchedd, dŵr, ynni a charbon.  Dyma gyfle anferth inni nawr weithio gyda’n gilydd i greu’r Gymru a garem.”