Neidio i'r prif gynnwy

Cafodd cynllun ynni cymunedol fydd yn defnyddio yr elw i wella parc lleol ei agor yn swyddogol heddiw gan Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd.  

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Hydref 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae cynllun pŵer dŵr 100 kw Parc Taf Bargoed ym Mharc Taf Bargoed ym Merthyr yn cael ei redeg gan Grŵp Ffrindiau Parc Taf Bargoed.  

Bydd y cynllun yn cynhyrchu 480MWh o ynni y flwyddyn a’r incwm fydd yn cael ei greu yn cael ei fuddsoddi yn ôl i’r parc i wella’r cyfleusterau, cynnal warden y parc a gwneud gwelliannau amgylcheddol er lles y gymuned gyfan.  

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo yn ei Raglen Lywodraethu i gefnogi datblygiad mwy o gynlluniau ynni cymunedol fel hyn ledled Cymru.  Mae cynllun Parc Taf Bargoed wedi derbyn cymorth sylweddol gan Lywodraeth Cymru tuag at ei adeiladu.  

Wrth siarad yn yr agoriad, dywedodd Lesley Griffiths:

“Mae’n gyffrous i agor y cynllun ynni lleol llwyddiannus hwn.  Mae’n enghraifft wych i gymunedau eraill ledled Cymru sydd o bosib yn bwriadu defnyddio eu hasedau lleol i fodloni eu hanghenion ynni a bod yn fwy cadarn yn y dyfodol.  

“Os ydym am gael system ynni sy’n gweithio i Gymru, mae angen i fwy o gymunedau benderfynu rheoli eu anghenion ynni lleol.  Rydym yn barod i gefnogi cymunedau i gyflawni hyn, gan gynnwys drwy ein gwasanaeth Ynni Lleol a agorodd yn gynharach eleni ac sy’n cynnig cyngor a chymorth technegol.”    


Yn ystod yr ymweliad, dechreuodd Ysgrifennydd yr Amgylchedd y tyrbin i ddatgan bod y cynllun ar agor yn swyddogol.