Neidio i'r prif gynnwy

Mae cyfran yr aelwydydd yng Nghymru yr amcangyfrifir eu bod yn byw mewn tlodi tanwydd, wedi lleihau 6 phwynt canran mewn 4 blynedd yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Gorffennaf 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Roedd yr adroddiad gan y Sefydliad Ymchwil Adeiladu (BRE) yn amcangyfrif bod lefelau tlodi tanwydd ar draws holl aelwydydd Cymru wedi lleihau o 29% yn 2012 i 23% yn 2016.

Yn y cyfamser, dros yr un cyfnod, amcangyfrifwyd bod nifer yr aelwydydd sy'n agored i niwed ac sydd mewn tlodi tanwydd wedi lleihau 7 pwynt canran ac mae canran yr aelwydydd yr ystyrir eu bod mewn tlodi tanwydd difrifol wedi lleihau o 5% i 3%.

Mae'r adroddiad BRE yn awgrymu bod y cwymp o ganlyniad i gyfuniad o gynnydd mewn incwm cartrefi, defnyddio llai o ynni yn y cartref o ganlyniad i welliannau o ran effeithlonrwydd ynni, a phrisiau nwy ac olew is.

Mae'r adroddiad yn nodi taw effaith effeithlonrwydd ynni yw lleihau'r lefelau arfaethedig o dlodi tanwydd ym mhob aelwyd gan tua 80,000  o aelwydydd a lleihau'r lefelau arfaethedig o dlodi tanwydd mewn aelwydydd sy'n agored i niwed gan tua 73,000 o aelwydydd.

Nod rhaglen Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru yw hyrwyddo effeithlonrwydd ynni a mynd i'r afael â thlodi tanwydd. Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £26 miliwn yn y rhaglen eleni ac ers ei lansio yn 2011, mae Cartrefi Cynnes wedi gwneud gwelliannau i dros 38,000 o gartrefi ledled Cymru.

Mae'r rhaglen Cartrefi Cynnes yn darparu cefnogaeth drwy Nyth, sef cynllun tlodi tanwydd sy'n ymateb i'r galw ar gyfer aelwydydd unigol, ac Arbed, sy'n cefnogi cynlluniau arbed ynni mewn cymunedau difreintiedig penodedig.

Wrth groesawu cyhoeddiad heddiw, dywedodd Lesley Griffiths:

"Mae canfyddiadau'r adroddiad hwn gan y Sefydliad Ymchwil Adeiladu yn galonogol iawn.  Maent yn dangos bod nifer yr aelwydydd yng Nghymru sydd mewn tlodi tanwydd wedi lleihau 6 phwynt canran mewn pedair blynedd.

"Mae mynd i'r afael ag effeithiau tlodi tanwydd yn un o amcanion allweddol y llywodraeth hon.  Dyna pan rydym mor ymrwymedig i fuddsoddi degau o filiynau o bunnoedd mewn rhaglenni megis Cartrefi Cynnes sy'n cynnwys y cynlluniau Nyth ac Arbed.

"Mae mynd i'r afael â thlodi tanwydd yn gwneud synnwyr ar sawl lefel. Nid yn unig y mae'n gwella bywydau pobl ar incwm isel yn uniongyrchol ond mae hefyd yn ein helpu i leihau allyriadau carbon a sbarduno twf sylweddol yn yr economi - ffordd gynaliadwy iawn o ddatblygu".