Neidio i'r prif gynnwy

Aeth Ysgrifennydd yr Economi a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i Flaenau Gwent i drafod cynlluniau ar gyfer parc technoleg gwerth £100 miliwn a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Gorffennaf 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn dilyn cyhoeddiad wythnos ddiwethaf, cyfarfu Ysgrifennydd yr Economi a Gweinidog Dysgu Gydol Oes, sy'n cadeirio Tasglu'r Cymoedd, â chynrychiolwyr Cyngor Blaenau Gwent a Chadeirydd Bwrdd Ardal Menter Glyn Ebw i ddechrau trafod y cynlluniau. 

 

Dywedodd  Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi: 

 

"Mae'n bleser bod ym Mlaenau Gwent heddiw i drafod y cynlluniau ar gyfer ein parc technoleg newydd. Mae ganddo'r potensial i greu mwy na 1500 o swyddi amser llawn newydd, ac i gefnogi datblygiad economaidd ledled rhanbarth blaenau'r cymoedd. 

 

"Dw i'n sylweddoli bod y penderfyniad yr wythnos ddiwethaf i beidio â gwarantu Cylchffordd Cymru wedi siomi llawer o bobl yn yr ardal. Fodd bynnag, roedd y dystiolaeth yn dangos mai busnesau eraill a fyddai wedi dod â'r budd mwyaf i'r economi leol yn hytrach na'r gylchffordd ei hun, yn enwedig felly wrth i'r sectorau modurol a pheirianneg greu clwstwr o fusnesau yn yr ardal. 

 

"Dyna pam rydyn ni wedi neilltuo £100 miliwn dros gyfnod o 10 mlynedd i gefnogi'r prosiect hwn. Y cam cyntaf  fydd codi cyfleuster 40,000 troedfedd sgwâr ar gyfer gweithgynhyrchu ar dir sydd ar hyn o bryd yn eiddo cyhoeddus. 

 

 

"Roeddwn yn meddwl ei bod yn bwysig fy mod yn rhoi o'm hamser i ddod i Flaenau Gwent heddiw i ddechrau trafodaethau cynnar â phartneriaid lleol ac i gadarnhau i bobl yr ardal fod Llywodraeth Cymru wedi ymroi'n llwyr i sicrhau bod y parc technoleg fodurol newydd hwn yn llwyddo. 

 

" Rydym yn awyddus i roi hyn ar waith ar unwaith a byddaf yn trefnu digwyddiad bord gron yn yr ardal yn ystod yr wythnosau nesaf gydag amrywiaeth ehangach o randdeiliaid a phartneriaid o'r sector preifat i drafod ein cynlluniau'n fanylach."